Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Rhagfyr 2020)

Summary

Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
 

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol gofrestredig) Methu ag anfon adroddiadau trafodiadau chwarterol cywir (Q3 2014, Q2 2015, Q1 2016, Q2 2016, Q2 2017) Methu ag anfon adroddiadau trafodiadau chwarterol cywir (Q3 2014, Q2 2015, Q1 2016, Q2 2016, Q2 2017) Pum cosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £2,750
Momentum Campaign Services (Ltd) (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn Rhoddion wedi eu dychwelyd ar ôl 30 diwrnod. Dim cosb
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (uned gyfrifyddu De Walsall) Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn Rhoddion wedi eu fforffedu yn wirfoddol Dim cosb

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn: 

"Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Yn yr un modd, mae dyletswydd sefydlu p’un a yw rhoddion yn rhai a ganiateir, a dychwelyd y rheiny nas caniateir, yn hir-sefydledig ac yn hysbys. Gyda’i gilydd, mae’r rheolau hyn yn sicrhau bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data cywir, prydlon ynghylch tarddiad arian pleidiau ac ymgyrchwyr, ac eu bod yn hyderus bod yr arian hwnnw’n dod oddi wrth ffynonellau a ganiateir.

"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt."

summary

Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Working 4 UK Ltd  (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â chyflwyno cofnod gariant cyflawn ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 Dim trosedd Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach
Scientists for EU (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) Methu â chyflwyno cofnod gariant cyflawn ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 Ni chafwyd trosedd Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
 

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.

Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.

Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.