Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Tachwedd 2020)
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
| Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
|---|---|---|---|
| Burnley and Padiham Independent Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodiadau cyn-etholiadol yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU | Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodiadau cyn-etholiadol yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU | 2 x £200 cosbau ariannol penodol Taliad yn ddyledus erbyn 10 Rhagfyr 2020 |
| Independent Network (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 yn hwyr. Methu â chyflwyno datganiad o ran treuliau tybiannol a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion Anfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 yn hwyr. Methu â chyflwyno datganiad o ran treuliau tybiannol a oedd yn cydymffurfio â’r gofynion Anfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
| The Citizens Movement Party UK (plaid wleidyddol gofrestredig) | Anfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Anfon cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
| Sinn Féin (registered political party) | Methu â chyflwyno cofnod gwariant cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 | Methu â chyflwyno cofnod gwariant cyflawn ar gyfer etholiad Senedd Ewrop 2019 | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Mae’n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data cywir a phrydlon am darddiad arian pleidiau gwleidyddol, a sut maent yn ei wario.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt."
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
| Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
|---|---|---|---|
| Rhyl People’s Assembly (ymgyrchydd di-blaid anghofrestredig) | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 | Ni chafwyd trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
| I’m With Corbyn North Wales (ymgyrchydd di-blaid anghofrestredig) a Donna Jones (hyrwyddwr) | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019 | Ni chafwyd bod trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Parent’s Choice (ymgyrchydd di-blaid cofrestredig) | Methu â chyflwyno cofnod gariant cywir ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 | Ni chafwyd trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414, neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.