Mae deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar uniondeb etholiadol a nodwyd yn Araith y Frenhines yn cynnig newidiadau sylweddol i'r system etholiadol a democrataidd. Bydd y mesurau'n effeithio ar bleidleiswyr y DU, ar y gymuned etholiadol ehangach ac ar y system ddemocrataidd.
Mae'r Comisiwn wedi rhoi cyngor a thystiolaeth i swyddogion yn Swyddfa'r Cabinet, ar gais, i lywio'r broses o ddatblygu'r mesurau. Byddwn yn cynnal sesiynau briffio i seneddwyr wrth iddynt ystyried cynnwys, effaith a manteision y Bil wrth iddo gael ei basio. Ar gyfer darpariaethau a basiwyd a ddaw i rym, byddwn yn gweithio tuag at eu rhoi ar waith yn llwyddiannus, a byddwn yn cefnogi'r gymuned etholiadol – yn cynnwys gweinyddwyr, pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr – i ddeall y newidiadau a gyflwynir gan y Bil hwn ac i baratoi mewn da bryd ar eu cyfer.