Pleidleiswyr anabl i gael gwell cymorth yn ystod etholiadau mis Mai 2026
Heddiw, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru gyda'r nod o wella cymorth i bobl anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yn ystod etholiadau mis Mai 2026.
Mae'r canllawiau'n amlinellu sut y gall staff etholiadau gynorthwyo pobl anabl sy'n pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'r newidiadau wedi'u llywio gan ymgynghoriad diweddar â phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol a grwpiau anabledd, a'u nod yw lleihau rhwystrau ymarferol fel y gall pawb bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Am y tro cyntaf, bydd y canllawiau bellach yn berthnasol i etholiadau’r Senedd ac etholiadau Senedd yr Alban, ochr yn ochr â'u defnydd presennol mewn etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadau cyffredinol yn y DU. Mae hyn yn darparu cysondeb ac eglurder i bleidleiswyr a staff etholiadau mewn gorsafoedd pleidleisio ledled Prydain Fawr.
Mae newidiadau allweddol i'r canllawiau yn cynnwys:
- Cyngor cryfach i gefnogi'r rhai ag anableddau cudd, gan gynnwys pobl sydd ag imiwnedd gwan a phobl â chymhlethdodau ôl-firol fel Covid hir, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod a'u cynllunio ar eu cyfer.
- Cyngor estynedig i helpu staff etholiadau i gysylltu â phleidleiswyr anabl cyn y diwrnod pleidleisio fel y gellir darparu cymorth perthnasol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, gan hyrwyddo ymwybyddiaeth o ba gymorth sydd ar gael a beth i'w ddisgwyl mewn gorsafoedd pleidleisio.
- Mae'r ystod o offer a mesurau a allai fod yn ddefnyddiol wrth gefnogi pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio wedi'u hehangu i gynnwys gwasanaeth cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain ar ffurf fideo, a hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio ar y protocol 'gweld mwgwd, gwisgo mwgwd' i gefnogi pleidleiswyr sy'n agored i niwed yn glinigol.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Mae’n bwysig y gall pawb bleidleisio’n gyfrinachol a heb rwystrau yn yr etholiadau a gynhelir ledled y DU fis Mai nesaf. Bwriad canllawiau diweddaraf y Comisiwn yw helpu staff etholiadol i wneud gorsafoedd pleidleisio yn fwy hygyrch, gan wella'r cymorth sydd eisoes ar gael fel y gall pobl anabl bleidleisio'n annibynnol.
“Tynnodd pleidleiswyr, staff etholiadol a grwpiau anabledd sylw at anghenion penodol pobl sy’n agored i niwed yn glinigol neu sydd ag anableddau cudd. O ganlyniad, rydym wedi gwneud sawl newid i'r canllawiau i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod yn glir a'u cynllunio ar eu cyfer cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf.”
Mae'r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi enghreifftiau o ddulliau llwyddiannus a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau i gefnogi pleidleiswyr anabl, megis ymgysylltu â grwpiau anabledd lleol a gweithredu strategaeth gyfathrebu cyn etholiadau. Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau diweddaraf ar gael yn yr ymateb i'r ymgynghoriad statudol.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Cyflwynodd Deddf Etholiadau 2022 fesurau i ddarparu mwy o hyblygrwydd a dewis o ran sut mae pleidleiswyr anabl yn cael eu cefnogi i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae’r newidiadau yn berthnasol i etholiadau lleol yn Lloegr, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiadau cyffredinol yn y DU.
- Ers hynny, mae Llywodraethau Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth cyn etholiadau mis Mai 2026 i alinio'r darpariaethau hygyrchedd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Senedd yr Alban â'r rhai a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau ar gyfer etholiadau'r DU.
- Mae’r Comisiwn yn darparu canllawiau i weinyddwyr etholiadol ar sut i ddarparu'r cymorth hwn mewn gorsafoedd pleidleisio. Wrth ddrafftio'r canllawiau wedi'u diweddaru, mae'r Comisiwn yn anelu at gydbwyso cynnwys cymaint o welliannau â phosibl a awgrymwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gan barhau i gefnogi hyblygrwydd Swyddogion Canlyniadau i ddarparu datrysiadau sy'n bodloni gofynion lleol.
- Roedd yr ymgynghoriad statudol ar y canllawiau drafft i Swyddogion Canlyniadau ar gymorth gyda phleidleisio i bobl anabl ar agor rhwng 4 Awst 2025 a 26 Hydref 2025. Cafwyd 72 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan aelodau o'r cyhoedd, gweinyddwyr etholiadol, ac ystod o sefydliadau elusennol, sefydliadau cymdeithas sifil a sefydliadau trydydd sector.