Rhoi dirwy ar y Blaid Geidwadol am adroddiad rhoddion anghywir
Rhoi dirwy ar y Blaid Geidwadol am adroddiad rhoddion anghywir
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dirwy o £17,800 i’r Blaid Geidwadol ar ôl iddi fethu â rhoi gwybod yn gywir am rodd a chadw cofnod cyfrifyddu cywir.
Gosodwyd y gosb ar y plaid yn dilyn cwblhad ymchwiliad manwl. Edrychodd yr ymchwiliad ar p’un a ddaeth unrhyw drafodion yn ymwneud â gwaith yn 11 Stryd Downing o dan y gyfundrefn sy’n cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn, a ph’un a rhoddwyd gwybod am unrhyw gyllid tebyg fel sy’n ofynnol.
Gwnaeth yr ymchwiliad ganfod bod y blaid wedi methu â rhoi gwybod yn llawn am rodd o £67,801.72 gan Huntswood Associates Limited ym mis Hydref 2020. Roedd y rhodd yn cynnwys £52,801.72 oedd yn gysylltiedig â chostau adnewyddu yn 11 Stryd Downing. Ni rhoddwyd gwybod am werth llawn y rhodd, fel a oedd yn ofynnol, yn adroddiad rhoddion Ch4 2020 y blaid.
Daeth y Comisiwn i’r casgliad hefyd nad oedd y cyfeiriad yng nghofnodion ariannol y blaid at y taliad o £52,801.72 a wnaed gan y blaid ar gyfer y gwaith adnewyddu, yn gywir.
Gwnaeth yr ymchwiliad ganfod bod penderfyniadau yn ymwneud â thrin a chofnodi’r rhodd hwn yn adlewyrchu methiannau difrifol yn systemau cydymffurfiaeth y blaid.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn y Comisiwn Etholiadol:
“Gwnaeth ein hymchwiliad i’r Blaid Geidwadol ganfod na ddilynwyd y cyfreithiau o amgylch cofnodi ac adrodd ar roddion.
“Rydym yn gwybod bod gan bleidleiswyr bryderon am dryloywder cyllid pleidiau gwleidyddol. Mae gofynion adrodd ar waith fel bod y cyhoedd yn gallu gweld o ble y daw arian. Gall adrodd yn anghywir tanseilio ymddiriedaeth yn y system .
“Roedd penderfyniadau a gweithrediadau’r blaid yn adlewyrchu methiannau difrifol yn ei systemau cydymffurfio. Fel plaid wleidyddol mawr gydag adnoddau da sy’n cyflogi arbenigwyr cydymffurfiaeth a chyllid, ac sydd â symiau sylweddol o arian yn mynd trwy ei chyfrifon, dylai fod gan y Blaid Geidwadol systemau sy’n ddigon gwydn i fodloni ei gofynion adrodd cyfreithiol.”
Ar gyfer y drosedd o fethu ag adrodd yn gywir gwerth llawn y rhodd gan Huntswood Associates ar 19 Hydref, mae’r Comisiwn wedi gosod cosb o £16,250. Am fynd yn groes i’r gofyniad i gadw cofnodion cyfrifyddu cywir, mae cosb o £1,550 wedi’i gosod.
Prif ganfyddiadau’r ymchwiliad
Ar 19 Hydref 2020, trosglwyddodd Huntswood Associates Limited £67,801.72 i’r Blaid Geidwadol. Yn ôl y dystiolaeth, nododd yr Arglwydd Brownlow, cyfarwyddwr Huntswood Associates Limited, bod £15,000 o’r swm hwnnw ar gyfer digwyddiad. Nododd yn benodol bod y £52,801.72 oedd yn weddill yn rhodd i gyflenwi taliad cynharach o’r un gwerth a wnaed gan y blaid i Swyddfa’r Cabinet. Talodd Swyddfa’r Cabinet dair anfoneb dros haf 2020 ar gyfer y gwaith i adnewyddu’r breswylfa breifat yn 11 Stryd Downing. Cyfanswm yr anfonebau oedd £52,801.72. Gwnaed y taliadau hynny ar sail cytundeb y byddai’r swm yn cael ei ad-dalu gan y blaid. Cafodd ei ad-dalu ar 6 Awst 2020. Rhagwelodd y blaid y byddai’n cael ei had-dalu gan ymddiriedolaeth arfaethedig, oedd yn cael ei hystyried ar y pryd ond heb ei chreu.
Ar 27 Ionawr 2021, cyflwynodd y blaid ei hadroddiad rhoddion Ch4 2020 i’r Comisiwn. Rhoddodd wybod ei bod wedi cael £15,000 gan Huntswood Associates Limited. Ni wnaeth y blaid adrodd ar y £52,801.72 oedd yn weddill a dderbyniodd.
Roedd ein hymchwiliad, a lansiwyd ar 28 Ebrill 2021, yn ystyried p’un a oedd y £52,801.72 yn rhodd ac yn adroddadwy i’r Comisiwn. Gwnaethom ddyfarnu ei fod yn rhodd, a dylai fod wedi’i adrodd.
Yng nghofnodion a chyfrifon ariannol y blaid, cafodd y £52,801.72 a dalodd i Swyddfa’r Cabinet ei gofnodi fel “benthyciad ymddiriedolaeth ddall”. Nid oedd y taliad yn fenthyciad ac nid oedd yr ymddiriedolaeth wedi’i ffurfio, felly nid oedd cyfeiriadau tebyg yn adlewyrchu amgylchiadau’r gwariant yn gywir.
Gwnaeth yr Arglwydd Brownlow hefyd dalu’n uniongyrchol i’r cyflenwr nifer o anfonebau ychwanegol oedd yn ymwneud â’r gwaith adnewyddu. £59,747.40 oedd y cyfanswm. Gwnaethom ystyried p’un a oedd y trafodion hyn yn cwrdd â threuliau a achoswyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan y blaid. Byddai hyn yn eu gwneud yn rhoddion o dan ddiffiniad y gyfraith etholiadol. O’r dystiolaeth a gasglwyd, nid oeddem yn fodlon bod y blaid wedi cytuno i gwrdd â’r treuliau hyn na bod taliad yr Arglwydd Brownlow yn cwrdd â chost a achoswyd gan y blaid. Felly, daethpwyd i’r casgliad nad oeddent yn rhoddion adroddadwy, ac ni ddaethom o hyd i droseddau mewn perthynas â’r taliadau hynny.
Diwedd
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddarparu tryloywder ynghylch ei broses o wneud penderfyniadau ac i hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r gyfraith. Gan ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn, rydym wedi cyhoeddi adroddiad ymchwiliad sy’n manylu ein canfyddiadau. Mae hwn ar gael ar ein gwefan.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Comisiwn yn agor ac yn cynnal ymchwiliadau yn unol â’i Bolisi Gorfodi. Mae cynnwys y polisi yn ofyniad statudol, a chafodd ei ddatblygu ar ôl proses ymgynghori.
- Caiff rhoddion i bleidiau gwleidyddol eu rheoleiddio gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadol a Refferenda 2000.
- Diffinnir rhodd fel arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i blaid heb dâl neu ar delerau nad ydynt yn fasnachol, sydd â gwerth sydd dros £500. Pan fydd pleidiau’n cael rhodd, mae’n rhaid iddynt wirio p’un y gallant ei dderbyn, ei gofnodi a rhoi gwybod i ni os yw ei werth dros £7,500.
- Mae rhoddion yn cynnwys:
- rhodd o arian neu eiddo arall
- nawdd a ddarperir mewn perthynas â phlaid wleidyddol
- tanysgrifiad neu ffi arall a dalwyd am gysylltiad â phlaid, neu am aelodaeth o blaid
- unrhyw arian a wariwyd (heblaw gan blaid neu ar ran plaid) wrth dalu unrhyw dreuliau a achoswyd gan blaid yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol
- defnydd o swyddfa am ddim neu am gost a ostyngwyd yn benodol
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.