Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben
Electoral Commission publishes concluded investigation update
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cwblhau ymchwiliad i ymgyrch grwp Best for Britain. Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
| Pwy y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ei ganfod | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Best For Britain (ymgyrchydd trydydd parti) | Methu â dychwelyd rhodd nas caniateir o £50,000 o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn | Dau drosedd Dychwelwyd y rhodd nas caniateir yn wirfoddol gan yr ymgyrchydd, er ar ôl y dyddiad cau o 30 diwrnod | Dirwy o £900 Talwyd ar 9 Rhagfyr 2025 |
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol ar waith i sicrhau bod pleidiau ac ymgyrchwyr dim ond yn derbyn arian gan ffynonellau a ganiateir. Pan na chaniateir rhodd, rhaid ei dychwelyd yn brydlon a'i hadrodd er mwyn sicrhau tryloywder. Mae'n bwysig y cydymffurfir â’r gofynion er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn y system.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau.
• defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae’r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau’r Comisiwn. Dyma ran bwysig o’i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi’n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi’u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i’r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.
- Mae ymgyrchwyr trydydd parti neu ymgyrchwyr di-blaid yn unigolion sy'n ymgyrchu cyn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr Mae rheolau y mae'n rhaid i ymgyrchwyr di-blaid eu dilyn ar wariant ymgyrchu, rhoddion ac adrodd ac mae’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio rhain. Mae canllawiau ynghylch ymgyrchwyr trydydd parti ar gael ar ein wefan.