Cyflwyno argraffnodau digidol
Summary
Mae angen i ymgyrchwyr gynnwys argraffnodau ar rai deunydd ymgyrchu digidol.
Newidiadau
Manylion yw argraffnodau y mae angen iddynt ymddangos ar ddeunydd gwleidyddol neu ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad er mwyn dangos pwy sydd wedi cynhyrchu a thalu am y deunydd. Mae angen iddynt gynnwys enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran.
Mae angen argraffnod ar hysbysebion digidol taledig yn seiliedig ar eu diben. Er enghraifft, mae angen argraffnod ar hysbyseb taledig os gellir ystyried yn rhesymol mai ei ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi neu atal cefnogaeth i:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig (fel AS neu gynghorydd)
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr, neu ddeiliaid swyddi etholedig sy'n gysylltiedig â'u cefnogaeth i bolisïau penodol neu eu gwrthwynebiad iddynt, neu drwy fod â barn benodol
- categorïau eraill o ymgeiswyr, ymgeiswyr y dyfodol neu ddeiliaid swyddi etholedig nad ydynt yn gysylltiedig â pholisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ASau a gafodd eu magu yn eu hetholaeth
Mae hysbysebion digidol taledig sy'n bodloni unrhyw un o'r amodau hyn bob amser yn gofyn am argraffnod, nid dim ond yn y cyfnod cyn etholiadau.
Mae angen i ddeunydd digidol organig, neu ddeunydd nad yw’n ‘hysbyseb taledig', gynnwys argraffnod os caiff:
- ei gyhoeddi gan neu ar ran:
- plaid wleidyddol gofrestredig
- ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig (fel AS neu gynghorydd)
- ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
- ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
- a’i fod yn ddeunydd deiseb adalw neu'n ddeunydd etholiad.
Mae deunydd sydd angen argraffnod yn cynnwys:
- postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- deunydd ar wefan
- hysbysebion mewn papurau newydd ar-lein
- fideos
- delweddau
- negeseuon uniongyrchol ar WhatsApp
Mae hefyd yn ofynnol ar ddeunydd sain megis hysbysebion mewn podlediadau neu ffrydiau.
Mae rheolau argraffnod digidol hefyd ar waith ar gyfer rhai etholiadau a refferenda yn yr Alban.
Ni fydd angen i aelodau cyffredin o'r cyhoedd gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd digidol organig.
Ein rôl
Ni sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith mewn perthynas ag argraffnodau ar ddeunydd etholiad argraffedig ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ychwanegu argraffnodau at ddeunydd etholiad argraffedig hefyd, a'r heddlu sy'n gorfodi'r cyfreithiau hyn.
Mae gennym bellach gyfrifoldeb tebyg am argraffnodau ar ddeunydd digidol.
Rydym wedi llunio canllawiau statudol i bleidiau ac ymgyrchwyr ar y gofynion argraffnodau digidol. Mae hyn ar gyfer pleidiau, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ymgeiswyr, ymgeiswyr y dyfodol, deiliaid swyddi etholedig ac ymgyrchwyr deiseb adalw. Darllenwch ein canllawiau ar argraffnodau.