Cyflwynwyd y cod ymarfer presennol ym mis Ionawr 2019. Rydym yn ei ddiweddaru i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn cefnogi’r broses o achredu arsylwyr yn effeithiol yn y dyfodol.
Mae'r cynllun arsylwyr etholiadol achrededig yn elfen allweddol o'n democratiaeth, ac mae'n bwysig bod yr hawl i arsylwi prosesau democrataidd yn cael ei diogelu. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgareddau arsylwyr effeithio ar uniondeb y broses etholiadol.
Bydd y cod newydd yn rhoi safonau cytunedig i arsylwyr ynghylch yr hyn sy'n dderbyniol ar gyfer y cyfnod achredu cyfan ac nid ar ddiwrnod y pleidleisio yn unig.
Bydd adborth gan randdeiliaid ar yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i wella'r drafft cyn i'r fersiwn derfynol gael ei gosod gerbron Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd San Steffan. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
Bydd y cod ymddygiad newydd yn disodli'r fersiwn bresennol, a disgwylir i bob arsylwr achrededig gydymffurfio ag ef.
Byddwn hefyd yn llunio canllawiau i gefnogi arsylwyr yn eu gweithgareddau.
Os byddai'n well gennych anfon adborth mewn fformat gwahanol, neu os oes angen fersiwn Word o'r arolwg hwn arnoch, yna anfonwch e-bost at [email protected]