Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Mae'r canllawiau dilynol wedi cael eu paratoi i helpu Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu i gynllunio ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr a'i gynnal.
Mewn rhai ardaloedd heddlu, mae'r ymgeisydd a etholir i rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub1 . Yn y canllawiau hyn, byddwn yn tynnu sylw at unrhyw feysydd lle y caiff y swyddogaeth ychwanegol hon effaith ar y ffurflenni i'w defnyddio neu'r ffordd y byddwch yn rheoli'r broses.
Cafodd y canllawiau eu datblygu drwy ymgynghori'n fanwl ag aelodau o Fwrdd Cydlynu a Chynghori Etholiadol y DU (ECAB), y Gweithgor Etholiadau, Cofrestru a Refferenda (ERRWG) a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA). Mae'n adlewyrchu rhwymedigaethau cyfreithiol Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a'r hyn rydym ni, ECAB, ERRWG a'r AEA, yn credu y dylai Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ei ddisgwyl gan eu staff wrth baratoi ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a'u cynnal.
Safonau Perfformiad
Yn ogystal â'n rôl yn darparu cyngor a chanllawiau, rydym yn gosod safonau ac yn monitro perfformiad Swyddogion Canlyniadau trwy ein fframwaith safonau perfformiad.
Mae ein canllawiau i'ch cefnogi i gyflawni eich swyddogaethau yn cynnwys yr hyn yr ydym yn disgwyl y bydd angen i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ei gael ar waith a'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld ar gyfer canlyniadau allweddol y safonau sydd i'w cyflawni.
Dylid defnyddio'r fframwaith safonau perfformiad a'r canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau lleol i lywio'ch gwaith o ran monitro a chefnogi Swyddogion Canlyniadau lleol yn eich ardal.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith, gweler ein canllawiau safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at y Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a'r dyletswyddau y maent yn ymgymryd â nhw. Gan fod y dyletswyddau hyn, yn ymarferol, yn gallu cael eu cyflawni gan ddirprwyon a/neu staff penodedig, rydym yn defnyddio'r term ‘chi’ yn y canllawiau hyn i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu a phwy bynnag fydd yn cyflawni swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar ei ran.
Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘gall / dylai’ ar gyfer arfer a argymhellir.
Dylech gydgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig Swyddogion Canlyniadau lleol yn ardal yr heddlu, i lywio'ch gwaith cynllunio er mwyn sicrhau cysondeb drwy'r ardal heddlu gyfan.
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â'ch rolau a'ch cyfrifoldebau fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, cyd-destun ac amgylchiadau etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, cynllunio ar gyfer yr etholiad ac yn tynnu sylw at agweddau ar y broses etholiadol lle y gellir ymgymryd â pharatoadau cynnar.
Maent hefyd yn ymdrin â rhannau penodol o'r broses etholiadol rydych yn gyfrifol am ei chyflawni, gan gynnwys:
- y broses enwebu
- anerchiadau etholiadol ymgeiswyr
- gweinyddu'r etholiad
- dilysu a chyfrif y pleidleisiau a choladu a datgan y canlyniad
- ar ôl datgan y canlyniad
Pan fydd y canllawiau yn wahanol ar gyfer etholiadau cyfun, caiff y wybodaeth ei chynnwys mewn adran ehangol. Mae hyn yn golygu y bydd eicon â'r arwydd + wrth ymyl y pennawd perthnasol, a fydd yn ehangu i ddangos y canllawiau perthnasol.
Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r canllawiau hyn rydym wedi paratoi dogfen o gwestiynau ac atebion a ddylai ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol sydd gennych.
Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â'ch rôl na'ch cyfrifoldebau fel Swyddog Canlyniadau Lleol nac fel unrhyw Swyddog Canlyniadau arall. Mae'r Comisiwn wedi paratoi canllawiau ar wahân i Swyddogion Canlyniadau Lleol.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u hategu gan adnoddau y gellir cael gafael arnynt drwy'r dolenni a geir yn y canllawiau.
Os bydd gennych unrhyw gwestiwn am ein canllawiau neu unrhyw fater arall yn ymwneud â gweinyddu etholiadau, bydd timau lleol y Comisiwn ar gael i gynnig cymorth parhaus. Byddwn hefyd yn darparu gwasanaeth cynghori y tu allan i oriau er mwyn ymdrin ag ymholiadau gweinyddu etholiadau brys yn y cyfnod yn union cyn neu ar ôl unrhyw etholiadau a drefnwyd. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth y tu allan i oriau y byddwn yn ei ddarparu drwy ein Bwletin ar gyfer gweinyddwyr etholiadol.
Lòg newidiadau
| Dyddiad diweddaru | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Tachwedd 2023 | Diweddariadau drwy gydol y canllawiau i gynnwys darpariaethau Cam 2 o Ddeddf Etholiadau 2022 |
| Ionawr 2024 | Adrannau Enwebiadau a Deunyddiau i Bleidleiswyr wedi'u diweddaru i gynnwys y gofyniad i gyfeiriad ymddangos ar y papurau pleidleisio |
| Mawrth 2024 | Wedi dileu enwau ardaloedd heddlu penodol lle mae'r CHTh yn gyfrifol am y swyddogaeth dân. |
- 1. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Diwygio) 2020 ↩ Back to content at footnote 1