| Argraffu'r canllawiau llawn

Presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu

Dim ond nifer gyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref. Dim ond y bobl ganlynol a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref i chi:1

  • yr ymgeisydd
  • y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu
  • asiant etholiadol yr ymgeisydd, ar yr amod eich bod wedi derbyn hysbysiad o'i benodiad. Gellir cyflwyno'r hysbysiad o benodiad asiant etholiad ar yr un pryd â'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.

Nid oes unrhyw ddarpariaeth i is-asiantiaid allu cyflwyno ffurflen enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy a all gyflwyno'r ffurflen cydsynio ag enwebiad, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun.

Ar ôl i ymgeisydd gyflwyno ei bapurau enwebu a'i ernes a'i fod yn sefyll ar sail enwebiad dilys, bydd hawl ganddo i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ymgeiswyr eraill a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Yn ogystal â'r ymgeisydd, bydd yr unigolion canlynol hefyd yn gallu bod yn bresennol a gwrthwynebu:

  • ei asiant etholiadol
  • ei gynigydd neu eilydd, fel y'i nodir ar y ffurflen enwebu

Os mai'r asiant etholiadol yw'r ymgeisydd ei hun, gall benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad. Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd ganddo a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.

Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg. 

Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu.

Dylech egluro i unigolion sy'n archwilio ffurflen cyfeiriad cartref sy'n gofyn am i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd beidio â chael ei gyhoeddi, mai dim ond yr unigolyn sy'n archwilio a ddylai ddefnyddio'r ffurflen i wneud y canlynol: 

  • gwrthwynebu'r enwebiad 
  • cyflwyno deiseb etholiadol 
  • gwneud cwyn i'r heddlu bod unigolyn wedi gwneud datganiad ffug  

ac y gall unrhyw ddefnydd arall dorri deddfwriaeth diogelu data ac felly y gallai rhywun sy'n defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall gael ei erlyn. 

Dylech gadw'r papurau enwebu yn ddiogel a gadael i'r unigolion y rhoddwyd caniatâd iddynt archwilio'r ffurflenni enwebu a chyfeiriad cartref wneud hynny hyd at y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu'r papurau enwebu. 

Ni ddylech ganiatáu unrhyw archwiliad arall oni bai bod y diben wedi'i awdurdodi gan y gyfraith. Er enghraifft, mae gan yr heddlu'r pŵer i archwilio rhai dogfennau o dan amgylchiadau penodol. Yn yr achosion hyn, dylai'r sawl sy'n gwneud y cais eich hysbysu o'r ddarpariaeth ddeddfwriaethol berthnasol sy'n awdurdodi archwiliad, fel y gallwch fod yn fodlon, wrth ganiatáu mynediad, eich bod yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau mynediad.

Pan fydd y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu wedi mynd heibio, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad, ar wahân i'r ffurflen cyfeiriad cartref, y mae'n rhaid ei dinistrio'r diwrnod gwaith nesaf yn dilyn cyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl datgan y canlyniad.  

Fodd bynnag, ni ddylid dinistrio'r ffurflen cyfeiriad cartref os oes deiseb neu achos cyfreithiol arall yn ymwneud â'r etholiad. Os felly, rhaid i chi aros tan y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i achosion o'r fath ddod i ben cyn dinistrio'r ffurflen.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2025