Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Lluniwyd y canllawiau canlynol er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau Lleol i gynllunio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr a'u cynnal. Maent wedi'u hysgrifennu i gwmpasu etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau.
Cawsant eu datblygu mewn ymgynghoriad agos â chydweithwyr yn y gymuned etholiadol, gan gynnwys Cymdeithas Prif Swyddogion Gweithredol Awdurdodau Lleol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadol y DU a'r Gweithgor Etholiadau, Cofrestriadau a Refferenda.
Mae'n adlewyrchu rhwymedigaethau cyfreithiol Swyddogion Canlyniadau Lleol a'r hyn rydym ni, a chydweithwyr ym mhob rhan o'r gymuned etholiadol, yn credu y dylai Swyddogion Canlyniadau Lleol ei ddisgwyl gan eu staff wrth baratoi ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a'u cynnal.
Safonau Perfformiad
Yn ogystal â'n rôl wrth ddarparu cyngor ac arweiniad, rydym yn gosod safonau ac yn monitro perfformiad Swyddogion Canlyniadau trwy ein fframwaith safonau perfformiad.
Mae ein canllawiau i'ch cefnogi i gyflawni eich swyddogaethau yn cynnwys yr hyn yr ydym yn disgwyl y bydd angen i Swyddogion Canlyniadau ei gael ar waith a'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld ar gyfer canlyniadau allweddol y safonau i'w cyflwyno. Dylech fod yn ystyriol o'r fframwaith hwn wrth gynllunio a chynnal yr etholiad.
I gael mwy o wybodaeth am y fframwaith, gweler ein canllawiau safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Anelir y canllawiau hyn yn uniongyrchol at y Swyddogion Canlyniadau Lleol a'r dyletswyddau y maent yn eu cyflawni. Gan y gall y dyletswyddau hyn, yn ymarferol, gael eu cyflawni gan ddirprwyon a/neu staff penodedig, rydym yn defnyddio'r term ‘chi’ yn y canllawiau hyn i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Lleol a phwy bynnag sy'n cyflawni swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau Lleol ar ei ran.
Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘gall / dylai’ ar gyfer arfer a argymhellir.
Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Yn y canllawiau hyn, mae'r term 'ardal bleidleisio' yn cyfeirio at ardal yr awdurdod lleol. 'Ardal yr heddlu' yw'r ardal a gwmpesir gan yr heddlu.
Mae canllawiau i helpu Swyddogion Canlyniadau i gynnal mathau eraill o etholiadau hefyd ar gael.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid.
Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r canllawiau hyn rydym wedi paratoi dogfen o gwestiynau ac atebion a ddylai ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol sydd gennych.