Deall Bil Cynrychiolaeth y Bobl

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Bil Cynrychiolaeth y Bobl. Mae’r bil yn cwmpasu:

  • cyflwyno mwy o ffurfiau awtomataidd o gofrestru pleidleiswyr
  • gostwng yr oedran bleidleisio fel y gall pobl ifanc 16 oed bleidleisio ym mhob etholiad y DU
  • ymestyn y rhestr o’r mathau o ID pleidleiswyr a dderbynnir
  • cryfhau rheoliadau cyllid gwleidyddol
  • rhoi mwy o gamau ar waith i amddiffyn ymgeiswyr rhag camdriniaeth
  • cryfhau gorfodi cyfreithiau cyllid gwleidyddol

”Rhaid i unrhyw newidiadau i’r system etholiadol, yn y pen draw, ddarparu gwelliannau ar gyfer pleidleiswyr. Wrth i’r bil fynd yn ei flaen, bydd y Comisiwn yn glir ynghylch maint a chymhlethdod y newidiadau a p’un a gellir eu cyflwyno yn effeithiol heb amharu ar ddiogelwch neu hygyrchedd.”

Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol

Grwpiau sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio (data o Brydain Fawr yn 2022)

 % wedi cofrestru
People aged 18-3471
Ethnic minorities77
Private renters65
Recent movers39
Overall population86

Ein rôl

Byddem yn gwerthuso cynlluniau peilot cofrestru yn annibynnol, gan ystyried y manteision i bleidleiswyr a gweinyddwyr a ddaw gyda phob dull.  

Canfu ein gwerthusiad o gynlluniau peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru eu bod yn llwyddiannus wrth nodi ac ychwnegu’n awtomatig, ychydig dros 14,500 o bleidleiswyr newydd i’r cofrestrau. Roedd hyn yn cynrychioli rhwng 2-8% o’r gofrestr ym mhob ardal awdurdod lleol.  

Os cyflwynir cofrestru awtomatig, byddem yn parhau i gynnig arweiniad a chefnogaeth i weinyddwr etholiadol, ac yn sicrhau fod y cyhoedd yn deall y newidiadau.  

Byddwn yn parhau i fesur cywirdeb a chyflawnder cofrestrau etholiadol yn rheolaidd.  

Rydym hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr cyn etholiadau. Byddwn yn parhau i wneud hyn, gan addasu ein dull ymgyrchu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r model cofrestru terfynol a rhoi ystyriaeth i wahaniaethau posibl ar draws y DU.   

Ein safbwynt

Byddai gwneud cofrestru yn fwy awtomataidd yn cael gwared ar rai o'r camau y mae’n rhaid i bobl eu cymryd i gyfranogi mewn etholiadau. Byddai’n gwneud cofrestru i bleidleisio yn haws ac yn fwy hygyrch.  

Mae cwmpas amlwg i wella’r system bresennol drwy gysylltu cofrestru etholiadol gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a thrwy ddefnyddio ffurfiau cofrestru awtomatig neu fwy awtomataidd. Byddai hyn yn helpu i gofrestru pobl a lleihau’r llwyth gwaith ar gyfer gweinyddwyr etholiadol.  

Tra gall cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gymryd yn hirach, dylid gwneud cynnydd sylweddol ar gofrestru awtomataidd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Bydd hyn yn annog rhagor o gyfranogiad ac yn cefnogi pobl ifanc 16 ac 17 oed sydd newydd gael eu hetholfreinio.

Rydym yn annog y llywodraeth i weithio’n gyflym i gyflwyno systemau awtomataidd i ychwanegu pleidleiswyr i gofrestrau etholiadol seneddol y DU, fel bod y gwelliannau ar waith mewn pryd i gofrestru pleidleiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.  

Mae llwyddiant y cynlluniau peilot yng Nghymru yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol i’r llywodraeth ei hystyried wrth roi ffurfiau cofrestru sy’n fwy awtomataidd ar waith ledled y DU.  

Gallai’r llywodraeth ystyried cynnwys ffurfiau cofrestru mwy awtomataidd o fewn y gwasanaethau mae pobl eisoes yn eu defnyddio. Er enghraifft, gwneud cais am basbort, diweddaru trwydded yrru, neu pan gaiff Rhif Yswiriant Gwladol ei roi ychydig cyn bo person ifanc yn troi’n 16 oed.

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc o blaid dysgu mwy am wleidyddiaeth ac etholiadau

 %
Young people think children and young people should learn more about politics in school/college72
Young people want to learn more about what difference their vote makes53

Mae tystiolaeth yn dangos, y cynharach mae person ifanc yn dysgu am wleidyddiaeth, y mwyaf tebygol y bydd yn ymgysylltu â democratiaeth.

Mae ymchwil ar draws nifer o wledydd a gwladwriaethau sydd wedi gostwng eu hoedran pleidleisio yn dangos bod pobl ifanc 16 ac 17 oed, pan gânt eu hetholfreinio, yn dueddol o bleidleisio mewn niferoedd uwch, na’r rheiny a gaiff yr hawl yn 18 oed. Mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd , Senedd yr Alban, ac etholiadau lleol yng Nghymru a'r Alban.

Canfu ein hymchwil diweddar hefyd mai pobl ifanc 16 i 17 oed yw'r grŵp sydd lleiaf tebygol o fod ar y gofrestr. 

Ein rôl

Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth y DU ac yn darparu cyngor ymarferol ynghylch sut gellid rhoi newidiadau i’r oedran pleidleisio ar waith.  

Ein blaenoriaethau fydd i:

  • sicrhau fod yr holl bleidleiswyr newydd yn gwybod sut i gofrestru a phleidleisio
  • sicrhau fod gan bleidleiswyr newydd fynediad at ddeunydd addysgol drwy eu hysgolion, colegau a'u cymunedau
  • cefnogi’r gymuned etholiadol i gyflwyno’r newidiadau hyn yn effeithiol.

Mae gennym eisoes adnoddau addysgol ar gael y gellir eu defnyddio mewn ysgolion ledled y DU. Rydym hefyd yn parhau i ehangu ein gwaith addysgol yn y blynyddoedd i ddod i sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad at addysg ddemocrataidd.

Mae’r adolygiad Cwricwlwm ac Asesu yn Lloegr yn argymell gwelliannau i addysg ddemocrataidd, i wneud addysg dinasyddiaeth yn orfodol o’r ysgol gynradd. Mae hyn yn unol â’r argymhellion a wnaethon gyda sefydliadau eraill yn y sector addysg.  

Yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r cwricwlwm yn 2027, byddwn yn gweithio gyda’r Adran Addysg, ysgolion a sefydliadau partner i wella addysg dinasyddiaeth.  

Rydym hefyd yn gweithio gydag adrannau addysg yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Ochr yn ochr â’r cynlluniau i ostwng yr oedran pleidleisio, mae angen i ni sicrhau fod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddemocratiaeth. Bydd hyn yn eu galluogi i gyfranogi’n llawn mewn etholiadau. 

Ein safbwynt

Mae angen i bleidleiswyr ifanc allu cofrestru i bleidleisio a chael mynediad at ffurfiau derbyniol o ID pleidleiswyr.  

Wrth i'r llywodraeth roi ffurfiau cofrestru fwy awtomataidd ar waith, byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau fod unrhyw ffynonellau data a ddefnyddir i gofrestru pobl ifanc yn dod o wasanaethau sy’n cael eu defnyddio ganddynt. Mae angen i'r rhestr o ffurfiau ID a dderbynnir gynnwys y ffurfiau y mae pobl ifanc yn fwy tebygol o’u cael.  

Rydym hefyd wedi galw am fwy o ddiweddariadau i’r cwricwlwm i helpu i baratoi pobl ifanc i fwrw eu pleidlais yn hyderus. Dylai fod pob plentyn yn cael y cyfle i dderbyn addysg ddemocrataidd drwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol. 

“Mae pleidleisio yn ffurfio arferion felly er mwyn datblygu cenedlaethau o ddinasyddion sy’n ymgysylltu ac yn cyfranogi yn y dyfodol, mae’n bwysig cefnogi dealltwriaeth fuan o sut i gymryd rhan mewn etholiadau, cymryd rhan mewn dadlau cadarn a pharchus, ac archwilio gwybodaeth yn feirniadol.”

Sam Hartley, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltiad Pleidleiswyr

Ein rôl

Byddwn yn parhau i rannu ein canfyddiadau, ein hargymhellion a'n dadansoddiad o sut mae'r gofynion ID pleidleisiwr wedi'u rhoi ar waith ers i'r polisi ddod i rym.

Byddwn yn rhoi gwybod i bleidleiswyr ynghylch unrhyw newidiadau i’r rhestr o fathau o ID a dderbynnir ac yn parhau i gyfathrebu pryd mae angen iddynt ddangos ID mewn gorsafoedd pleidleisio. Byddwn hefyd yn gweithio gyda grwpiau o bleidleiswyr sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio.

Byddwn yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol a staff gorsafoedd pleidleisio i gyflwyno unrhyw newidiadau i’r gofynion ID. Bydd hyn yn cynnwys darparu arweiniad ar wirio ID mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a staff gorsafoedd pleidleisio. 

Ein safbwynt 

Mae caniatáu i bleidleiswyr ddangos cardiau banc fel ffurf o ID yn llai diogel na'r gofynion presennol lle mae gofyn i bleidleiswyr ddangos ID â llun mewn gorsafoedd pleidleisio. Efallai na fydd y newid hwn yn helpu i wella diogelwch a hyder pleidleiswyr, wrth gynyddu'r baich gweinyddol ar staff gorsafoedd pleidleisio.  

Gan nad yw cardiau banc yn cynnwys llun a gan nad ydynt weithiau’n cynnwys enw llawn, efallai na fydd staff gorsafoedd pleidleisio yn gallu dilysu fod person yn bwy mae’n dweud ydyw. Byddai hefyd yn gofyn i staff gael ffordd wahanol o wirio ID am nad oes fformat, dyluniad na nodweddion dilysu cyffredin ar gyfer cardiau banc. Mae hyn yn wahanol i ffurfiau eraill o ID sydd â fformatau, strwythurau a nodweddion dilysu clir megis pasborts neu drwyddedau gyrru.

Rydym wedi argymell cyflwyno ardystio mewn gorsafoedd pleidleisio yn flaenorol. Mae Canada yn defnyddio ardystio yn ei hetholiadau ffederal. Mae'n galluogi pleidleiswyr cofrestredig sydd â ffurf ID a dderbynnir i ardystio dros rywun sydd heb ffurf ID a dderbynnir. O ganlyniad, mae’n cadw cyswllt â phleidleisiwr a enwir a all brofi ei ID.

Byddai ychwanegu ID digidol at y rhestr o ffurfiau ID a dderbynnir ar gyfer bwrw pleidlais mewn gorsafoedd pleidleisio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i bleidleiswyr a rhagor o opsiynau o ran profi eu hunaniaeth. Byddai Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr digidol hefyd yn helpu pleidleiswyr pe byddai cynghorau lleol yn gallu eu darparu yn agosach at y diwrnod pleidleisio.

Nid yw’r bil yn cynnig unrhyw newidiadau o ran ID pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu na fydd cardiau banc yn cael eu derbyn fel ffurf o ID pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon. Byddai’r gwahaniaethau o ran rheolau ID yn parhau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a allai achosi dryswch ymysg pleidleiswyr. 

Ein rôl

Byddwn yn parhau i reoleiddio cyllid gwleidyddol, yn cymryd camau gweithredu pan gaiff rheolau eu torri ac yn sicrhau tryloywder ar gyfer pleidleiswyr.  

Byddwn yn helpu pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr gwleidyddol, cymdeithasau anghorfforedig a rhoddwyr a reoleiddir i ddeall sut mae’r newidiadau yn eu heffeithio ac yn eu cefnogi i gydymffurfio â’r rheolau newydd hyn.

Ein safbwynt

Rydym wedi bod yn galw am ddiwygiau i fynd i'r afael â'r bylchau yn y system cyllid gwleidyddol ers tro. Mae angen newidiadau sylweddol er mwyn lleihau’r risg o arian tramor yn dod i mewn i wleidyddiaeth y DU ac er mwyn darparu gwell tryloywder ynghylch ffynonellau rhoddion.  

Gellid cryfhau rhai o gynigion presennol y llywodraeth.  

Ni fyddai cynigion y llywodraeth ynghylch rhoddion yn lleihau’r risg o arian tramor yn dod i mewn i wleidyddiaeth Prydain drwy gwmnïau. Nid ydynt yn cau'r bwlch presennol yn ddigonol, gan ei fod yn golygu y gallai cwmnïau barhau i roddi mwy o arian yn gyffredinol nag y maen nhw wedi'i wneud yn y DU.

Argymhellwn y dylid defnyddio elw cwmni i fesur ei enillion yn y DU, yn hytrach na refeniw. Nid yw refeniw yn darparu gwarant o’r fath, am nad yw o bosibl yn gyfwerth ag unrhyw arian a gedwir gan y cwmni yn dilyn costau.

O dan y cynigion presennol, byddai rhoddion cwmni yn parhau, i bob pwrpas, yn ddiderfyn. Yr unig derfyn rhag i gwmni allu rhoddi fyddai nifer y gwahanol bleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr y gall ddod o iddynt i dderbyn ei arian.

Mae gallu ymgyrchydd i gydymffurfio â’r rheolau yn hanfodol i’w effeithiolrwydd. Gall y rheolau hyn fod yn gymhleth i ymgyrchwyr gydymffurfio â nhw. Dylid eu cyflwyno mewn ffordd sy’n cydnabod yr angen am gymesuredd ac yn cyfyngu ar y baich gweinyddol ar y sawl sy’n derbyn rhoddion.

Ein rôl

Byddwn yn parhau i:

  • weithio gyda phartneriaid i gefnogi ymgeiswyr, pleidleiswyr a'r heddlu i fynd i’r afael â chamdriniaeth  
  • cefnogi ymgeiswyr, ymgyrchwyr a phleidiau fel eu bod yn deall beth sy’n gyfystyr â chamdriniaeth ac at bwy y dylent droi os byddant yn ei brofi
  • ymgymryd ag ymchwil gyda’r cyhoedd i ennyn gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n cymell ymddygiad annerbyniol a defnyddio hyn i greu datrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  

Yn dilyn argymhellion Cynhadledd y Llefarydd, rydym yn ystyried ar hyn o bryd sut gallai cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchu hwyluso amgylchedd ymgyrchu cadarn ond parchus.  

Bydd cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchu yn ei gwneud yn glir fod ymgyrchwyr yn gyfrifol am eu hymddygiad yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Bydd ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â phleidiau ac ymgyrchwyr gwleidyddol yn darparu dealltwriaeth gyffredin ynghylch ymgyrchu teg ac agored sydd yn gadarn ond yn barchus.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda llywodraeth y DU i ddiweddaru canllawiau ar gyfer yr heddlu, Swyddogion Canlyniadau ac ymgeiswyr ynghylch diogelwch gorsafoedd pleidleisio a chanolfanau cyfrif.

Ein safbwynt

Dylai cyflwyno cosbau cryfach ar gyfer bygwth helpu i atal darpar droseddwyr rhag cam-drin y rheiny sy’n cymryd rhan mewn etholiadau. Mae’n adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn, ac yn ystyried yr effaith ehangach y mae cam-drin yn ei chael ar ddemocratiaeth.  

Bydd tynnu’r gofyniad i gyhoeddi cyfeiriadau cartref ymgeiswyr yn eu galluogi i warchod eu hunain drwy ddewis i beidio â rhannu eu gwybodaeth bersonol mewn ffordd a allai eu gwneud yn agored i gamdriniaeth.  

Canfu ein hymchwil fod 65% o’r gamdriniaeth wedi digwydd ar-lein. Rhaid i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i gael gwared ar gynnwys sy’n cam-drin a datblygu offerynnau sgrinio i adnabod troseddwyr.    

Argymhellwn fod y llywodraeth yn ystyried creu dyletswydd gyffredinol newydd ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n gweithredu yn y DU. Gallai hyn atal y risgiau i etholiadau a diogelu dadlau gwleidyddol.  

Byddai’n helpu i ddarparu eglurder a dealltwriaeth gyffredin o’r camau gweithredu y mae angen i lwyfannau eu cymryd yn ystod cyfnodau etholiad. Byddai hefyd yn darparu sail gliriach i Ofcom weithredu os caiff rheolau eu torri.  

Rhaid i addysg ddemocrataidd chwarae rhan mewn mynd i’r afael â chamdriniaeth hefyd. Byddai diwygio addysg dinasyddiaeth yn paratoi pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Ein safbwynt

Byddai'r newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff cyfraith cyllid gwleidyddol ei gorfodi yn gwneud cosbau yn fwy cymesur â’r troseddau. Byddant hefyd yn ei gwneud yn haws i ymgeiswyr gydymffurfio â’r gyfraith.

Byddai ymestyn ein cylch gorchwyl i gynnwys gorfodi’r rheolau ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr trydydd parti lleol yn creu trefn sy’n fwy cymesur, effeithiol a chyd-gysylltiedig.

Byddai gwella’r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill yn galluogi cydweithio agosach. Byddai hyn yn cwmpasu’r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu a rheoleiddwyr eraill er mwyn eu cynorthwyo gyda’u swyddogaethau. Byddai’n ein galluogi i weithio gyda phartneriaid yn fwy effeithlon.

Byddai cynyddu’r ddirwy fwyaf bosibl y mae’n rhaid i bleidiau neu ymgyrchwyr eraill ei thalu yn atal diffyg cydymffurfio yn fwy effeithiol. Byddai hefyd yn rhoi mwy o hyder i bleidleiswyr bod camau priodol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â throseddau.  

Dylai’r ddirwy fwyaf bosibl adlewyrchu maint rhoddion a lefelau gwario mewn ymgyrchu modern yn well. Mae swm y ddirwy fwyaf bosibl wedi’i osod mewn deddfwriaeth eilradd fel £20,000. Byddai dirwy fwyaf bosibl o £500,000 yn cefnogi trefn gorfodi fwy hygyrch, effeithiol a chymesur.  

“Rydym yn parhau i wrthwynebu'r egwyddor o ddatganiad strategaeth a pholisi, a fyddai’n galluogi llywodraeth i arwain ein gwaith. Rhaid i annibyniaeth a didueddrwydd comisiwn etholiadol fod yn glir i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr ei weld, ac mae’r ffurf hwn o ddylanwad gan lywodraeth yn anghyson â'r rôl honno. Mae’r bil hwn yn cynnig cyfle amserol i ddiddymu’r pŵer y llywodraeth i ddynodi datganiad.”

Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, John Pullinger

Cydgyfnerthu cyfraith etholiadol

 Bydd y newidiadau yn y bil yn ychwanegu cymhlethdod pellach i gyfraith etholiadol. Bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i weinyddwyr etholiadau ac ymgyrchwyr gyflawni eu rolau. Gall wneud gwallau’n fwy tebygol, a allai gael effaith negyddol ar bleidleiswyr a’u profiad yn ystod etholiadau.  

Byddai cydgyfnerthu cyfraith etholiadol yn symleiddio ac yn moderneiddio'r ‘clytwaith’ sylweddol o ddeddfwriaeth etholiadol. Byddai hyn yn ei gwneud yn gliriach ar gyfer pleidleiswyr, yn haws i weinyddwyr ei defnyddio, a byddai’n lleihau'r risg o’i chymhlethodd a’i diffyg eglurder yn cael eu hecsbloetio.

Byddai gwneud cyfraith etholiadol yn fwy hygyrch yn:

  • cynyddu ymddiriedaeth a thryloywder yn y system
  • lleihau rhwystrau i ymgysylltiad democrataidd  
  • sefydlu system etholiadol fwy gwydn

Mae’r rhain i gyd yn rhan hanfodol o’n seilwaith cenedlaethol critigol.

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf:

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Chwefror 2026