Cynlluniau peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn ychwanegu dros 16,000 o bleidleiswyr newydd i’r gofrestr
Mae’r Comisiwn Etholiadol heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad gwerthuso ar gynlluniau peilot Llywodraeth Cymru sy’n profi cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru.
Yn gynharach eleni sefydlodd Llywodraeth Cymru gynlluniau peilot gyda phedwar awdurdod lleol - Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys - er mwyn profi a ellid defnyddio data a ddelir yn lleol i gofrestru pleidleiswyr heb gais, a elwir yn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.
Nododd ac ychwanegodd y cynlluniau peilot dros 14,500 o etholwyr newydd i’r cofrestrau yn awtomatig. Roedd hyn yn cynrychioli 2-8% o’r gofrestr ym mhob ardal awdurdod lleol. Cafodd tua 1,500 o gyrhaeddwyr (pobl ifanc 14-15 oed) eu cofrestru hefyd drwy’r cynllun peilot yng Ngwynedd a Phowys, sy’n cynrychioli 16-37% o’r holl gyrhaeddwyr dichonadwy yn yr ardaloedd hynny.
Mae tystiolaeth y Comisiwn yn awgrymu bod bron yr holl ychwanegiadau newydd i’r gofrestr yn ymddangos yn gywir.
Dywedodd y Fonesig Elan Closs Stephens CBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru:
“Rydym yn gwybod o’n hymchwil blaenorol bod tua 400,000 o bobl yng Nghymru heb eu cofrestru’n gywir a bod hanner o bobl yng Nghymru yn meddwl y byddai cofrestru awtomatig yn welliant i’r system gofrestru gyfredol.
“Mae’r cynlluniau peilot hyn yn awgrymu y gellid cyflwyno cofrestru awtomatig yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar gyflawnrwydd cofrestrau etholiadol a chyfranogiad mewn etholiadau yng Nghymru.
“O ran y broses cofrestru awtomatig, nid oedd angen camau pellach gan bleidleiswyr unigol oni bai eu bod wedi dewis optio allan. Fodd bynnag, roedd yn golygu gwaith ac adnoddau sylweddol i weinyddwyr etholiadol. Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried cyn unrhyw gyflwyno pellach.”
Cyn penderfynu a ddylid gweithredu cofrestru awtomatig, mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:
- Ystyried y data o’r canfas blynyddol i asesu cywirdeb y paru data
- Ystyried yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau yn gallu darparu system cofrestru awtomatig newydd yn llwyddiannus
- Gwneud asesiad o’r gost gyffredinol o weithredu ochr yn ochr â’r buddiannau tebygol
- Ystyried sut orau i weithredu math o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd yng Nghymru er mwyn caniatáu integreiddio effeithlon yn y dyfodol ag unrhyw system ledled y DU.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Farrell, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu (Cymru), ar 029 2034 6814, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu drwy e-bostio [email protected].
Nodiadau i Olygyddion
- Ni fydd cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Dylai’r rheiny sydd heb gofrestru’n barod, sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, neu sydd wedi newid eu henw barhau i gofrestru yn https://gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio erbyn canol nos ar ddydd Llun 20 Ebrill.
- Sefydlwyd y ddarpariaeth ar gyfer y cynlluniau peilot hyn gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025. Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i gyhoeddi ei adroddiad gwerthuso o’r cynlluniau peilot erbyn 1 Ionawr 2026.
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau