Pwy gynhyrchodd y deunydd ymgyrchu hwn?
We're showing you content for:
Mae argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu yn dweud wrthych pwy sy'n gyfrifol am ei gyhoeddi, ac ar ran pwy y mae'n cael ei hyrwyddo.
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i rai deunyddiau ymgyrchu ac etholiadol gynnwys argraffnod. Mae argraffnodau yn eich helpu i ddeall pwy sy’n ceisio dylanwadu arnoch gyda deunydd ymgyrchu.
Er bod y rheolau o amgylch argraffnodau yn gymwys ym mhob etholiad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ceir gofynion ychwanegol ar ddeunydd ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban.
Mae angen i argraffnodau cynnwys y canlynol:
- yr hyrwyddwr
- unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (ond nid yr hyrwyddwr)
- yr argraffydd (os yw'n ddeunydd argraffedig)
Mae'n drosedd i ddeunydd gael ei gyhoeddi heb argraffnod os yw'n ofynnol iddo gynnwys argraffnod yn ôl y gyfraith.
Argraffnodau ar ddeunydd etholiad argraffedig
Mae angen i bob math o ddeunydd etholiad argraffedig gynnwys argraffnod, gan gynnwys hysbysebion mewn papurau newydd ac ar hysbysfyrddau.
Ble gallaf ddod o hyd i'r argraffnod ar ddeunydd argraffedig?
Os yw'r deunydd etholiad yn ddogfen argraffedig un ochr – megis poster ffenestr – neu lle mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ar un ochr, rhaid gosod yr argraffnod ar yr ochr honno.
Os yw'n ddogfen argraffedig amlochrog, rhaid gosod yr argraffnod ar y dudalen gyntaf neu'r dudalen olaf.
Argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu digidol
Ystyr deunydd ymgyrchu digidol yw unrhyw gynnwys ymgyrchu ar ffurf electronig (ar-lein ac all-lein). Gallai'r cynnwys fod ar ffurf testun, ar ffurf sain neu ar ffurf weledol. Mae'n cynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar-lein, gwefannau, negeseuon ar apiau a hysbysfyrddau electronig.
Nid yw'n cynnwys galwadau ffôn, negeseuon SMS, grwpiau negesu preifat rhwng ffrindiau na negeseuon e-bost a gaiff eu hanfon gan bleidiau at eu haelodau.
Mae p'un a oes angen cynnwys argraffnod ar ddeunydd ymgyrchu digidol yn dibynnu ar y canlynol:
- a yw'n hysbyseb y telir amdani
- ei ddiben bwriadedig
- pwy gyhoeddodd y deunydd
Dysgwch fwy am ba fathau o ddeunydd digidol sydd angen cynnwys argraffnod.
Ble gallaf ddod o hyd i'r argraffnod ar ddeunydd digidol?
Rhaid i'r argraffnod digidol gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Os nad yw'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd, rhaid i'r argraffnod ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i argraffnodau fod naill ai'n ddarllenadwy neu'n glywadwy, yn dibynnu ar b'un a yw'n gynnwys gweledol neu ar ffurf sain. Rydym yn annog ymgyrchwyr i fod yn dryloyw a rhoi gwybodaeth glir i bleidleiswyr am bwy sydd wedi cynhyrchu deunydd ymgyrchu digidol.
Rhoi gwybod am ddeunydd heb argraffnod
Naill ai'r Comisiwn Etholiadol neu'r heddlu sy'n gyfrifol am sicrhau bod deunydd ymgyrchu ac etholiad yn cynnwys argraffnod, yn dibynnu ar y math o ddeunydd.
Rhoi gwybod am achos posibl o gyhoeddi deunydd heb argraffnod
Guidance on imprints
Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am argraffnodau, gallwch ddysgu mwy yn ein canllawiau.
Darllenwch ein canllawiau am argraffnodau ar ddeunydd argraffedig
Darllenwch ein canllawiau am argraffnodau ar ddeunydd digidol