Dyddiadau allweddol i bleidleiswyr yn 2026
We're showing you content for:
Mae'r amserlen hon ar gyfer etholiadau a gynhelir ledled y DU ddydd Iau 7 Mai 2026.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Etholiadau llywodraeth leol
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau maerol yn Lloegr
| Digwyddiad | Dyddiad cau | Cam Gweithredu |
|---|---|---|
| Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio | Dydd Llun 20 Ebrill | Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru er mwyn pleidleisio. |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais am bleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy | 5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill | Gwnewch gais i bleidleisio drwy'r post Darganfyddwch ble i anfon eich cais am bleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy | 5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill | Gwnewch gais i bleidleisio drwy ddirprwy Darganfyddwch ble i anfon eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy |
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar gyfer yr etholiadau yn Lloegr | 5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill | Nid oes angen ID arnoch i bleidleisio yn etholiad y Senedd |
| Diwrnod pleidleisio | Dydd Iau 7 Mai | Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Cyn belled â'ch bod chi yn y ciw erbyn 10pm, byddwch chi'n gallu pleidleisio. |
Gwiriwch pa etholiadau sy'n digwydd yn eich ardal chi
Rhowch eich cod post i weld a oes etholiadau’n digwydd yn eich ardal