Pleidleisio mewn etholiadau maerol
We're showing you content for:
Yr hyn y mae meiri a etholir yn uniongyrchol yn gyfrifol amdanynt
Nid oes meiri a etholir yn uniongyrchol yn yr Alban, Cymru na Gogledd Iwerddon.
Mae mathau gwahanol o feiri yn Lloegr. Mae rhai’n cael eu hethol yn uniongyrchol, fel Maer Llundain, meiri awdurdodau lleol, meiri awdurdodau cyfun a meiri awdurdodau sirol cyfun.
Mae meiri awdurdodau cyfun (neu ‘meiri metro’) a meiri awdurdodau sirol cyfun (sy’n cwmpasu ardaloedd gwledig a threfol) yn cael eu hethol i arwain awdurdodau cyfun. Awdurdod cyfun neu awdurdod sirol cyfun yw pan fo grŵp o gynghorau lleol yn gweithio gyda’i gilydd ar faterion sy’n effeithio ar yr ardal gyfan, fel trafnidiaeth a thai.
Mae meiri awdurdodau lleol yn cael eu hethol i arwain y cyngor lleol mewn un ardal.
Mae gan Faer Llundain rôl wahanol i feiri eraill a etholir yn uniongyrchol, gan osod y weledigaeth a’r gyllideb ar gyfer Llundain. Mae Cynulliad Llundain yn craffu ar eu gwaith.
Mae yna feiri sy’n ymgymryd â rôl seremonïol. Nid yw’r meiri hyn yn cael eu hethol, ac nid oes ganddynt rôl wleidyddol. Maent yn aml yn cynrychioli’r cyngor ar achlysuron arbennig a digwyddiadau elusennol.
Pryd mae etholiadau maerol?
Mae etholiadau maerol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, oni bai fod yna is-etholiad.
Sut mae system bleidleisio etholiad maerol yn gweithio?
Meiri awdurdodau cyfun a meiri awdurdodau sirol cyfun
Yn yr etholiadau maerol hyn, os mai dim ond dau ymgeisydd sydd, etholir y maer o dan y system bleidleisio ‘y cyntaf i’r felin’.
Os oes tri neu fwy o ymgeiswyr, etholir maer gan ddefnyddio’r system Pleidlais Atodol.
Byddwch yn pleidleisio am eich dau ymgeisydd gorau. Rhowch ‘X’ wrth ymyl eich dewis cyntaf yng ngholofn A, ac yna ‘X’ wrth ymyl eich ail ddewis yng ngholofn B.
Does dim rhaid i chi ddewis ymgeisydd ail ddewis os nad wyt ydych chi eisiau gwneud hynny, ond mae angen i chi farcio eich dewis cyntaf neu ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
Os yw ymgeisydd yn cael mwy na hanner yr holl bleidleisiau dewis cyntaf, mae’n cael ei ethol.
Os na fydd hyn yn digwydd, caiff y ddau ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn y dewis cyntaf eu cadw, a chaiff pob ymgeisydd arall eu tynnu o’r ras.
Mae’r papurau pleidleisio a gafodd eu marcio ar gyfer yr ymgeiswyr a gafodd eu tynnu o’r ras yn y rownd gyntaf yn cael eu cyfrif eto. Y tro hwn mae’r pleidleisiau ail ddewis ar y papurau pleidleisio hynny’n cael eu cyfrif a’u hychwanegu at y cyfansymiau a gafodd y ddau ymgeisydd sy’n dal yn y ras.
Yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ail ddewis sy’n cael ei ethol.
Meiri awdurdod lleol a Maer Llundain
Caiff meiri awdurdod lleol a Maer Llundain eu hethol drwy system cyntaf i’r felin.
Dim ond dros un ymgeisydd y byddwch chi’n gallu pleidleisio, drwy roi ‘X’ yn y blwch wrth ymyl eich dewis.
Ardaloedd gyda meiri
- Awdurdod Cyfun Caerefrog a Gogledd Swydd Efrog
- Awdurdod Cyfun Dinas-Ranbarth Lerpwl
- Awdurdod Cyfun Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Awdurdod Cyfun Dyffryn Tees
- Awdurdod Cyfun Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Awdurdod Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr
- Awdurdod Cyfun Gorllewin Swydd Efrog
- Awdurdod Cyfun Hull a Dwyrain Swydd Efrog
- Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf
- Awdurdod Cyfun Swydd Caergrawnt a Peterborough
- Awdurdod Sirol Cyfun Swydd Lincoln Fwyaf
- Etholiad Maerol Awdurdod Cyfun De Swydd Efrog
- Cyngor Bwrdeistref Bedford
- Cyngor Bwrdeistref Copeland
- Cyngor Bwrdeistref Hackney Llundain
- Cyngor Bwrdeistref Metropolitanaidd Doncaster
- Cyngor Bwrdeistref Middlesbrough
- Cyngor Bwrdeistref Newham Llundain
- Cyngor Bwrdeistref Tower Hamlets
- Cyngor Bwrdeistref Watford
- Cyngor Dinas Bryste
- Cyngor Dinas Caerlŷr
- Cyngor Dinas Lerpwl
- Cyngor Dinas Lewisham
- Cyngor Dinas Salford
- Cyngor Dosbarth Mansfield
- Cyngor Gogledd Tyneside
- Llundain Fwyaf