Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025 - Dydd Llun 10 Mawrth i Ddydd Sul 16 Mawrth
Bob blwyddyn rydyn ni’n gofyn i ysgolion a grwpiau ieuenctid ymuno â ni i ddathlu democratiaeth drwy gyflwyno addysg ddemocrataidd gyda’u myfyrwyr a phobl ifanc.
Ein nod yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i fwrw eu pleidlais ac i ganfod ffyrdd eraill y gallant gymryd rhan mewn democratiaeth.
Y thema ar gyfer 2025 yw bod yn wybodus a chymryd rhan.
Dywedwch wrthym beth oedd eich barn am Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025
Diolch am gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2025. Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich gweithgareddau a’ch barn am ein hadnoddau – a fyddech cystal â threulio pum munud yn cwblhau ein harolwg gwerthuso byr.
Fel diolch am gwblhau'r arolwg, byddwch yn gallu lawrlwytho tystysgrif i'w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dysgwch beth yw barn dros 2,500 o bobl ifanc ledled y DU am bleidleisio, gwleidyddiaeth a democratiaeth - a sut y gall mynediad at addysg ddemocrataidd wneud gwahaniaeth.