Testun Gwefan Twyll Etholiadol 2025
Overview
Mae lefelau isel o dwyll etholiadol profedig yn y DU. Nid oes tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2025. Yn y rhan fwyaf o achosion o dwyll etholiadol honedig (88%), ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach neu cawsant eu datrys yn lleol trwy roi cyngor i'r rhai dan sylw.
Etholiadau 2025
Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd etholiadau yng Nghymru a Lloegr ar gyfer:
- Cynghorau lleol (Lloegr)
- Meiri lleol (Lloegr)
- Etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfun (Lloegr)
- City of London Corporation
Yn ogystal, roedd un is-etholiad Senedd y DU yn ystod 2025. Digwyddodd hyn ym mis Chwefror yn Runcorn a Helsby.
Roedd un is-etholiad i Senedd Cymru. Digwyddodd hyn ym mis Hydref yng Nghaerffili.
Mae data a dderbyniwyd gan heddluoedd y DU yn dangos bod cyfanswm o 265 o achosion o dwyll etholiadol honedig wedi cael eu hasesu neu eu hymchwilio gan yr heddlu yn ystod 2025.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni ar gyfer etholiadau a gynhaliwyd yn 2025.
| Etholiad | Nifer o achosion |
|---|---|
| Etholiad lleol | 180 |
| Etholiad cyffredinol Senedd y DU | 29 |
| Heb fod yn benodol i etholiad | 22 |
| Is-etholiad lleol | 13 |
| Etholiad maerol lleol | 7 |
| Is-etholiad Senedd y DU | 3 |
| Etholiad heb ei nodi | 3 |
| Refferendwm lleol | 2 |
| Etholiad Maer Llundain | 1 |
| Etholiad maerol awdurdod cyfun | 1 |
| Is-etholiad Senedd Cymru | 1 |
| Eraill | 3 |
Nifer yr achosion o dwyll etholiadol honedig yn 2025 yn ôl math o etholiad
Canlyniadau pob achos a adroddwyd
Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda dros hanner yr achosion (57%). Mae hyn yn golygu na wnaeth yr heddlu ymchwilio ymhellach i’r achosion oherwydd nad oedd tystiolaeth, nid oedd digon o dystiolaeth, ni ddaethpwyd o hyd i drosedd, neu nid oedd er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen.
Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a adroddwyd i’r heddlu yn 2025, a’u canlyniadau.
| Canlyniad | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
|---|---|---|
| Dim camau gweithredu pellach | 149 | 57% |
| Wedi’i ddatrys yn lleol1 | 83 | 30% |
| Ymchwiliad yn mynd rhagddo | 27 | 10% |
| Euogfarnau | 2 | 1% |
| Eraill | 4 | 2% |
Roedd dau achos a arweiniodd at euogfarnau yn ôl gwybodaeth a ddarparwyd gan yr heddlu. Yn Swydd Gaer, roedd hyn yn ymwneud â gwybodaeth anwir wrth gofrestru i bleidleisio. Roedd yr ail achos yn Llundain lle cafwyd person yn euog o gambersonadu mewn perthynas â phleidlais bost.
Lle mae achosion wedi'u rhestru fel 'arall', nid oedd yr ymddygiad honedig yn drosedd etholiadol, ond roedd yn ymwneud ag agweddau ar bleidleisio neu ymgyrchu, ac felly rhoddodd yr heddlu gyngor i'r bobl y gwnaed cwynion amdanynt.
Canlyniadau pob achos a adroddwyd
Mathau o honiadau twyll etholiadol
Roedd dros hanner yr holl honiadau a adroddwyd yn 2025 (52%) yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ynghylch:
- Ymgyrchwyr ddim yn cynnwys manylion ynghylch yr argraffydd, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol printiedig neu electronig – ‘argraffnod’ (22%).
- Rhywun yn gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd (16%).
Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a’r mathau o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt yn 2025.
| Math o drosedd | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
|---|---|---|
| Ymgyrchu | 137 | 52% |
| Cofrestru | 41 | 15% |
| Treuliau | 38 | 14% |
| Enwebu | 18 | 7% |
| Pleidleisio | 14 | 6& |
| Arall | 17 | 5% |
Rhestrwyd 17 (6%) o droseddau fel ‘arall’ neu ni neilltuwyd unrhyw honiad gan yr heddlu. Er nad oeddent yn droseddau twyll etholiadol, roeddent yn ymwneud ag agweddau ar bleidleisio neu ymgyrchu, ac felly rhoddodd yr heddlu gyngor i'r bobl y gwnaed cwynion yn eu cylch.
Types of electoral fraud allegations
Personadu
Cofnodwyd cyfanswm o 3 o achosion o dwyll etholiadol honedig gan luoedd yr heddlu yn 2025.
Mae cambersonadu yn drosedd lle mae person yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn gallu defnyddio pleidlais y person hwnnw. Gall hyn ddigwydd mewn gorsaf bleidleisio, gyda phleidlais bost, neu bleidlais drwy ddirprwy (lle mae pleidleisiwr wedi penodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan).
Roedd pob achos (3) yn ymwneud â honiadau o gambersonadu pleidleisiau post.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr honiadau o gambersonadu a’u canlyniadau.
| Math o bersonadu | Nifer yr honiadau | Math o ganlyniad a nifer |
|---|---|---|
| Trwy’r post | 3 | Dim camau pellach: 1 Ymchwiliad yn mynd rhagddo: 1 Euogfarn: 1 |
Deisebau etholiadol
Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad.
Cafwyd dwy ddeiseb wedi etholiadau a gynhaliwyd yn 2025.
Cyflwynwyd deiseb mewn perthynas ag etholiad yn ward Littletons, Cyngor Dosbarth Wychavon. Ni lwyddodd.
Roedd yr ail ddeiseb yn cyfeirio at yr is-etholiad seneddol yn Runcorn a Helsby. Ni lwyddodd.
Lawrlwythwch y data twyll etholiadol ar gyfer 2025
- 1. Mae datrys yn lleol yn golygu bod yr heddlu wedi rhoi cyngor i'r unigolyn ynghylch cydymffurfio â'r gyfraith. ↩ Back to content at footnote 1