Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Byw dramor
Os ydych chi’n byw dramor, neu os ydych chi’n ystyried byw y tu allan i’r DU un diwrnod, byddwch chi’n dal i allu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Cyn belled â’ch bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn y DU neu wedi byw yn y DU o’r blaen, byddwch yn gallu parhau i bleidleisio dros eich AS.
Nid yw pleidleiswyr sy'n byw y tu allan i'r DU yn gallu pleidleisio mewn etholiadau cyngor lleol neu Senedd.
Os gwnaethoch adael y DU cyn yr oeddech yn ddigon hen i bleidleisio, bydd angen i chi gynnwys manylion eich rhiant neu warcheidwad a chopi o’ch tystysgrif geni pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio.