Dim ond os yw’n rhesymol barnu y bwriedir iddo hybu neu sicrhau llwyddiant etholiadol y canlynol y mae gwariant ar weithgareddau ymgyrchu gan ymgyrchwyr di-blaid yn cael ei reoleiddio:
un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi neu nad ydyn nhw’n cefnogi polisïau penodol, neu
a hynny trwy ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad perthnasol sydd yn yr arfaeth i bleidleisio mewn ffordd benodol. Gweler y diffiniad o etholiadau perthnasol yn Atodiad B.
Yr enw cyffredin ar y cwestiwn a ydy hi’n rhesymol ystyried bod gweithgaredd yn un sy’n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yw ‘prawf diben’.
Mae gwariant ar y gweithgareddau a ganlyn yn cael ei reoleiddio os yw (i) yn digwydd mewn perthynas ag ymgyrch gyffredinol yn ystod cyfnod a reoleiddir a (ii) yn bodloni’r prawf diben:
cynadleddau i’r wasg neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd di-blaid
trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch
cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu y trefnir ei fod ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu i unrhyw adran o’r cyhoedd
canfasio ac ymchwil farchnad sy’n gofyn am farn neu wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd