Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Trothwyon adrodd
Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n gwario mwy nag:
- £20,000 yn Lloegr, neu
- £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
gofnodi eu gwariant a'u rhoddion a chyflwyno adroddiad arnynt.1 Mae’r rhain yn cael eu galw’n drothwyon adrodd. Maen nhw wedi’u diffinio fel y ‘lower tier spending limits’ yn Neddf 2000.
Hysbysu'r Comisiwn
Mae pob ymgyrchydd di-blaid sy’n cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn yn dod o dan y gofynion adrodd pan fydd eu gwariant yn cyrraedd y trothwyon adrodd.
Caiff ymgyrchwyr di-blaid sy’n cyrraedd y trothwy hysbysu ond nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd, gyflwyno datganiad i’r perwyl hwnnw. 2
Os na fydd datganiad yn cael ei wneud gan yr ymgyrchydd di-blaid adeg hysbysu, bydd yr ymgyrchydd di-blaid yn dod o dan y gofynion adrodd os yw’n cyrraedd y trothwyon adrodd. 3
Efallai y bydd ymgyrchwyr di-blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd yn bodloni’r trothwy adrodd o ganlyniad i’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd, a hynny heb achosi gwariant uniongyrchol eu hunain. Gweler yr adran ar ymgyrchu ar y cyd.
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau heb y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau heb y datganiad mewn perthynas â'r trothwy adrodd
Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, dim ond gan ffynonellau a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £500 ac mae'n ofynnol i chi gyflwyno adroddiadau ar eich rhoddion yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad (adrodd cyn y bleidlais). Mae'r gofynion hyn o ran rhoddion yn gymwys ni waeth faint y byddwch yn ei wario.
Yn ogystal, os byddwch yn bodloni'r trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiad ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad.
Os nad yw eich gwariant yn bodloni'r trothwy adrodd yn unrhyw ran o'r DU, cewch eich eithrio rhag adrodd ar wariant a rhoddion ar ôl yr etholiad. Fodd bynnag, fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiadau ar roddion i ni yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad o hyd.
Non-party campaigners who have declared they intend to remain below the reporting thresholds
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd
Nid yw’n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig di-blaid sy’n cynnwys datganiad nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd gyflwyno adroddiad am eu gwariant na’u rhoddion cyn belled ag nad yw eu gwariant yn uwch na’r trothwyon adrodd. Maen nhw’n dal yn dod o dan y gyfraith ar ganiatáu rhoddion.
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd wedi datgan eu bod yn bwriadu aros o dan y trothwyon adrodd
Ni fydd angen i chi adrodd ar unrhyw wariant na rhoddion, naill ai yn y cyfnod cyn yr etholiad neu ar ôl yr etholiad, os bodlonir y ddau amod canlynol:
- rydych yn datgan eich bod yn bwriadu cadw o dan y trothwyon adrodd ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU yn eich hysbysiad
- mae eich gwariant yn aros o dan y trothwyon adrodd
Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r cyfreithiau ar roddion o hyd a dim ond derbyn rhoddion sy'n werth dros £500 gan ffynonellau a ganiateir, hyd yn oed os nad oes angen i chi gyflwyno adroddiad i ni.
Dim ond os bydd eich gwariant yn parhau i fod o dan y trothwyon adrodd y bydd eich datganiad yn parhau i fod ar waith. Os byddwch yn gwario dros y trothwyon adrodd, ni fyddwch wedi'ch eithrio rhag y gofynion adrodd mwyach a bydd yn rhaid i chi gyflwyno adroddiad ar eich gwariant a'ch rhoddion i ni. Mae hefyd yn drosedd gwario dros y trothwyon adrodd pan fydd y datganiad ar waith. 4
Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd
Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd
Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd
Unwaith y bydd ymgyrchydd di-blaid wedi’i gofrestru, caiff dynnu yn ôl ei ddatganiad nad yw’n bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd os bydd ei fwriadau o ran gwariant yn newid ar ôl cofrestru. 5
Mae’n drosedd achosi gwariant a reolir sy’n uwch na’r trothwyon adrodd os yw’r ymgyrchydd di-blaid wedi hysbysu’r Comisiwn na fyddai’n gwario mwy na’r terfynau hynny.6 Byddai unrhyw ymgyrchydd di-blaid sy’n gwneud hynny hefyd yn dod o dan y gofynion ynglŷn ag adroddiadau. 7
Tynnu cyfyngiad y trothwy adrodd
Os ydych yn dymuno diwygio eich hysbysiad i dynnu'r cyfyngiad gwariant, gallwch ddiwygio eich cofnod ar y gofrestr unrhyw bryd drwy gyflwyno Ffurflen TP2. 8 Mae'n rhaid i'ch diwygiad fod ar waith cyn i chi wario dros y trothwyon adrodd.
Byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd eich hysbysiad wedi'i ddiwygio.
- 1. Adran 94(3)(a)(i) ac adran 94(3)(b)(ii) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 85(5B) ac adran 88(3D) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 96(1), adran 95(5) ac adran 95(5ZA) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 94(4) a (10A) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 88(6A) ac adran 88(8)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 94(3)(b)(ii) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 94(10A) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 88(8)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8