Ein Huwch Dîm Arwain
Gwybodaeth am ein Huwch Tîm Arwain
Mae ein Huwch Dîm Arwain yn cefnogi cyfarwyddwyr, ac yn sicrhau bod eu timau'n gallu cyflawni ein strategaethau a gweithio'n effeithiol.
Gweinyddiaeth Etholiadol a Rheoleiddio
Mae'r tîm Gweinyddiaeth Etholiadol a Rheoleiddio yn gweithio gyda phawb sy'n ymwneud â chynnal a chymryd rhan mewn etholiadau a'r prosesau democrataidd ehangach sy'n sail iddynt.
Rydym yn cefnogi, yn goruchwylio, ac yn darparu canllawiau i weinyddwyr etholiadol ynghylch eu rheolaeth o etholiadau a'r gofrestr etholiadol, gan gynnal cysylltiadau lleol a chenedlaethol.
Rydym yn rheoli’r broses ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol yn ogystal â’r broses ar gyfer adrodd, cyhoeddi a chydymffurfio o ran cyllid pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr perthnasol nad ydynt yn bleidiau.
Ein nod yw cefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau, ond rydym hefyd yn gyfrifol am nodi troseddau posibl, a lle bo angen neu'n briodol, rydym yn cymryd camau gorfodi.
Rydym yn rheoli cysylltiadau â'r heddlu ac asiantaethau perthnasol eraill ac yn monitro ac yn ceisio helpu ein holl randdeiliaid etholiadol i fod yn barod ar gyfer risgiau, bygythiadau a hyd yn oed cyfleoedd.
Mae ein timau'n gweithio'n agos ac yn aml ar y cyd â chydweithwyr yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban i sicrhau cysondeb a bod ein holl adnoddau'n diwallu anghenion rhanddeiliaid ac yn adlewyrchu eu cyd-destun.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Gweinyddiaeth Etholiadol a Rheoleiddio
- Melanie Davidson, Pennaeth Cefnogaeth a Gwella
- Charlene Hannon, Pennaeth Canllawiau
- Laura Douglas, Pennaeth Cefnogaeth Rheoleiddio
- Hannah Brown, Pennaeth Cofrestru, Cydymffurfiaeth a Thryloywder
- Claire Robbie, Pennaeth Gweithredu Rheoleiddiol a Gorfodi
Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Mae’r gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil yn cefnogi’r sefydliad i:
- Rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am y broses ddemocrataidd a sut i gymryd rhan.
- Deall sut mae'r broses ddemocrataidd yn gweithio a’r hyn y gellid ei wneud i'w gwella.
- Rhannu ein hargymhellion ar gyfer gwelliannau gydag eraill.
Mae’n gweithio gyda thimau ar draws y sefydliad i'w cefnogi gyda'u gwaith, ac i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y maent yn ei wneud yn allanol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Su Crown, Pennaeth Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Corfforaethol
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
- Michela Palese, Pennaeth Polisi
- Orla Hennessy, Pennaeth Cyfathrebu Allanol
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Mae'r gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn gyfrifol am reoli cyllid y Comisiwn o ddydd i ddydd.
Mae’r tîm Cynllunio a Pherfformiad yn cefnogi'r sefydliad i wneud penderfyniadau, perfformio'n effeithiol, a chynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi’r sefydliad i gyflawni ein nodau a’n hamcanion corfforaethol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Tracey Blackman, Pennaeth Cyllid a Chaffael
- Denise Morgan-Agbenyegah, Pennaeth Adnoddau Dynol
- Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau
- Jagdip Singh, Pennaeth Caffael
- Prisca Sinihelm, Pennaeth Dadansoddi a Chynllunio Ariannol
- Michael Coldwell, Pennaeth Llywodraethu
Cwnsler Cyffredinol, Datganoli, Llywodraethu a'r Gyfraith
Mae Cyfarwyddiaeth y Cwnsler Cyffredinol, Datganoli, Llywodraethu a’r Gyfraith yn cynnwys timau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban; Llywodraethu; y Gyfraith; a Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu.
Mae’n darparu cyngor a chymorth cyfreithiol i alluogi penderfyniadau da a chyfreithlon gan y Comisiwn, yn ogystal â sicrhau ei fod yn glynu wrth arfer gorau mewn gwaith llywodraethu. Mae hefyd yn cefnogi cydweithwyr ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac yn cydlynu gweithgareddau gweithredu sy'n deillio o gyfraith etholiadol newydd.
Mae gan y timau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban arbenigedd mewn materion datganoledig, ac maent yn rheoli cysylltiadau’r Comisiwn Etholiadol â phartneriaid allweddol gan gynnwys eu seneddau a'u llywodraethau priodol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Adrian Fryer, Pennaeth Cyfreithiol
- Katy Knock, Pennaeth Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu
- Sarah Mackie, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, yr Alban
- Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru
- Cahir Hughes, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Gogledd Iwerddon
Prif Weithredwr
Mae cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr yn cynnwys y tîm Data Digidol a Thechnoleg, y tîm Cymorth Busnes a'r tîm Cyfleusterau.
Mae'r Adran Ddigidol, Data, Technoleg a Chyfleusterau yn allweddol wrth sicrhau arloesedd, effeithlonrwydd a diogelwch ar draws y sefydliad. Mae dull integredig yr adran hon yn sicrhau bod trawsnewid digidol, rheoli data, datblygiadau technolegol ac optimeiddio cyfleusterau yn gweithio mewn cytgord i gefnogi cynllun corfforaethol ac amcanion strategol y sefydliad.
Mae'r tîm Cymorth Busnes yn helpu'r sefydliad drwy fod yn 'guriad calon gweinyddol'. Mae’r tîm Cymorth Busnes yn helpu'r Comisiwn i gyflawni amcanion strategol drwy gefnogi'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Adrannau yn ôl yr angen. Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Cyfarwyddiaethau neu'r meysydd busnes priodol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Prif Weithredwr
- Andrew Simpson, Pennaeth Digidol, Data, Technoleg a Chyfleusterau