Dadansoddi perfformiad 2019/20: Amcan dau
Amcan dau
Sicrhau system reoleiddio fwyfwy dibynadwy a thryloyw mewn cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai a reoleiddir a mynd ar drywydd tramgwyddau mewn modd rhagweithiol.
Mae’r amcan hwn yn ymgorffori ein rôl reoleiddiol. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddau faes sydd wrth galon democratiaeth iach: sicrhau tryloywder a rheoleiddio da.
Cyflawniadau allweddol
I sicrhau tryloywder, fe wnaethom:
- gyhoeddi cyfrifon blynyddol gan bleidiau cofrestredig, gwybodaeth ynghylch rhoddion a benthyciadau, a manylion gwariant ymgyrchu, y mae’n ofynnol i bleidiau eu darparu i ni
- gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill a chyhoeddi manylion mewn cofrestrau ar-lein
- barhau i adolygu disgrifiadau pleidiau, i sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu adnabod y blaid y mae ymgeiswyr yn sefyll drosti
- barhau i ddatblygu porth ar-lein ar gyfer cofrestru pleidiau a chyllid pleidiau, yr ydym yn bwriadu ei lansio yn 2021 ac a fydd yn gwella sut mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn cofrestru a dychwelyd ffurflenni ariannol
- graffu ar gynigion tryloywder hysbysebu gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Google, Twitter a Snapchat, i sicrhau eu bod yn darparu gwell tryloywder o ran gweithgarwch ymgyrchu digidol
I gefnogi rheoleiddio da fe wnaethom:
- ddarparu cyngor a chanllawiau i helpu pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r rheolau
- weithredu a gosod cosbau pan dorrwyd y rheolau parthed cyllid gwleidyddol
- amddiffyn heriau cyfreithiol i’n penderfyniadau gorfodi
- ddatblygu codau ymarfer newydd ar gyfer pleidiau ac ymgeiswyr
- barhau i eirioli dros newidiadau i’r gyfraith i gryfhau ein pwerau ymchwilio a chosbi - gan gynnwys cynyddu’r ddirwy fwyaf y gallwn ei gosod am dorri rheolau PPERA o’r lefel gyfredol, sef £20,000
- weithio â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu eu Rheolau Sefydlog a sicrhau bod ganddynt gynllun cadarn i ddatblygu rheolau a chanllawiau newydd ar gyfer yr etholiadau yn 2012 a dod ag adrodd deuol i ben
Mesurau perfformiad
Mesur | Perfformiad |
---|---|
Rydym yn cyhoeddi ffurflenni ariannol rheolaidd gan bleidiau ac ymgyrchwyr, gan gynnwys datganiadau cyfrifon, o fewn 30 diwrnod o’u derbyn (targed 100%) |
100% |
Rydym yn gwirio lleiafswm o 25% o’r holl ffurflenni ariannol am gywirdeb a chydymffurfiaeth bob blwyddyn |
57.7%1
Cyflawnwyd |
Rydym yn cyhoeddi 100% o gynhyrchion canllawiau yn brydlon heb wallau sylweddol |
100% |
Rydym yn darparu cyngor cywir o fewn 5-20 diwrnod o dderbyn cais, yn dibynnu ar gymhlethdod y cyngor (targed 90%) |
94% Cyflawnwyd |
Rydym yn hysbysu ymgeiswyr o ganlyniad eu ceisiadau cofrestru o fewn 30 diwrnod o dderbyn cais cyflawn 75% o’r amser |
86.2% Cyflawnwyd |
Rydym yn cynnal ymchwiliadau amserol ac addas, y mae 90% yn cael eu cwblhau o fewn 180 diwrnod |
84.3%2
Cyflawnwyd |
Rydym yn dosbarthu 90% o hysbysiadau terfynol sy’n gosod allan ein cosbau o fewn 21 i’r dyddiau cau ar gyfer sylwadau. Rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein holl ymchwiliadau. |
87.5%3
Cyflawnwyd |
Rydym yn gwneud argymhellion rheoleiddio prydlon sy’n adlewyrchu’r egwyddorion sy’n llywio ein hymagwedd at fframwaith rheoleiddio effeithiol |
100% Cyflawnwyd |
Sicrhau tryloywder
Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni’r cyfrifoldebau rydym yn atebol iddynt i seneddau’r DU. Cadwasom gofrestrau’r pleidiau gwleidyddol, gan sicrhau mai dim ond pleidiau sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol sydd ar y gofrestr, ac fe wnaethom barhau i adolygu disgrifiadau’r pleidiau i helpu pleidleiswyr i adnabod y blaid y mae ymgeiswyr yn sefyll drosti.
Cafwyd dau achos o ymgeiswyr yn ceisio cael eu ffurflenni ariannol wedi eu tynnu o’n cronfa ar-lein trwy’r llysoedd. Tynnodd un ymgeisydd ei gais yn y llys yn ôl, ac fe wnaeth y llys wrthod y cais arall.
Rheoleiddio da
Wrth i Etholiad cyffredinol Senedd y DU agosáu, gwnaethom gofrestru’r nifer uchaf erioed o ymgyrchwyr di-blaid. Fe wnaethom hefyd ddatblygu ein dull monitro ymgyrchoedd fel ei fod yn fwy rhagweithiol ac yn canfod ac ymyrryd yn gyflym pan fo problem. Fe wnaeth hyn eu rhwystro rhag gwaethygu a rhwystro ymgyrchwyr rhag torri’r rheolau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hyn.
Fe wnaethom barhau i ddefnyddio ein pwerau ymchwilio a chosbi i ganfod ac ymateb i achosion o ddiffyg cydymffurfio a rhwystro diffyg cydymffurfio yn y dyfodol. Rhoesom ddirwyon o £25k a £40k fel ei gilydd i ddwy blaid gofrestredig am fethiannau lluosog. Clywodd y llysoedd dair apêl yn erbyn cosbau yn 2019. Tynnwyd un yn ôl, gwrthodwyd un, a chadarnhawyd un. Dyna ddod â chyfanswm yr apeliadau yn erbyn cosbau rydym wedi eu rhoi i 5; mae’r llysoedd wedi cadarnhau un ohonynt. Mae’r apeliadau wedi darparu cyfraith achosion ddefnyddiol ac rydym wedi dysgu gan bob achos er mwyn gwella ein dull gorfodi.
Am nifer o flynyddoedd rydym wedi argymell bod llywodraethau’r DU yn newid cyfreithiau i gryfhau ein pwerau ymchwilio a chosbi. Eleni, gwelsom newid o’r fath yn yr Alban, lle gwnaeth Senedd yr Alban, trwy Ddeddf Refferenda (yr Alban), gynyddu lefelau’r dirwyon sydd ar gael i ni (o £20,000 i £500,00); yn ogystal rhoesant bwerau ehangach i ni gaffael gwybodaeth y tu hwnt i ymchwiliadau ffurfiol; a sefydlwyd rheolau sy’n gofyn am wasgnodau ar ddeunyddiau ymgyrchu digidol.\
- 1. Mae nifer y ffurflenni ariannol rydym yn eu gwirio bob blwyddyn yn amrywio; mae’n uwch mewn blynyddoedd gyda digwyddiadau etholiadol, pan fyddwn yn derbyn mwy o ffurflenni ariannol, a symiau mwy. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Lle bu inni fethu dyddiad cau, roedd yr achosion yn gymhleth ac yn gofyn cyngor cyfreithiol sylweddol neu ddadansoddi tystiolaethol. Fe wnaeth etholiad cyffredinol anhrefnedig Senedd y DU hefyd ofyn i ni ailddyrannu adnoddau. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Fe wnaeth y rheidrwydd arnom i flaenoriaethu monitro ac ymyriadau yn ystod y cyfnod ymgyrchu ar gyfer etholiad Senedd anhrefnedig y DU dynnu adnoddau o benderfyniadau cosbau dros dro. ↩ Back to content at footnote 3