Dadansoddi perfformiad 2019/20: Amcan pedwar
Amcan pedwar
Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd i ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr
Mae’r amcan hwn yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cefnogi’r sefydliad ac yn sicrhau bod gyda ni’r bobl gyda’r sgiliau priodol, a hefyd yr adnoddau priodol. Yr amcan yw cyflawni gwasanaethau sy’n effeithlon, effeithiol ac economaidd.
Cyflawniadau allweddol
I gefnogi’n sefydliad, fe wnaethom:
- gynnal rhaglen profi, uwchraddio a meincnodi yn erbyn safonau perthnasol er mwyn gwarchod ein hisadeiledd digidol yn erbyn bygythiadau seibr
- ddatblygu ein harferion gwaith i adlewyrchu’r disgwyliadau ar gyflogwr modern, a sicrhau bod ein systemau digidol yn cefnogi’r newidiadau hyn
- uwchraddio’r systemau technoleg gwybodaeth sy’n cefnogi ein swyddogaethau rheoleiddio a gweinyddu etholiadol
- barhau i weithio’n agos â’r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol i wella’r modd rydym yn monitro ein rhwydweithiau a’n platfformau
- lansio gwefan newydd sy’n bodloni anghenion defnyddwyr yn fwy effeithiol ac yn darparu gwybodaeth mewn ffyrdd mwy hygyrch a haws i’w defnyddio
- roi ar waith systemau caffael, rheoli prosiectau a llywodraethu ar-lein newydd i wneud ein prosesau yn fwy effeithlon a thryloyw
- ddatblygu strategaeth pobl newydd i gefnogi defnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithlon
- wella ein sylfaen sgiliau trwy raglen dysgu a datblygu gynhwysfawr a buddsoddi mewn adnoddau technegol arbenigol
- weithio gyda seneddau yr Alban a Chymru i ddatblygu model gweithredu sy’n ein galluogi i adrodd iddynt
- ddarparu canllawiau ac offerynnau i staff i’n helpu i wella ein prosesau sicrhau ansawdd
Mesurau perfformiad
Mesur | Perfformiad |
---|---|
Dysgu gwersi ymarferol oddi wrth arferion gweithio gartref ac o bell, a dylunio llety’r dyfodol yn unol â’r rheiny |
Cyfredol1 |
Canfod opsiynau, costau, a buddion e-gaffael, a rhoi system newydd ar waith yn unol â hynny |
Nis cyflawnwyd2 |
Bodlondeb rhanddeiliaid a staff o ran offerynnau TG |
Cyfredol3 |
Cynnal sgorau ymgysylltu â staff uchel yn ystod yr arolwg staff blynyddol a sicrhau bod dangosyddion megis trosiant staff ar lefelau addas |
Sgôr ymgysylltu â staff: 72% Trosiant staff: 13.19% |
Monitro amrywiannau sylweddol ym mhob cyllideb, a, lle bo’n briodol, leihau’r amrywiannau hyn dros bum mlynedd ein Cynllun Corfforaethol |
Nis cyflawnwyd4 |
Cefnogi’r sefydliad
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i drawsffurfio’r modd rydym yn gweithio trwy fuddsoddi’n sylweddol yn ein hisadeiledd digidol er mwyn gwella ei ddycnwch a chefnogi arferion gwaith hyblyg. Rydym hefyd wedi parhau i weithio â’r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol i wella’r modd rydym yn monitro ein rhwydweithiau a’n platfformau; gwnaeth hyn helpu gyda’n ffocws ar seibrddiogelwch yn ystod pleidleisiau 2019.
Mae ein gwefan newydd yn darparu gwell gwasanaeth i’n rhanddeiliaid. Fel ein prif sianel gyfathrebu, roedd yn bwysig i ni wella ei defnyddioldeb a’i hygyrchedd, er mwyn cyfathrebu a gweithio mewn ffyrdd gwell.
Rydym wedi cyflwyno offerynnau digidol newydd eraill i’n helpu i gynnal ein sefydliad. Mae hyn yn cynnwys system caffael ar-lein, i’w gwneud yn haws i gyflenwyr gymryd rhan yn ein tendrau, a system gynllunio sy’n ein galluogi i adrodd am ein cynnydd yn erbyn yn ein hamcanion corfforaethol a monitro risgiau yn fwy effeithiol. Mae ein system llywodraethu newydd yn darparu ffordd fwy effeithiol i gyfathrebu â Bwrdd y Comisiwn i roi trosolwg glir o’n perfformiad.
Mae ein strategaeth pobl newydd yn cynnwys gweithrediadau i hwyluso diwylliant lle gall cyflogeion berfformio eu rolau yn fwy effeithiol. Fe wnaethom ddechrau’r gwaith hwn trwy adolygu ein prosesau rheoli perfformiad a datblygu. Rydym wedi symud i ffwrdd o werthuso a rhestru perfformiad cyflogeion ar adegau penodedig yn ystod y flwyddyn, gan newid i drefn barhaus, a reolir trwy amcanion. Mae hyn yn mynd i’r afael ag adborth a gawsom o’n harolwg staff yn 2018, gan blethu’n well â’n diwylliant.
Gwnaethom ganolbwyntio ar fentrau i fynd i’r afael â throsiant staff. Fe wnaeth hyn gynnwys newid ein harferion recriwtio i gymryd yn ganiataol y byddai pob swydd yn barhaol, oni bai bod achos cryf dros gyfiawnhau contract tymor penodol. Fe wnaethom hefyd gynorthwyo staff i adleoli i’n swyddfeydd eraill, lle’r oedd hynny yn gyson â’u hamgylchiadau a’n hanghenion busnes.
Fe wnaethom barhau i gefnogi grwpiau staff y gwnaethom eu sefydlu i fynd i’r afael â meysydd penodol, megis y grŵp ymgysylltu â staff, i sicrhau bod ein cyflogeion yn gallu mewnbynnu i’n polisïau a rhaglenni corfforaethol. Mae hefyd gennym grwpiau sydd wedi ymrwymo i gefnogi staff gyda bwlio, aflonyddu, a materion iechyd meddwl, ac rydym wedi cynnal cysylltiadau cryf â’n hundeb llafur, yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.
Fe wnaethom fuddsoddi mwy mewn dysgu a datblygu, a sicrhau bod staff yn ymwybodol o gyfleoedd hyfforddi. Fe wnaethom hefyd benodi darparwr i gyflawni rhaglen datblygu arweinyddiaeth a rheoli ar gyfer pob rheolwr a fydd yn cael ei chynnal trwy gydol 2020
Mae seneddau’r Alban a Chymru wedi bod yn ystyried deddfwriaeth a fydd yn sicrhau ein bod yn atebol iddynt hwy am ein gwaith mewn etholiadau datganoledig. Rydym wastad wedi adrodd yn wirfoddol i’r ddau senedd am ein gwaith polisi mewn perthynas â materion datganoledig, ond bydd y ddeddfwriaeth newydd y golygu bod ein trefniadau atebolrwydd yn cyfateb i’r rheiny sydd gennym parthed Senedd y DU.
Report navigation links
- 1. Fe wnaethom roi ar waith newidiadau i oriau gwaith ar ôl treialu dull newydd. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Fe wnaethom gwblhau ein tendr a llofnodi contract ym mis Chwefror. Oherwydd y pandemig Covid-19, fe wnaethom ohirio ei gyflwyno hyd nes chwarter cyntaf 2020-21. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Fe wnaethom ddechrau prosiectau sylweddol i uwchraddio isadeiledd a chymwysiadau; fe wnawn eu gwerthuso unwaith y byddant wedi eu cwblhau. ↩ Back to content at footnote 3
- 4. O ganlyniad i ffactorau eithriadol. Rydym yn esbonio hyn ymhellach o dan “Defnyddio ein hadnoddau ariannol yn effeithlon”. ↩ Back to content at footnote 4