Dadansoddi perfformiad 2019/20: Amcan tri
Amcan tri
Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol a pharchus, gan ddefnyddio gwybodaeth a mewnwelediad i hyrwyddo tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd, a helpu i’w haddasu i'r oes ddigidol fodern.
Mae’r maes gwaith hwn yn canolbwyntio ar arloesi a chryfhau ein sylfaen dystiolaeth. Mae ein harbenigedd mewn polisi, ymchwil a chyfathrebu yn hanfodol i alluogi y gwaith hwn.
Cyflawniadau allweddol
I gyfrannu at arloesi a chryfhau ein sylfaen dystiolaeth, fe wnaethom:
- adrodd am dair cyfres o etholiadau a dwy ddeiseb adalw o 2019, a gwneud argymhellion i wella digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol
- adrodd ar gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol yn y DU
- werthuso cynlluniau peilot Llywodraeth y DU i brofi moddion adnabod pleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhannau o Loegr yn etholiadau lleol mis Mai 2019
- roi cyngor arbenigol annibynnol i lywodraethau Cymru a’r Alban ar newidiadau deddfwriaeth a pholisi a oedd yn deillio o’u hagendâu diwygio etholiadol
- asesu effaith unrhyw newidiadau i drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio ar gyfer etholiadau cyngor yr Alban, ar gais Llywodraeth yr Alban
- gyhoeddi astudiaethau dichonoldeb ar yr opsiynau ar gyfer moderneiddio cofrestru etholiadol
- roi tystiolaeth lafar i dri phwyllgor Seneddol y DU, a rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i ddau bwyllgor dethol Tŷ’r Arglwyddi
- roi tystiolaeth ysgrifenedig i dri phwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhoi tystiolaeth lafar ar ddau achlysur
- roi tystiolaeth ysgrifenedig ar dair deddf i ddau bwyllgor Senedd yr Alban, rhoi tystiolaeth lafar ar dri achlysur
Mesurau perfformiad
Mesur | Perfformiad |
---|---|
Cyflawni prosiect ar ddeall tirwedd ymgysylltu democratig cyhoeddus yn y DU. |
Cyflawnwyd1 |
Cyflawni prosiect i ddatblygu ac archwilio dichonoldeb cynigion i foderneiddio cofrestru etholiadol a bodloni disgwyliadau ac anghenion pleidleiswyr yn ein cymdeithas ddigidol. |
Cyflawnwyd |
Cyhoeddi ein gwerthusiad o’r cynlluniau peilot ar gyfer moddion adnabod pleidleiswyr, a hefyd ein hymateb iddynt |
Cyflawnwyd |
Gweithio er mwyn cefnogi argymhellion diwygio’r gyfraith etholiadol a dderbyniwyd gan Gomisiynau’r Gyfraith yng Nghymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon |
Cyfredol |
Arloesi a chryfhau ein sylfaen dystiolaeth
Fe roesom gyngor a chymorth arbenigol i lywodraethau a seneddau yr Alban a Chymru i’w helpu gyda’u hagendâu diwygio etholiadol. Bu hyn yn cynnwys estyn yr etholfraint i bobl ifanc yng Nghymru, a chategorïau newydd o etholwyr yn y ddwy wlad. Ymgynghorasom ar gynigion a deddfwriaeth ddrafft, ac fe wnaeth ein mewnbwn helpu i sicrhau y byddai’r rhain yn gweithio yn ymarferol.
Fe wnaethom werthuso cynlluniau peilot moddion adnabod pleidleiswyr Llywodraeth y DU, a gynhaliwyd yn ystod etholiadau lleol mewn rhannau o Loegr ym mis Mai 2019. Bydd ein hasesiad annibynnol yn helpu Llywodraeth y DU i asesu hygyrchedd a diogelwch o wahanol gyfeiriadau cyn cyflwyno unrhyw ofyniad i ddangos moddion adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio ar draws Prydain Fawr.
Ein hastudiaethau cynhwysfawr o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol yw’r unig astudiaethau yn y DU ar y pwnc hwn. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r canfyddiadau hyn am eu bod yn darparu tystiolaeth i lywio’r newidiadau polisi a deddfwriaeth y mae angen i lywodraethau eu gwneud er mwyn moderneiddio ein systemau cofrestru etholiadol. Maent hefyd yn adnodd hanfodol i lywio ein hymdrechion ni a sefydliadau eraill i dargedu gwaith ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn cynyddu cofrestru etholiadol. Fe wnaeth yr astudiaeth ddiweddaraf gafod hyn: er bod y gyfran o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio wedi aros yn sefydlog, mae pobl ifanc a rhentwyr preifat yn parhau i fod yn llai tebygol o fod wedi cofrestru’n gywir, ac mae angen gwelliant pellach i’r lefelau cywirdeb a chyflawnrwydd cyffredinol.
Cyhoeddasom astudiaethau dichonoldeb sy’n archwilio’r gwahanol ffyrdd y gallai data cyhoeddus wella’r system cofrestru, a sut y gallai diwygiadau i’r prosesau weithio yn ymarferol. Mae hyn yn rhoi man cychwyn i lywodraethau wneud y mathau o newidiadau a fyddai’n mynd i’r afael â’r pwysau ar adnoddau gweinyddwyr etholiadol yn ogystal â’i gwneud yn haws i unigolion gofrestru. Rydym yn defnyddio canfyddiadau’r astudiaethau hyn i lywio ac annog dadl polisi ehangach ynghylch dyfodol cofrestru etholiadol a chynorthwyo ein gwaith datblygu polisi ein hunain.
Yn yr Alban, cynaliasom ymchwil i asesu effaith unrhyw newidiadau i drefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio ar gyfer etholiadau cyngor. Mae ein hadroddiad terfynol i Lywodraeth yr Alban yn rhoi iddi’r sylfaen dystiolaeth i ystyried effaith unrhyw newidiadau ar bleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, a phleidiau gwleidyddol.
Fe wnaethom barhau i weithio i ganfod a chyflwyno’r achos dros symleiddio, moderneiddio, a chydgrynhoi cyfraith etholiadol, gan gynnwys rhoi ar waith argymhellion Comisiynwyr y Gyfraith, a wnaed yn wreiddiol yn eu hadroddiad yn 2016, ac y rhoddwyd iddo bwysau terfynol yn eu hadroddiad cloi eleni. Rhoesom dystiolaeth i bwyllgorau seneddol i sicrhau y byddai ein dadansoddi arbenigol ynghylch etholiadau a rheoleiddio yn llywio eu Gwaith.
Yn Senedd y DU, fe wnaeth hyn gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor dros faterion Digidol, Diwylliant, Chwaraeon a’r Cyfryngau i dwyllwybodaeth; ymchwiliad y Pwyllgor Materion Gweinyddol a Chyfansoddiadol i gyfraith etholiadol; a Phwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar reolau ynghylch unrhyw gynulliadau dinasyddion neu refferenda yn y dyfodol. Rhoesom hefyd dystiolaeth i Bwyllgorau Dethol Tŷ’r Arglwyddi parthed Democratiaeth a Thechnolegau Digidol a pharthed Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013
Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rhoesom dystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol parthed Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), ac i ymchwiliad Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Cynulliad i systemau etholiadol a ffiniau, ac i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol parthed Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Yn Senedd yr Alban, rhoesom dystiolaeth i’r Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus parthed Bil (Diwygio) Etholiadau’r Alban a Bil Etholiadau’r Alban (Etholfraint a Chynrychiolaeth). Fe roesom hefyd dystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid a’r Cyfansoddiad parthed Bil Refferenda (yr Alban).
Report navigation links
Previous | Next |
---|---|
Amcan dau | Amcan pedwar |
- 1. Fe wnaethom ganolbwyntio ar ganfod bylchau mewn mentrau ymgysylltu democratig ar gyfer pobl ifanc Fe wnaethom gyflawni’r prosiect fel yr oeddem wedi gobeithio, ac yn 2020-21, byddwn yn dechrau prosiectau newydd yn seiliedig ar y canfyddiadau, gan gynnwys prosiect i ddatblygu adnoddau addysgol. ↩ Back to content at footnote 1