Dadansoddi perfformiad 2019/20: Amcan un
Amcan un
Galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch.
Mae’r amcan hwn yn crynhoi ein rôl wrth oruchwylio cyflawni etholiadau ar draws pob rhan o’r DU, gan ganolbwyntio ar dri maes: cyflawni digwyddiadau etholiadol llwyddiannus; cynyddu a moderneiddio cofrestru etholiadol; a mynd i’r afael â thwyll etholiadol.
Cyflawniadau allweddol
I helpu i gyflawni digwyddiadau etholiadol llwyddiannus, gwnaethom:
- gynorthwyo gyda’r etholiadau ym mis Mai 2019; etholiadau llywodraeth lleol, etholiadau Maerol leol ac etholiadau Maerol gyfun ar draws rhannau o Loegr, etholiadau llywodraeth lleol Gogledd Iwerddon, ac etholiadau Senedd Ewrop
- gefnogi cyflawni etholiad cyffredinol Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2019
- gydweithio â sefydliadau sy’n cefnogi pobl gydag anabledd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut i gymryd rhan mewn etholiadau a’r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael
- gydweithio â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a Choleg yr Heddlu i ddarparu canllawiau newydd i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar adnabod a rhoi gwybod am fygwth
- baratoi at etholiadau mis Mai 2020 a ohiriwyd: etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain; etholiadau llywodraeth leol, etholiadau Maerol lleol ac etholiadau Maerol awdurdodau cyfun mewn rhannau o Loegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr
- gyhoeddi canllawiau ac adnoddau, a darparu cymorth i weinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr ac asiantau ar gyfer yr etholiadau a drefnwyd at fis Mai 2020
I helpu i gynyddu a moderneiddio cofrestru etholiadol fe wnaethom:
- gynorthwyo gweithredu canfasiad blynyddol diwygiedig ym Mhrydain Fawr, gan wneud gwell defnydd o ddata lleol a chenedlaethol, gan gynnwys ymgynghori ar gynigion a chynhyrchu canllawiau newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) a ffurflenni ar gyfer y cyhoedd
- gynnal ymgynghoriad ar safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- ymgynghori ar gynigion gan Swyddfa Gogledd Iwerddon a Phrif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon o ran cynnal eu canfasiad etholiadol blynyddol, y disgwylir iddo bellach gael ei gynnal yn 2021
I helpu i fynd i’r afael â thwyll etholiadol, gwnaethom:
- gydweithio â’r heddlu ac awdurdodau lleol i ddarparu hyfforddiant ac adolygu cynlluniau unionder i helpu i atal twyll etholiadol
- gyhoeddi data ar achosion honedig o dwyll etholiadol a adroddwyd yn ystod 2019
- gydweithio â phartneriaid i gynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o dwyll etholiadol, a amserwyd i gyd-daro ag etholiadau ym mis Mai a mis Rhagfyr 2019
Mesurau perfformiad
Mesur | perfformiad |
---|---|
Rydym yn cyhoeddi 100% o gynhyrchion canllawiau sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol yn brydlon heb wallau sylweddol |
100% Cyflawnwyd |
Rydym yn darparu cyngor cywir i Swyddogion Canlyniadau (ROs) ac EROs o fewn tri diwrnod o dderbyn y cais. (Targed 100%) |
99.7% Cyflawnwyd |
Mae ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol yn ystod ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus yn bodloni neu yn rhagori ar ein targedau (cytunir i dargedau penodol cyn pob pleidlais) |
100% Cyflawnwyd |
Rydym yn adolygu 100% o’n cynlluniau unionder gan awdurdodau lleol y canfuwyd eu bod mewn perygl uwch o dwyll |
100% Cyflawnwyd |
Rydym yn cyhoeddi 100% o’n hadroddiadau yn ôl dyddiadau y cytunwyd iddynt |
60%1
|
Rydym yn sylwebu ar 100% o gynigion deddfwriaeth a pholisi perthnasol |
100% Cyflawnwyd |
Cyflawni digwyddiadau etholiadol llwyddiannus
Ers 2017, rydym wedi datblygu ac adolygu yn barhaus gynlluniau wrth gefn fel y byddem yn barod i gefnogi etholiadau ar fyr rybudd. Gwelsom fuddion hyn yn 2019, pan weithredasom yn gyflym i gynorthwyo dwy bleidlais ar gyfer y DU gyfan. Er gwaethaf yr amserlenni tyn a’r pwysau ar y rheiny a oedd ynghlwm wrth gynnal etholiadau, mae ein hymchwil yn dangos bod pleidleiswyr yn credu bod yr etholiadau wedi eu cynnal yn llwyddiannus. Rydym yn cyflawni ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus cyn pob pleidlais a gwnaethom ddarparu canllawiau i weinyddwyr etholiadol, pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, i’w helpu i gyflawni eu rolau. Yn ychwanegol at hyn, cyhoeddasom wybodaeth ariannol i helpu’r cyhoedd i ddeall o ble y cafodd pleidiau eu harian a sut y bu iddynt ei wario.
Cafwyd dwy ddeiseb adalw yn 2019, ac fe wnaethom gefnogi y rhain trwy ddarparu canllawiau i’r rheiny a oedd yn ymgyrchu a thrwy arsylwi gweinyddu’r broses. Fe wnaethom wedyn adrodd ar y modd y cafodd y deisebau eu cynnal, gan ganfod ffyrdd ymarferol i wella’r rhain yn y dyfodol.
Cynyddu a moderneiddio cofrestru etholiadol
Rydym wedi cyflawni swrn o waith er mwyn cefnogi diwygio’r canfasiad blynyddol ym Mhrydain Fawr. Bydd y prosesau newydd yn rhoi mynediad at ddata cenedlaethol cadarn i EROs ynghylch y boblogaeth breswyl, fel y gallant ganfod cyfeiriadau lle mae’n debygol bod newid wedi bod i’r bobl sy’n gymwys i bleidleisio. Bydd hyn yn galluogi EROs i ganolbwyntio eu hadnoddau ar feysydd lle mae’r angen mwyaf. Fe wnaeth ein cymorth ar gyfer y diwygiadau hyn gynnwys: sylwebu ar gynigion; darparu adborth ar y ddeddfwriaeth; ysgrifennu canllawiau i helpu gweinyddwyr etholiadol i ddeall eu cyfrifoldebau newydd; a chynhyrchu ffurflenni newydd ar gyfer y cyhoedd. Mae’r ffurflenni hyn yn cynnwys fersiynau ar gyfer Cymru, yr Alban, a Lloegr i adlewyrchu’r gwahanol etholfreintiau ym mhob pob gwlad. Fe wnaeth ein mewnbwn helpu i sicrhau y byddai’r cynigion yn ei gwneud hi’n haws i weinyddwyr etholiadol gynnal y canfasiad ac i’r cyhoedd ymateb iddo. Rydym yn gweld y ffora hyn fel cam pwysig tuag at wella ein system cofrestru etholiadol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau eu gweithredu cyntaf yn 2020.
Fe wnaeth ein craffu ar gynigion gan Swyddfa Gogledd Iwerddon a’r Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon i gynnal canfasiad o’r etholwyr - a drefnwyd yn wreiddiol at 2020 ond sydd bellach i ddigwydd yn 2021 - sicrhau y byddai’r cynlluniau yn weithredadwy ac yn helpu i wella lefelau cofrestru etholiadol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r gwaith hwn yn bwysig am fod ein hymchwil ddiweddar yn dangos bod un ym mhob 4 o‘r etholwyr cymwys yng Ngogledd Iwerddon heb eu cofrestru yn gywir yn eu cyfeiriad cyfredol.
Mynd i’r afael â thwyll etholiadol
Rydym yn darparu canllawiau a chyngor i gefnogi EROs, ROs a’r heddlu i fynd i’r afael â thwyll etholiadol. Yn 2019, am y drydedd flwyddyn yn olynol, gweithiasom ag Academi Twyll Economaidd Heddlu Dinas Llundain i gynnal a chyfrannu cynnwys at gyrsiau hyfforddi tri diwrnod ar gyfer yr heddlu. Fe wnaethom hefyd gynnal 15fed Seminar Blynyddol Cenedlaethol SPOC (un man cyswllt) yn Birmingham ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, a chefnogi seminarau SPOC yn yr Alban a Chymru, gan ddarparu briffiau etholiadol pwrpasol ar gyfer SPOCs newydd.
Trwy gydol y flwyddyn, fe wnaeth lluoedd heddlu ar draws y DU anfon atom ddata ynghylch honiadau o dwyll etholiadol y gwnaethant eu derbyn ac ymchwilio iddynt. Bob blwyddyn, rydym yn adrodd am nifer yr honiadau hyn, natur yr honiadau a’r canlyniadau, er mwyn deall beth sydd wedi digwydd a sut y daethpwyd â’r achosion i ben.
Ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai a mis Rhagfyr yn 2019, gwnaethom gydweithio â Crimestoppers a Swyddfa’r Cabinet i gynnal ein hymgyrch ‘Dy bleidlais di a neb arall’. Amcan yr ymgyrch hon yw helpu pleidleiswyr i ddeall beth yw twyll etholiadol a sut i godi pryderon. Fe wnaeth ein hymgyrch gyfrannu at fwy na 10,000 o ymweliadau â gwefan Crimestoppers, lle gallai pobl ganfod rhagor o wybodaeth ac adrodd am unrhyw bryderon. Mae Crimestoppers wedi trosglwyddo 30 darn o wybodaeth weithredadwy i’r heddlu
Report navigation links
Previous | Next |
---|---|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 | Amcan dau |
- 1. Rydym wedi cyhoeddi pum adroddiad, a dau ohonynt yn hwyr gan fis. Roedd hyn o ganlyniad i gasglu a dadansoddi data ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop gymryd hwy na’r disgwyl, yn arbennig o ran sicrhau bod gennym ddata ar ddinasyddion yr UE nad oedd yn gallu pleidleisio. Cafodd hyn effaith ganlyniadol ar yr adroddiad deisebau adalw. ↩ Back to content at footnote 1