Edrych tua 2020-21 a Defnyddio ein hadnoddau i gefnogi cyflawni ein hamcanion
Edrych tua 2020-21
Un o’n heriau ar gyfer y pum mlynedd o’n blaenau fydd sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu parhau i gyflawni etholiadau llwyddiannus. Fe wnaethom gefnogi penderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio’r pleidleisiau a drefnwyd at fis Mai 2020 o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Mae yna heriau sylweddol o ran cyflawni’r cyfuniad o bleidleisiau sydd bellach wedi eu trefnu at fis Mai 2021. Rydym yn gweithio gyda llywodraethau’r DU ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r pleidleisiau yn llwyddiannus, yn ddiogel, ac yn unol â’r canllawiau priodol.
Mae eisoes bwysau ar adnoddau awdurdodau lleol oherwydd deddfwriaeth gymhleth a hen-ffasiwn. Mae dros 50 o Ddeddfau a 170 o Offerynnau Statudol sy’n ymwneud â chyflawni etholiadau. Mae hyn yn arwain at gostau, goblygiadau a risgiau gwirioneddol i bleidleiswyr, ymgeiswyr, ac ymgyrchwyr, rheoleiddwyr a llywodraethau. Mae cynigion gan Gomisiynwyr Cyfraith y DU yn darparu sail gadarn ar gyfer gwaith pellach, yn seiliedig ar ymchwil dda. Yn 2020-21, byddwn yn parhau i alw ar lywodraethau a seneddau’r DU i fynd â’r rhain yn eu Blaenau.
Tra ein bod yn croesawu diwygiadau i’r canfasiad ym Mhrydain Fawr, mae rhaid i lywodraethau wneud rhagor i foderneiddio’r system cofrestru. Mae bodolaeth rhagor na 370 o gofrestrau gwahanol nad ydynt yn cyfathrebu â’i gilydd yn golygu bod y system yn agored i niwed, tra na all pleidleiswyr wirio a ydynt wedi cofrestru ar-lein, gan arwain at geisiadau dyblyg bob etholiad. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i annog llywodraethau’r DU i ymrwymo i wneud cofrestru yn fwy awtomeiddiedig, ac yn gysylltiedig â mynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mae natur ymgyrchu gwleidyddol yn parhau i newid, gyda phleidiau yn gwario cyfran fwy o’u cyllidebau hysbysebu ar hysbysebu digidol. Mewn ymateb i’r newidiadau hyn, mae angen arnom y pwerau a’r offerynnau cywir i barhau i reoleiddio cyllid gwleidyddol yn effeithiol. Yn 2020-21, byddwn yn gweithio gyda phawb ynghlwm i annog cydymffurfiaeth, a byddwn yn cynnal ymgyrch newydd i helpu pleidleiswyr i ddeall rheolau ymgyrchu digidol.
Rydym yn croesawu adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (CSPL) o reoleiddio etholiadol yn y DU. Mae natur ymgyrchu gwleidyddol wedi newid yn sylweddol, fel y mae disgwyliadau’r cyhoedd ers i Senedd y DU ysgrifennu’r rheolau 20 mlynedd yn ôl. Byddwn yn barod i ddarparu gwybodaeth a chyngor i CSPL ac eraill i helpu i gyflawni canlyniadau ac argymhellion a fydd yn galluogi pobl i barhau i weld y DU fel democratiaeth wydn sydd ar ei blaen hi o hyd.
Tra ein bod yn cydnabod effeithiau parhaol tebygol y pandemig Covid-19, mae ein rhaglen 2020-21 yn cynnwys:
- parhau â’n newid tuag at gynnig ein canllawiau mewn fformat newydd modern, mwy hygyrch
- gweithio gyda phartneriaid i wella hygyrchedd etholiadau fel bod gan bawb fynediad hafal at wybodaeth a phrosesau etholiadol
- cefnogi diwygiadau Llywodraeth y DU i’r canfasiad blynyddol
- cefnogi’r canfasiad ar gyfer 2021 yng Ngogledd Iwerddon
- datblygu strategaeth i gefnogi gwell dycnwch o ran cyflawni gwasanaethau etholiadol ar wastad lleol
- cyhoeddi ein safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- ymgysylltu ag agendâu polisi a deddfwriaeth llywodraethau yr Alban a Chymru parthed newidiadau i’r etholfraint ar gyfer eu hetholiadau
- adolygu ein cydymffurfiaeth â’n hymrwymiadau o ran yr iaith Gymraeg, i safon sy’n bodloni Comisiynydd y Gymraeg
- cwblhau adolygiad o ddisgrifiadau cofrestredig pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i sicrhau mai dim ond y rheiny sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol sy’n cael eu cynnwys
- cyflawni system cyllid gwleidyddol ar-lein newydd i gynorthwyo pleidiau ac ymgyrchwyr i gyflwyno eu ffurflenni ariannol yn effeithiol
- creu’r cynhwysedd i erlyn troseddau a amheuir, ac ymgynghori ar y ffordd rydym yn ymagweddu at ddefnydd erlyniadau
- ymgysylltu â pholisi llywodraethol ac agendâu deddfwriaethol ar gyfer cyllid gwleidyddol
- cryfhau ein hymgysylltu â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol a darparwyr hysbysebu digidol eraill i sicrhau bod eu gwasanaethau a’u polisïau yn cefnogi tryloywder ar gyfer gweithgarwch ymgyrchu etholiadol a refferenda
- mireinio ein gweithgarwch ymwybyddiaeth gyhoeddus i helpu pobl i ddeall rheolau ymgyrchu digidol a thrwy greu adnoddau addysgol ar gyfer pobl ifanc
- gwella hygyrchedd ein gwybodaeth trwy ddatblygu ein gwefan ymhellach, gan gynnwys gwaith i rannu data agored
- datblygu Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd newydd
- rhoi ein strategaeth pobl newydd ar waith
- cyflwyno newid busnes a alluogir gan dechnoleg ddigidol er mwyn adlewyrchu’r disgwyliadau ar gyflogwr modern
- parhau i weithio gyda seneddau Cymru a’r Alban i roi ein trefniadau atebolrwydd newydd ar waith
- adolygu sut rydym yn cyflawni gwasanaethau cyfreithiol sy’n bodloni’n gofynion cyfnewidiol yn effeithiol
- adolygu prosesau rheoli ansawdd ar draws ein prif wasanaethau a swyddogaethau
Defnyddio ein hadnoddau i gefnogi cyflawni ein hamcanion
Ein pobl
Perthnasau staff ac ymgysylltu
Mae arbenigedd, gwaith caled, a lefel ymrwymiad uchel ein gweithlu yn galluogi perfformiad llwyddiannus a chyflawniad ein Cynllun Corfforaethol. Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas gadarnhaol ac adeiladol sydd gennym gyda’n cydweithwyr, gan weithio’n galed i’w chynnal. Mae ein grŵp ymgysylltu â staff yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn ceisio adborth gan gydweithwyr ar faterion sy’n codi a helpu i gynnal perthynas dda â staff. Rydym hefyd yn annog cyfranogiad staff yn weithredol fel rhan o’r broses feunyddiol, ac rydym yn rhannu gwybodaeth ar ddatblygiadau presennol a darpar-ddatblygiadau yn gyson ac yn eang. I gefnogi hyn, mae gennym gytundeb cydnabyddiaeth gyda’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.
Fe wnaethom gwblhau ein harolwg staff diweddaraf ym mis Mawrth 2020, ac fe wnaeth 86% o’n cyflogeion ymateb. Roedd ein sgôr ymgysylltu â chyflogeion yn 72% (cynnydd ar 65% yn 2018-19). Mae ein sgorau yn cymharu’n ffafriol iawn â’r meincnod ar gyfer y Gwasanaeth Sifil mewn meysydd megis ein staff yn cytuno ar y canlynol:
- ein bod wedi cymryd camau gweithredol ar ôl yr arolwg diwethaf
- eu bod yn teimlo cysylltiad personol cryf i’n sefydliad a’i waith
- y byddent yn argymell y Comisiwn Etholiadol fel gweithle
Mae’r meysydd lle’r ydym yn cymharu’n fwyaf anffafriol â’r meincnod ar gyfer y Gwasanaeth Sifil, ac y mae angen i ni eu gwella, yn cynnwys staff yn cytuno:
- bod yna gyfleoedd iddynt wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn y Comisiwn Etholiadol
- bod ganddynt y systemau TG a’r offer angenrheidiol i wneud eu swyddi’n effeithiol
- ein bod wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chroesawgar
Cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo’n llawn i egwyddor cydraddoldeb o ran cyfleoedd a gwerth amrywiaeth. Mae ein cynllun cydraddoldeb unigol yn gosod allan ein dyletswyddau a’n hymrwymiadau ar draws y DU gyfan, gan gynnwys cynllun gweithredu yr ydym yn ei ddiweddaru yn flynyddol. Mae’r cynllun yn adlewyrchu’r ddyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi dylunio ein cynllun i sicrhau:
- bod pawb sy’n gymwys yn gallu cyfranogi yn y broses ddemocrataidd, trwy ganfod rhwystrau, gwneud argymhellion, a gweithio gydag eraill i ddileu’r cyfryw rwystrau
- ein bod yn corffori cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith, ein bod yn trin pob cwsmer yn deg a chyda pharch, ac ein bod yn dryloyw yn y penderfyniadau rydym yn eu gwneud
- bod cydraddoldeb i bawb o ran cyfleoedd a bod pob aelod staff yn cael ei drin yn deg a chyda pharch
Fe wnaethom gwblhau asesiadau effaith cydraddoldeb mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol trwy gydol 2019-20. Mae’r asesiadau effaith cydraddoldeb yn cefnogi ymrwymiad at wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn ychwanegol at drefniadau ar gyfer ymgynghori a monitro, mae’r broses asesu yn helpu i ddatblygu polisïau effeithiol sy’n bodloni anghenion pobl mewn perthynas ag unrhyw nodweddion gwarchodedig.
Fe wnaeth ein grŵp staff ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gwrdd yn rheolaidd a chefnogi ein gweithgareddau yn y meysydd hyn. Mae ein harolwg staff diweddaraf yn cynnwys cwestiynau ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dangosodd y canlyniadau mai maes pryder i’n staff yw nad yw ein sefydliad yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, ac nid ydynt yn credu ein bod yn gwneud digon i ddangos ein hymrwymiad tuag at greu gweithle amrywiol a chynhwysol. Byddwn yn dechrau mynd i’r afael â’r pryderon hyn wrth i ni gorffori strategaeth pobl newydd yn 2020, sy’n cynnwys gwaith i adolygu a gwella ein prosesau recriwtio a dethol.
Iechyd a diogelwch galwedigaethol
Rydym yn adolygu ein polisi iechyd a diogelwch yn flynyddol. Mae hefyd gennym ganllawiau, gweithdrefnau, ac asesiadau risg ar waith i gwmpasu ein gweithgareddau craidd. Mae grŵp iechyd a diogelwch yn goruchwylio ein gweithdrefnau. Maent yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adrodd i’n grŵp arweinyddiaeth. Fodd bynnag, mae’r prif gyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch yn gorwedd gyda rheolwyr pobl.
Rydym yn cychwyn archwiliadau iechyd a diogelwch annibynnol bob blwyddyn, sy’n cynnwys arolygu amgylcheddau gwaith ac adolygu systemau rheoli diogelwch. Mae’r archwiliadau hyn yn ddweud wrthym a yw ein trefniadau yn addas,, ac yn amlygu unrhyw welliannau y mae angen i ni eu gwneud. Roedd canfyddiadau archwiliadau a gwblhawyd yn 2019-20 yn foddhaus ar y cyfan, ac roedd ein trefniannau yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arferion gorau.
Ein heffaith amgylcheddol
Ein heffaith amgylcheddol
Rydym yn cydnabod bod cyflawni ein gweithgareddau yn cael effaith ar yr amgylchedd ac rydym yn parhau i weithio tuag at leihau’r effaith hon. Mae’r wybodaeth ganlynol yn crynhoi ein defnydd egni a dŵr, a chynhyrchu a gwaredu deunydd gwastraff.
Rydym yn prydlesu gofod swyddfeydd mewn pedair dinas gan gyfuniad o berchnogion eiddo preifat a chyhoeddus. Nid oes gennym reolaeth uniongyrchol dros gyflenwr cyfleustodau a thargedau gwaredu a rheoli gwastraff yn ein hadeiladau. Gyda nifer o’n swyddfeydd, mae perchennog yr eiddo yn rheoli defnydd egni a dŵr yn ogystal â gwaredu gwastraff, gan adennill y costau trwy dâl gwasanaeth cyfunol. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data defnydd a gwaredu gwastraff ein swyddfa yn Llundain yn unig, sef ein heiddo mwyaf a gweithle y rhan fwyaf o’n staff.
Mae’r swyddfeydd yng Nghaeredin, Caerdydd, a Belfast wedi adleoli i safleoedd llai, mwy amgylcheddol effeithiol yn ystod yn 10 mlynedd diwethaf. Mae prydles ein swyddfa yn Llundain yn dod i ben yn 2020. Ar ôl adolygu ein hopsiynau llety, rydym wedi penderfynu adnewyddu’r brydles.
Mae mentrau eraill ar waith er mwyn helpu i leihau’r effaith amgylcheddol. Ers 2011-12, rydym wedi:
- lleihau adnoddau argraffedig a ddarperir i weinyddwyr etholiadol a grwpiau eraill, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth electronig lle bo hynny’n bosib
- annog staff i ddefnyddio fideo a chynadledda pell i osgoi teithio diangen ac allyriadau CO2 dilynol
- gweithredu cyfleusterau ailgylchu yn ein holl swyddfeydd
- uwchraddio i gyfarpar technoleg gwybodaeth mwy effeithiol o ran ynn
Crynodeb (swyddfa Llundain)
Ardal: Allyriadau nwyon tŷ gwydr | 2019-20 Gwirioneddol1 | Targed 2019-20* | 2018-19 | 2017-18 | |
---|---|---|---|---|---|
CO2e mewn tunelli | Nid yw ar gael | 211 | 187 | 235 |
Ardal: Ynni’r ystâd | 2019-20 Gwirioneddol1 | Targed 2019-20* | 2018-19 | 2017-18 |
---|---|---|---|---|
Defnydd (kWh) | Nid yw ar gael | 661,061 | 639,526 | 682,595 |
Gwariant | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | NNid yw ar gael |
Ardal: Gwastraff yr ystâd | 2019-20 Gwirioneddol1 | Targed 2019-20* | 2018-19 | 2017-18 |
---|---|---|---|---|
Swm (tunelli) | Nid yw ar gael | 9.84 | 10.00 | 9.67 |
Gwariant | Nid yw ar gael | £1,111 | £1,227 | £994 |
Ardal: Dŵr yr ystâd | 2019-20 Gwirioneddol1 | Targed 2019-20* | 2018-19 | 2017-18 |
---|---|---|---|---|
Defnydd | Nid yw ar gael | 795 m3 | 742 m3 | 847 m3 |
Gwariant | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael |
*Mae’r darged flynyddol a ddangosir yn cael ei chyfrifo fel cyfartaledd y ddwy flynedd flaenorol.
Adroddiad allyriadau (swyddfa Llundain)
Allyriadau nwyon tŷ gwydr:
Dangosyddion anariannol (CO2e mewn tunelli) | 2019-20 | 2018-19 | 2017-18 | 2016-17 |
---|---|---|---|---|
Cyfanswm gros allyriadau | Nid yw ar gael | 187 | 235 | 268 |
Allyriadau gros - Defnydd tanwyddau ffosil | Nid yw ar gael | 151 | 198 | 227 |
Allyriadau gros - Teithio | Nid yw ar gael | 36 | 37 | 41 |
Defnydd ynni cysylltiedig (kWh) | 2019-20 | 2018-19 | 2017-18 | 2016-17 |
---|---|---|---|---|
Trydan | Nid yw ar gael | 446,018 | 487,611 | 495,414 |
Nwy | Nid yw ar gael | 193,508 | 211,990 | 187,181 |
Dangosyddion ariannol (£) | 2019-20 | 2018-19 | 2017-18 | 2016-17 |
---|---|---|---|---|
Gwariant ar ynni | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael |
Gwariant ar deithio | £138,514 | £125,450 | £113,852 | £166,585 |
Sylwebaeth perfformiad ar allyriadau
Mae’r defnydd ar danwyddau ffosil wedi lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn, sef effaith barhaus penderfyniad y perchennog i gyflwyno mesurau i leihau defnydd trydan, gan gynnwys defnydd llai ar offer a pheirianwaith ‘tu fas i oriau’, a chyflwyno goleuadau effeithiol o ran ynni.
Adroddiad gwastraff (swyddfa Llundain)
Mae ffigurau gwastraff ac ailgylchu cyffredinol wedi eu seilio ar gyfran o holl wastraff yr adeilad, ac nid ydynt yn uniongyrchol reoladwy gennym ni. Gwaredir gwastraff cyfrinachol y sefydliad ar wahân i feddianyddion eraill yr adeilad. Rydym yn rhwygo’r gwastraff cyfrinachol rydym yn ei gynhyrchu ar y safle cyn iddo gael ei ailgylchu yn bapur gradd isel.
Dangosyddion anariannol (tunelli) | 2019-20 | 2018-19 | 2017-18 | 2016-17 |
---|---|---|---|---|
Cyfanswm y gwastraff | Nid yw ar gael | 10.00 | 10.01 | 9.67 |
Gwastraff nad yw’n beryglus: Cyfrinachol | 2.13 | 5.58 | 2.81 | 2.48 |
Gwastraff nad yw’n beryglus: Gwastraff cyffredinol a ailddefnyddiwyd neu ei ailgylchu | Nid yw ar gael | 7.22 | 7.26 | 7.19 |
Dangosyddion ariannol (£) | 2019-20 | 2018-19 | 2017-18 | 2016-17 |
---|---|---|---|---|
Cyfanswm cost gwaredu | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael |
Cyfrinachol | £1,169 | £1,227 | £1,134 | £994 |
Gwastraff cyffredinol a ailddefnyddiwyd neu ei ailgylchu | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael | Nid yw ar gael |
Mae’r ffigwr ar gyfer y gwastraff cyffredinol a’r gwastraff a ailgylchwyd yn seiliedig ar gyfran o gyfanswm holl wastraff yr adeilad. Mae’r holl wastraff a gynhyrchir yn yr adeilad, gan gynnwys hynny a gynhyrchir gennym ni, yn cael ei anfon i safle ynni o wastraff cyfagos, yn hytrach na safleoedd tirlenwi.
Defnyddio ein hadnoddau ariannol yn effeithiol
Defnyddio ein hadnoddau ariannol yn effeithiol
Yn 2019-20, yr adnodd cychwynnol a oedd ar gael i ni gan Senedd y DU oedd £19.4m am weithgarwch y pleidleisiwyd drosto. Derbyniasom gyllid na phleidleisiwyd drosto gwerth £200k i dalu ffioedd Comisiynwyr.
Ym mis Ionawr 2020, ychwanegwyd £2.8m at ein cronfa adnoddau i gyllido gwariant ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019, a chynyddwyd ein cyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) gan £285k i reoli’r risg o amrywiadau mewn darpariaeth gyfreithiol. Fe wnaeth hyn estyn ein gofynion arian net gan £3m.
Wrth gyflawni ein hamcanion, rydym wedi defnyddio gwerth £20.0m o adnoddau ar gyfer y flwyddyn gyfan. Roedd hyn allan o’r swm o £22.2m a oedd ar gael i ni ac a gymeradwywyd gan Senedd y DU yn ein Hamcangyfrif Atodol ar gyfer gofynion adnoddau net. Mae’r ffigwr isod yn crynhoi ein perfformiad ariannol ar gyfer yr elfen o’n cyllideb y ‘pleidleisiwyd’ drosti.
Perfformiad ariannol 2019-20
Mae ein perfformiad ariannol yn dilyn ein perfformiad strategol, ac yntau wedi ei ddominyddu gan amserlen etholiadol gyfnewidiol. Ar gyfer y flwyddyn 2019-20:
- fe wnaeth ein costau staff gynrychioli 47% o’n gwariant, sydd yr un fath â 2018-19
- cododd ein costau gweithredu o 28% i 36% o’n cyllideb ddynodedig oherwydd gwaith ymwybyddiaeth gyhoeddus ychwanegol ar gyfer Etholiadau Senedd Ewrop ac etholiad cyffredinol Senedd y DU
- gwelsom wariant tebyg ar gyfer costau gweithredu refferendwm yr UE, sy’n cynrychioli costau ymgyfreitha a amddiffynwyd, costau net a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn
- cynyddodd ein gwariant cyfalaf ryw fymryn o 4.3% i 4.5%
Rydym yn adrodd ein tanwariant ar fesur arferol y Drysorfa (“R-DEL ac eithrio dibrisiant”) am fod hyn yn adlewyrchu penderfyniadau gweithredu a wnaed yn ystod y flwyddyn. Yn 2019-20, roedd hyn yn £1.5 yn erbyn y gyllideb y pleidleisiwyd drosti, sef £20.3m (7.4%). Roedd hyn o ganlyniad yn bennaf i wario wrth gefn nas gwnaed ac arbedion eraill wrth gyflawni etholiad cyffredinol Senedd y DU nas cynlluniwyd. Fe wnaeth canslo pleidleisiau mis Mai 2020 ym mis Mawrth 2020 gan Lywodraeth y DU hefyd achosi gohirio costau sylweddol i 2020-21, gan gynyddu’r tanwariant yn ystod y flwyddyn hon. Ac eithrio’r ffactorau eithriadol hyn, roedd y tanwariant yn £0.369 (1.8%), gan gyflawni ein hamcan corfforaethol. Fodd bynnag, oherwydd y ffactorau eithriadol hyn, rydym wedi penderfynu cofnodi’r amcan hwnnw fel un heb ei fodloni yn ein hadroddiad perfformiad.
Mae’r tanwariant yn cynnwys:
- Tanwariant o £599k ar etholiad cyffredinol Senedd y DU
- £598k o wariant ymgyrchu llai o ganlyniad i ohirio etholiadau mis Mai 2020
- £96k o gostau staffio llai
- £76k o incwm annisgwyl yn deillio o Senedd Cymru a Senedd yr Alban
- £103k fel cyfuniad o danwariannau llai
- £33k mewn grantiau datblygu polisi nas hawliwyd
Arall
- £235k mewn dibrisiant o ganlyniad i wariant cyfalaf llai
- £415 mewn darpariaethau o ganlyniad i gostau cyfreithiol llai na’r disgwyl
- £111k mewn prosiectau cyfalaf
Mae’r tanwariant o £21k yn erbyn cyllideb na phleidleisiwyd drosti o ganlyniad i gostau llai na’r disgwyl ar gyfer Comisiynwyr.
Mae ein hincwm yn ein cyfrifon yn ymwneud â chostau ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol a gwaith a gyflawnwyd ar gyfer Senedd Cymru a Senedd yr Alban Rydym yn casglu dirwyon a godir ar bleidiau gwleidyddol ac unigolion am beidio â chydymffurfio â’r rheolau parthed cyllid pleidiau ac etholiadau; rydym wedyn yn ildio’r rhain i Gronfa Gyfunol fel y bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Swm y cosbau dyledus oedd £232,980 yn 2019-20 a dderbyniwyd erbyn 31 Mawrth 2020 a’u hildio i’r Gronfa Gyfunol.
Yn ychwanegol at fonitro perfformiad yn erbyn cyllidebau, fe wnaethom hefyd reoli o fewn ein terfynau arian a osodwyd gan Senedd y DU. Roedd angen arnom £20.2m yn 2019-20 i ariannu ein gweithgareddau y pleidleisiwyd drostynt, a oedd £1.5m yn llai na’r swm o £21.7m a gymeradwywyd gan Senedd y DU yn ein Hamcangyfrif Atodol. Mae cysoni’r alldro adnoddau net i ofyniad ariannol net yn cysoni ein halldro i’r arian parod net angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn.
Mae’r Datganiad o Ffrydiau Arian yn dangos mai £197k oedd y balans arian ar 31 Mawrth 2020.
Mae’r Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol yn ôl 31 Mawrth 2019 yn dangos ecwiti’r trethdalwyr negyddol oherwydd anfonebau heb eu talu a gronnwyd.
Taliadau i gyflenwyr
Er ein bod yn annibynnol ar y llywodraeth, rydym yn ceisio cydymffurfio â’r Cod Talu’n Brydlon sy’n weithredol ar draws y sector cyhoeddus. Y darged yw talu anfonebau nas heriwyd ymhen 30 diwrnod. Yn 2019-20, fe wnaethom dalu 81.6% o anfonebau (99.9% yn 2018-19) ymhen 30 diwrnod. Roedd y gostyngiad o ganlyniad i newid gofynnol i’r broses ar gyfer archebion prynu, sydd bellach ar waith; disgwylir felly y bydd ein perfformiad yn codi eto yn hyn o beth.
Rhyddid Gwybodaeth, cwynion a chwestiynau seneddol
Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion didwylledd a thryloywder mewn bywyd cyhoeddus ac yn cydnabod y ddyletswydd arnom i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd. Yn 2019-20, derbyniasom 287 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI), cynnydd sylweddol ar y 224 a dderbyniasom y flwyddyn gynt. Fe wnaethom ymateb i 59.4% o’r rhain ymhen y fframwaith statudol o 20 diwrnod gwaith (yn erbyn targed o 90%) oherwydd cynnydd yn nifer y ceisiadau mawr a chymhleth yn ystod digwyddiadau etholiadol. Mae cyfran y ceisiadau mawr, cymhleth, a cheisiadau a ailadroddir, wedi cynyddu o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Fe wnaethom ymateb i 13 cais adolygu FOI, 4.5% o’r holl geisiadau yr ymatebwyd iddynt. Fe wnaeth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ein hysbysu o chwe chŵyn: un yn ymwneud â chais gwrthrych am wybodaeth; a phump yn ymwneud â cheisiadau FOI; dyma lai 2% o gyfanswm y ceisiadau FOI yr ymatebwyd iddynt yn 2019-20.
Derbyniasom 20 o geisiadau gwrthrych am wybodaeth, o gymharu â phump yn 2018-19. Fe wnaethom ymateb yn ddiatreg i’r rhain oll. Derbyniasom un gŵyn, ac mae hon yn aros casgliad gan yr ICO. Fe wnaethom hefyd dderbyn chwe chais ar gyfer dileu data o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data/Deddf Diogelu Data 2010.
Cynnal Etholiadau Senedd Ewrop ac etholiad cyffredinol Senedd y DU a wnaeth gyfrannu fwyaf at y cynnydd mewn ceisiadau a dderbyniwyd yn 2019-20.
Ymdriniasom â 51 o gŵynion, o gymharu 37 yn 2018-19. Fe wnaethom gynnal tair cwyn a chynnal yn rhannol dair pellach. Roedd y cwynion hyn yn ymwneud yn bennaf â gwallau gweinyddol ac oedi wrth ymateb i ymholiadau. Derbyniasom 11 cais i’w hadolygu. Tra nad oedd yr un o’r adolygiadau hyn wedi newid canlyniad gwreiddiol y gŵyn, fe wnaethant alluogi eglurhad a chymorth pellach. Mae’r Ombwdsmon Seneddol yn ystyried un gŵyn ac rydym yn aros canlyniad hynny.
Yn ychwanegol at hyn, derbyniasom ohebiaeth gan 709 aelod o’r cyhoedd yn cwyno am anawsterau o ran gallu pleidleisio o ganlyniad i byr rybudd yn ymwneud â Brexit yn etholiadau Senedd Ewrop.
Fe wnaethom ymateb i 49 o gwestiynau seneddol yn ystod 2019-20 ynghylch ymgyrchu digidol, twyll etholiadol, cywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ac effeithiolrwydd cyfraith etholiadol. Bridget Phillipson AS, aelod o Bwyllgor y Llefarydd, oedd ein llefarydd yn Senedd y DU, ac fe wnaeth hi ateb cwestiynau ar ein rhan.
Amcangyfrif cyflenwi ar gyfer 2020-21
Mae ein hamcangyfrif ar gyfer 2020-21 (HC303) yn darparu ar gyfer gofyniad adnoddau net o £21.9m Fe wnaeth Pwyllgor y Llefarydd gymeradwyo hyn ar 29 Ebrill 2020. Nid oes rheswm dros gredu na fyddai cymeradwyaethau yn y dyfodol yr un mor barod. Rydym yn bwriadu defnyddio’r adnoddau hyn i barhau i gyflawni ein pedwar amcan parthed etholiadau, rheoleiddio cyllid gwleidyddol, defnyddio arbenigedd i wella prosesau democrataidd a’r defnydd gorau ar ein hadnoddau.
- 1. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid oedd y data ar gael gan ein landlord adeg cyhoeddi hyn. Byddwn yn cyhoeddi’r data ar ein gwefan mewn da bryd.↩ Back to content at footnote 1 a b c d