Neidio i'r prif gynnwys
Y Comisiwn Etholiadol

Language selection

  • English
  • Cymraeg
Search
  • Ein canllawiau
    Ein canllawiau

    We provide guidance about the process of running elections, standing as a candidate, and campaigning at an election.

    • Gweinyddwr Etholiadol
    • Ymgeisydd neu asiant
    • Plaid wleidyddol
    • Ymgyrchwyr
    • Unigolion a sefydliadau eraill a reoleiddir
    • Pwynt Cyswllt Unigol
  • Pleidleisio ac etholiadau
    Pleidleisio ac etholiadau

    Find out everything you need to know about voting and elections, including information about upcoming elections in your area.

    • Cofrestru i bleidleisio
    • Gwybodaeth etholiad
    • Pwy sy’n gallu pleidleisio
    • Ffyrdd i bleidleisio
    • ID Pleidleisiwr
    • Campaigning for your vote
    • Rhoi gwybod am dwyll etholiadol
    • Ffyrdd o gymryd rhan mewn democratiaeth
  • Ymchwil, adroddiadau a data
    Ymchwil, adroddiadau a data

    Part of our role includes conducting research and gathering data, and publishing reports and making recommendations about elections that take place across the UK.

    • Ein hadroddiadau a data ar etholiadau a refferenda yn y gorffennol
    • Electoral registration research
    • Agweddau'r cyhoedd
    • Moderneiddio pleidleisio: astudiaethau dichonoldeb pleidleisio hyblyg
    • Data ar dwyll etholiadol
    • Ymchwil cwestiwn y refferendwm
  • Cofrestru a rheoleiddio gwleidyddol
    Cofrestru a rheoleiddio gwleidyddol

    We are responsible for registering political parties, publishing political finance data, and taking action if we have reason to suspect political finance law has been broken.

    • Ceisiadau cofrestru plaid
    • Adroddiadau ariannol
    • Gorfodi
    • Argraffnodau
  • Newyddion a safbwyntiau
    Newyddion a safbwyntiau

    Get the latest news from us, and read media handbooks for elections. We also hold consultations, and publish our responses to consultations from others.

    • Canolfan Cyfryngau
    • Ein blaenoriaethau ar gyfer diwygio etholiadau
    • Ein llythyrau
    • Our work with the UK Parliament
    • Ein hymgynghoriadau
    • Ymateb i ymgynghoriadau
  • Adnoddau
    Adnoddau

    Use our resources to share information about voting and democracy. Take a look at our resources for young people. Download lesson plans and activities for use in the classroom or youth groups. Share our assets and get the message out.

    • Adnoddau i bobl ifanc
    • Adnoddau i Addysgwyr
    • Partner, elusen neu gyngor lleol

You are in the Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 section

  • Cartref …
  • Amdanom ni …
  • Ein cynlluniau, blaenoriaethau a gwariant …
  • Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 …

Edrych ymlaen i 2022/23

On this page

  • Trosolwg/Amdanom ni
  • Amcanion y Comisiwn ar gyfer 2022/23 – 2026/27
  • Bydd tri ffactor allweddol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion
  • Edrych i'r dyfodol
Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Gorffennaf 2022 Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Awst 2022

Trosolwg/Amdanom ni

Gan edrych ymlaen i 2022/23, byddwn yn canolbwyntio ar ddechrau cyflawni'r uchelgeisiau yn ein cynllun corfforaethol newydd. Mae ein Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27, a gyflwynwyd gerbron Senedd y DU a Senedd yr Alban ym mis Ebrill 2022, a'r Cynllun Corfforaethol cysylltiedig ar gyfer Cymru, yn nodi ein hamcanion strategol ar gyfer y cyfnod.

Amcanion y Comisiwn ar gyfer 2022/23 – 2026/27

1. Systemau cofrestru a phleidleisio hawdd eu defnyddio 

Byddwn yn gweithio i sicrhau'r canlynol: cynnydd yn y nifer sy'n cofrestru i bleidleisio, yn enwedig ymhlith grwpiau sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'r broses ar hyn o bryd; dymchwel rhwystrau, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd bwrw eu pleidlais ar hyn o bryd.

2. Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau

Byddwn yn gweithio i sicrhau'r canlynol: cynnydd yn hyder ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill yn eu gallu i ddeall, cymhwyso a chydymffurfio â'r gyfraith ar ymgyrchu a chyllid gwleidyddol; lefelau uchel o gydymffurfiaeth â systemau cofrestru ac adrodd, a chyfreithiau cyllid gwleidyddol eraill.

3. Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn 

Byddwn yn gweithio i sicrhau'r canlynol: perfformiad uchel parhaus a chyson wrth gynnal etholiadau yn effeithiol; cynnydd yn hyder gweinyddwyr etholiadau yng nghadernid y system etholiadol.

4. Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol 

Byddwn yn gweithio i wneud y canlynol: cefnogi llywodraethau i ddiwygio cyfraith etholiadol er mwyn ei gwneud yn llai cymhleth; lleihau'r risgiau a'r aneffeithlonrwydd sy'n gysylltiedig â chyfraith etholiadol sy'n effeithio ar ein system etholiadol.

5. System etholiadol fodern a chynaliadwy 

Byddwn yn gweithio i sicrhau'r canlynol: y manteisir ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadau; y deellir y risgiau newidiol i'r system etholiadol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, ac y gweithredir arnynt; y meithrinir cydberthnasau cadarn ac arferion gwaith wedi'u symleiddio â phob corff sy'n rhan o'r system etholiadol; y caiff llywodraethau a'r gymuned etholiadol ehangach eu cefnogi i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy'n lleihau effaith amgylcheddol ein system etholiadol.

Bydd tri ffactor allweddol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion:

1. Rydym yn ymddwyn ag uniondeb ac yn annibynnol

Byddwn yn parhau i ddangos sut rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol: gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny; seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar ddadansoddiad o'r dystiolaeth; cyfleu ein gwaith a'n barn yn effeithiol; darparu gwasanaethau ymatebol i'r rhai rydym yn eu cefnogi; cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol

2. Rydym yn sefydliad medrus sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth 

Byddwn yn gwneud y canlynol: rhoi arferion gwaith wedi'u hadnewyddu ar waith i adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a'n diwylliant; denu, cadw a datblygu'r bobl sydd eu hangen arnom; cynnal a gwella safonau rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl; ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith

3. Rydym yn sefydliad sy'n dysgu, yn gwella'n barhaus ac yn defnyddio adnoddau effeithiol

Byddwn yn gwneud y canlynol: caffael technoleg sy'n sicrhau gwerth am arian ac sy'n gwella'r gwasanaethau a ddarperir, a'i rhoi ar waith, fel sy'n briodol; cynnal strategaeth ariannol ddarbodus gadarn; parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol; datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy'n bodloni gofynion deddfwriaethol a gofynion polisi.

Edrych i'r dyfodol

Ar gyfer 2022/23, gwnaethom dynnu sylw at y risgiau, yr heriau a'r cyfleoedd allweddol canlynol:

  • Ein prif flaenoriaeth yw cynnal etholiadau mis Mai 2022, gan gynnwys etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon a chynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio'n gynnar yng Nghymru. Byddwn yn adrodd ar drefn cynnal yr etholiadau yn hydref 2022.
  • Cafodd Bil Etholiadau Llywodraeth y DU Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill 2022, gan wneud newidiadau helaeth i sut y caiff etholiadau eu cynnal, y ffordd y mae pobl yn pleidleisio, ymgyrchu, a gwariant a chyllid gwleidyddol. Mae hyn yn sbarduno rhaglen waith sylweddol ar draws ein swyddogaethau. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, gweinyddwyr etholiadau a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a chyflawni ein cynlluniau gweithredu. Caiff amserlenni ar gyfer rhoi'r newidiadau gofynnol ar waith eu gosod gan Lywodraeth y DU ac maent yn debygol o fod yn heriol i ni ac i'r gymuned etholiadol ehangach. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn deall y risgiau ac yn gwneud yr hyn a allwn i'w lliniaru, gydag adnoddau pwrpasol a phrosesau rheoli prosiect a risg penodol ar waith i helpu i gyflawni ein gweithgarwch ein hunain yn llwyddiannus.
  • Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi mewn technoleg, uwchraddio ein seilwaith a chyflwyno'r system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein i'r defnyddwyr cyntaf. Bydd diweddaru ein seilwaith fewnol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn, gan wella arferion gwaith effeithlon a darparu sylfaen gadarn i osod strategaeth ddigidol newydd sy'n gyson â'n huchelgeisiau ar gyfer y Comisiwn ac etholiadau modern.
  • Adnewyddu ein harferion gwaith a'n diwylliant. Bydd blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 yn cynnwys datblygu ein dull o ymdrin ag amrywiaeth a chynhwysiant yn sylweddol, uwchraddio ein cyfleoedd dysgu a datblygu, a gwella prosesau recriwtio a sefydlu. I gefnogi ein strategaeth ariannol a sicrhau gwerth am arian, rydym hefyd yn bwriadu gwella prosesau rhagfynegi ariannol a chyllidebu.

Navigation

Blaenorol Nesaf
Ffocws ar Ogledd Iwerddon Defnyddio ein hadnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau

Oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol?

  • Ydw roedd yr erthygl yn ddefnyddiol
  • Na nid oedd yr erthygl yn ddefnyddiol

Footer Content

Dolenni cyflym

  • Cysylltwch â ni
  • Canolfan Cyfryngau
  • Amdanom ni
  • Rhyddid Gwybodaeth
  • Gweithio i ni
  • Hygyrchedd
  • Hysbysiad preifatrwyd
  • Ein cynllun cyhoeddi
  • Cytundebau

Dilynwch ni

  • Dilynwch ni arX.com
  • Dilynwch ni arFacebook
  • Dilynwch ni arLinkedIn
  • Dilynwch ni arBlog
© 2026 Y Comisiwn Etholiadaol

Modal Title