Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024/25
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ein Hadroddiad Perfformiad, ein Hadroddiad Atebolrwydd a'r Datganiadau Ariannol.
Mae'r Adroddiad Perfformiad yn rhoi trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein pwrpas, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'r risgiau allweddol i gyflawni ein nodau. Rydym wedi cynnwys crynodeb o wybodaeth ariannol yn yr Adroddiad Perfformiad. Mae hwn yn adrodd ar brif bwyntiau y Datganiadau Ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
O edrych yn ôl dros y deuddeg mis diwethaf, mae llawer i’w ddathlu ynghylch iechyd democratiaeth y DU.
Yn fuan wedi i’r etholiadau lleol gael eu cynnal ar draws Lloegr, cafodd etholiad cyffredinol ei alw. Fel bob amser, fe wnaeth y gymuned etholiadol roi pethau ar waith yn sydyn.
Wedi pedair blynedd yn y rôl hon, rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan ymrwymiad a phroffesiynoldeb gweinyddwyr etholiadau. Hwy yw arwyr anhysbys etholiadau, sy’n mynd y tu hwnt i'r gofyn er mwyn helpu pleidleiswyr yn eu cymunedau i gymryd rhan a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Gwelodd yr etholiad cyffredinol gyfraddau uchel o gofrestriadau pleidleiswyr a cheisiadau pleidlais absennol mewn amser byr iawn, a chafodd dros 30,000 o orsafoedd pleidleisio eu trefnu.
Mae’r pwysau aruthrol ar y system gweinyddu etholiadau yn parhau o safbwynt capasiti ac amserlenni, a gwelwyd rhai pleidleiswyr yn wynebu heriau o ran derbyn eu pleidlais bost mewn da bryd er mwyn cymryd rhan. Mae yna feysydd sydd yn parhau i fod angen sylw, ond mae ein tystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr wedi gallu cymryd rhan ac wedi bwrw eu pleidlais yn llwyddiannus.
Trodd ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr at waith yn syth unwaith y cafodd yr etholiad ei alw, gan ymdrechu i ledaenu eu neges i gynifer â phosib o bleidleiswyr. Roedd yn ymgyrch fywiog, dda. Yn ogystal â gwrando ar eu neges, mae’n bwysig bod pleidleiswyr yn gwybod o le mae’r arian yn dod. Felly, yn ystod yr ymgyrch, aethom ati i gyhoeddi diweddariadau wythnosol ar y rhoddion a dderbyniwyd gan bleidiau er mwyn sicrhau tryloywder mewn amser real.
Fodd bynnag, roedd lefel y difrïo a’r bygythion a dderbyniodd ymgeiswyr yn gwmwl du dros yr ymgyrch. Canfu ein hymchwil wedi’r etholiadau fod dros hanner yr ymgeiswyr wedi profi rhyw fath o ddifrïo, gyda merched a phobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu targedu’n benodol. Mae hon yn broblem y mae’n rhaid mynd i’r afael â hi, neu rydym mewn perygl o gadw pobl draw yn y dyfodol. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i weithio gyda Chynhadledd y Llefarydd, partneriaid, gan gynnwys yr heddlu a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, er mwyn cefnogi a gwella profiad ymgeiswyr.
Er gwaetha’r heriau a’r ffaith bod lle i wella ar y system, mae darparu etholiad cyffredinol sy’n hawlio hyder pleidleiswyr, a lle mae’r canlyniadau’n cael eu derbyn gan bawb yn ddiwahân, wastad yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo a’i ddathlu.
Wedi dweud hynny, mae nifer o’r heriau a oedd yn amlwg yn yr etholiad hwn, ynghyd â’r data a’r dystiolaeth rydym wedi’u casglu gan bleidleiswyr, pleidiau, ymgeiswyr a gweinyddwyr, yn amlygu nifer o fygythiadau a pheryglon i'r system y mae angen mynd i’r afael â hwy
Rydym wedi treulio amser sylweddol eleni yn dadansoddi’r ymchwil ac yn ymgysylltu gyda’n rhanddeiliaid ynghylch yr hyn maen nhw’n eu hystyried yn bryderon a chyfleoedd dros y blynyddoedd sydd i ddod
Rydym wedi dwyn ynghyd y dystiolaeth a’r mewnwelediad er mwyn datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd, sef ein glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn dros y pum mlynedd nesaf
Ein blaenoriaethau yn ystod y cyfnod hwn yw cynyddu mynediad i’r pleidleiswyr, moderneiddio’r system, mynd i’r afael â bygythiadau, arwain trafodaeth yn seiliedig ar newidiadau, ac adeiladu ar gydnerthedd y Comisiwn
Byddwn yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys llywodraethau’r DU, gweinyddwyr etholiadau, sefydliadau cymdeithas sifil, pleidiau gwleidyddol a’r heddlu er mwyn cyflawni ein nod dros y blynyddoedd nesaf.
Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i ni ein hunain, ond rydym yn teimlo bod y rhain yn adlewyrchu pwysigrwydd cynnal ymddiriedaeth ac ymgysylltu yn ein democratiaeth
Yn olaf, hoffwn gydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud dros gyfnod y Cynllun Corfforaethol diwethaf. Un nod allweddol oedd cryfhau’r cysylltiadau a’r gefnogaeth roeddem yn eu cynnig i’n rhanddeiliaid drwy weithio’n agos gyda gweinyddwyr etholiadau ac adeiladu ar y gwasanaeth roeddem yn ei gynnig i’n cymuned a reoleiddir; mae’r ymdrechion hyn wedi cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol sy’n darparu sail dda ar gyfer rhagor o welliannau.
Rwy’n ymfalchïo yng ngwaith ac effaith gweithgareddau’r Comisiwn dros y flwyddyn a aeth heibio, sydd wedi’i gyflawni diolch i holl waith staff y Comisiwn, partneriaid a’r gymuned etholiadol ehangach. Edrychaf ymlaen at ymgymryd â’r bennod gyffrous nesaf gyda’n gilydd.
John Pullinger CB
Cadeirydd
Dros y flwyddyn a aeth heibio, mae gwaith sylweddol wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod yr etholiad cyffredinol a’r pleidleisio ym mis Mai yn rhedeg yn esmwyth. Mae bob amser yn rhyfeddol gweld y gymuned etholiadol yn dod ynghyd i gyflawni hyn: sylfaen gadarn ein democratiaeth.
Unwaith y cafodd yr etholiad cyffredinol ei alw, fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol hefyd symud yn sydyn i ddechrau ar ei waith pwysig o godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth roeddent ei hangen er mwyn cymryd rhan. Lansiwyd ymgyrchoedd cyhoeddus cofrestru i bleidleisio ac ID pleidleiswyr, ac roeddem yn falch o weld lefelau uchel o gofrestru ac ymwybyddiaeth o ID o ganlyniad
Er mwyn cael dewis democrataidd priodol, mae angen i bleidleiswyr allu barnu’r deunydd gan ymgeiswyr sy’n ceisio dylanwadu ar eu pleidlais. Ar ddechrau’r ymgyrch, bu i’r Comisiwn gyhoeddi cyngor newydd i bleidleiswyr ar sut i ymgysylltu’n hyderus gyda deunydd yr ymgyrch a meddwl yn feirniadol ynghylch yr hyn wnaethant ei weld neu ei glywed. Mae pryderon wedi bod cyn yr etholiad ynghylch rôl camwybodaeth a thwyllwybodaeth a ph’un a fyddai ffactorau niweidiol yn ceisio camarwain pleidleiswyr. Roeddem yn falch o weld na wnaeth y risg honno amlygu ei hun ar unrhyw raddfa fawr – ond mae’n un yr ydym yn cadw llygad agos arni.
Fel bob amser, aethom ati i gynnig cyngor ac arweiniad i weinyddwyr etholiadau a’r gymuned a reoleiddir er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu bodloni eu cyfrifoldebau.
Wedi’r etholiad, fe wnaethom ddwyn ynghyd amrywiaeth eang o dystiolaeth er mwyn asesu sut aeth pethau. Yn seiliedig ar ymchwil gyda phleidleiswyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadau, daethom i’r casgliad ei fod wedi ei redeg yn dda a’i fod wedi cynnal hyder pleidleiswyr. Fodd bynnag, fe wnaethom ganfod sawl maes lle’r oedd angen gwelliannau. Aethom ati i argymell nifer o newidiadau er mwyn sicrhau bod y system yn cyflawni ar gyfer pawb, gan gynnwys ynghylch gwella’r bleidlais bost, ymddygiadau difrïol a bygythiol, ID pleidleiswyr, y broses ar gyfer pleidleiswyr dramor, ac enwebiadau ymgeiswyr.
Mae’r Comisiwn wedi bod yn gweithio’n agos gyda phwyllgorau’r llywodraeth a’r senedd er mwyn sicrhau cefnogaeth i’r newidiadau hyn, a chydag eraill er mwyn mynd i’r afael â gwendidau yn y system. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chynhadledd y Llefarydd a’r Tasglu Amddiffyn Democratiaeth er mwyn mynd i'r afael â’r materion sy’n achosi pryder ynghylch diogelwch ymgeiswyr, camdriniaeth a bygythiadau, gydag amrywiaeth eang o bartneriaid ar ffugiadau dwfn, AI a chamwybodaeth a thwyllwybodaeth, a chyda’n prif bartneriaid rhyngwladol er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o’u hetholiadau, eu heriau a’u syniadau hwy.
Rydym hefyd wedi bod yn meithrin ein gwaith gyda phobl ifanc, fel bod ganddynt yr hyder a’r wybodaeth i gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae hwn yn faes gwaith rydym yn bwriadu ei ehangu ymhellach o ystyried pwysigrwydd ymgysylltu gyda phleidleiswyr y dyfodol, yn arbennig os yw pleidlais i rai 16 oed yn cael ei gyflwyno ar draws y DU.
Mae diogelwch ac uniondeb cyllid gwleidyddol yn un o’r prif bryderon sydd gan bleidleiswyr. Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth am filiynau o bunnoedd o roddion a gwariant er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr dryloywder. Rydym wedi nodi cyfres eglur o newidiadau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â bregusrwydd y system sy’n tanseilio hyder pleidleiswyr.
TMae’r rhain i gyd yn themâu rydym yn eu blaenoriaethu yn ein Cynllun Corfforaethol newydd, wedi’i gytuno arno gan Bwyllgor y Llefarydd, y Senedd a Senedd yr Alban, sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o brosiectau rydym yn bwriadu eu cyflawni dros y bum mlynedd nesaf er mwyn gwella iechyd ac uniondeb ein systemau democrataidd.
Mae atgyfnerthu’r Comisiwn ei hun yn un o’n pum maes blaenoriaeth. Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith i sicrhau bod gennym y systemau a’r gefnogaeth gywir yn eu lle er mwyn gwella ein perfformiad, yn arbennig felly o safbwynt cyllid, TG, caffael a rheoli prosiectau, er mwyn gallu cyflawni ein cynllun corfforaethol yn llwyddiannus.
Eleni, fe wnaeth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth orffen eu hymchwiliad i'r ymosodiad seiber ar gafodd y Comisiwn yn 2021. Mae’n eglur nad oedd gennym ffactorau amddiffyn digonol yn eu lle bryd hynny. Fe wnaethant nodi’r mesurau a roddwyd yn eu lle ers hynny gan groesawu’r camau roeddem wedi’u cymryd. Rydym wedi buddsoddi’n fawr yn ein seilwaith digidol a’n seiberddiogelwch er mwyn amddiffyn rhag ymosodiadau pellach, ac rydym yn gweithio gyda phleidiau gwleidyddol ac eraill er mwyn sicrhau bod data democrataidd y DU yn cael ei ddiogelu. Credwn fod ein prosesau democrataidd yn seilwaith cenedlaethol hanfodol.
Mae’r Comisiwn yn parhau i fuddsoddi yn ei bobl a llefydd, gan sicrhau bod gennym y sgiliau a’r adnoddau cywir i allu cyflawni ein huchelgeisiau. Fel bob amser, rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth ac arbenigedd staff y Comisiwn. Roedd eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ar yr etholiad cyffredinol, yn dangos unwaith eto grŵp mor ymroddedig o bobl ydynt, wedi eu hymrwymo i hyrwyddo ac amddiffyn democratiaeth y DU.
Edrychaf ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen. Ond rwy’n hyderus, ynghyd â phartneriaid ar draws y gymuned etholiadol, y gallwn sicrhau bod popeth rydym ni’n ei wneud yn helpu pobl i ymddiried a gweld gwerth mewn etholiadau a chymryd rhan ynddynt.
Vijay Rangarajan
Prif Weithredwr
Ein hamcanion strategol
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl yn ymddiried yn etholiadau a refferenda, yn eu gwerthfawrogi ac yn cymryd rhan ynddynt. Rydym yn anelu i lwyddo drwy gyflawni’r amcanion strategol sydd wedi’u hamlinellu yn ein Cynllun Corfforaethol. Dyma flwyddyn olaf y cynllun hwn, a chafodd un newydd ei lansio ym mis Ebrill 2026. Mae’r amcanion strategol hyn yn sail i sut rydym yn gwerthuso perfformiad y Comisiwn am y flwyddyn.
- Cofrestru a phleidleisio hygyrch
- Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw ac ariannu gwleidyddol sy'n cydymffurfio
- Gwasanaethau etholiadau lleol cryf
- Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
- System etholiadol fodern a chynaliadwy
Er mwyn sicrhau ein bod fel sefydliad yn gallu bodloni’r amcanion hyn, mae gennym dri gweithgaredd galluogi allweddol.
- Rydym yn arddangos annibyniaeth ac uniondeb
- Rydym yn sefydliad medrus lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi
- Rydym yn sefydliad sy'n dysgu lle mae gwelliant yn barhaus, a lle defnyddir adnoddau'n effeithiol
Uchafbwyntiau'r flwyddyn
- Ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr
- Ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o ID pleidleiswyr
- Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
- Adroddiad ymchwil ar safbwynt pobl ifanc ar ddemocratiaeth
- Cyngor newydd i bleidleiswyr ar ymgysylltu gyda deunydd ymgyrchu
- Darparu canllawiau i weinyddwyr, gan gynnwys ynghylch hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
- Adroddiad ar yr etholiad cyffredinol a'r etholiadau ym mis Mai
- Tystiolaeth i Gynhadledd y Llefarydd ynghylch diffrïo a bygwth
- Cyhoeddi adroddiadau rhoddion cyn pleidleisio a ffurflenni gwariant ar gyfer yr etholiad cyffredinol
Ein blwyddyn mewn rhifau
- 2.2 miliwn yn ychwanegol o bleidleiswyr wedi cofrestru yn ystod ein hymgyrchoedd
- 12,116 o ymatebion i ymholiadau gan y cyhoedd
- 590,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
- 87% yn ymwybodol am yr angen am ID pleidleiswyr
- 394 o bleidiau gwleidyddol ar ein cofrestrau
- 4,515 o grynodebau gwariant ymgeiswyr a rhoddio wedi'u cyhoeddi
- £16m o roddion wedi'u cyhoeddi yn ystod yr etholiad cyffredinol
- 5 sesiwn pwyllgor tystiolaeth seneddol y DU