Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg - 2025-2026

Overview

Paratowyd yr adroddiad hwn yn unol â Safon 152 er mwyn dangos ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26. Crëwyd Safonau’r Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (2011). Rheoleiddir y safonau hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i gydymffurfio â’r safonau hyn. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr inni ddangos ein hymrwymiad sefydliadol i’r Gymraeg, a’i phwysigrwydd i’n gwaith yng Nghymru.

Mae Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r Comisiwn Etholiadol cyfan, a chyfrifoldeb pob tîm ynddo yw sicrhau cydymffurfiaeth, gyda chymorth a mewnbwn cydweithwyr yn swyddfa’r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a gwasanaethau cymorth perthnasol eraill.