Ymgyrch "Croeso i'ch pleidlais"
Social Statics
Ymgyrch "Croeso i'ch pleidlais"
Yn gynharach eleni, fe basiodd y Senedd ddeddf newydd arwyddocaol a adwaenir fel Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Un o’r newidiadau pwysig a gynhwyswyd yn y ddeddf hon oedd galluogi pobl 16 ac 17 oed, yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, i gofrestru a phleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf.
Dyma newid mawr i’n democratiaeth yng Nghymru, ac i amlygu hyn, rydym wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw “Croeso i’ch pleidlais”. Yn fras, rydym am sicrhau bod y pleidleiswyr newydd hyn yn deall eu bod nhw nawr yn gallu cymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd, ac eu bod deall sut i wneud hynny.
Bydd yr ymgyrchu yn weithredol tan yr hydref, ac fe fydd yn targedu’r grwpiau newydd hyn trwy hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, a sianeli radio.
Bydd rhagor o waith rhwng nawr ac etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf, gan gynnwys cyhoeddi adnoddau addysgol ac ymgyrch gyn-etholiad, i sicrhau bod pleidleiswyr yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny sydd newydd eu rhyddfreinio, yn ymwybodol o’u hawliau a sut gallant gymryd rhan yn ein democratiaeth yn hyderus.
Isod mae atebion defnyddiol i rai cwestiynau y gallai fod gennych ynghylch yr ymgyrch hon, y newidiadau i’r etholfraint, a chofrestru i bleidleisio.
Questions
Mae ein hymgyrch Croeso i’ch pleidlais, a lansiwyd yr wythnos ddiwethaf, yn croesawu’r rheiny sydd newydd eu rhyddfreinio i ddemocratiaeth yng Nghymru. Mae’r ymgyrch yn defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram Snapchat), arddangosfeydd digidol a sain digidol, i annog y rheiny sydd newydd eu rhyddfreinio i gofrestru i bleidleisio.
Rydym am groesawu’r rheiny sydd newydd eu rhyddfreinio i ddemocratiaeth yng Nghymru. Rydym am iddynt wybod eu bod nhw nawr yn gymwys i bleidleisio, ac ymweld â www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio er mwyn cofrestru.
Mae pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys nawr yn gymwys i gofrestru a byddant yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.
Gall pobl 14 ac 15 oed hefyd gofrestru i bleidleisio. Os byddant yn 16 oed ar ddiwrnod yr etholiad, byddant yn gallu pleidleisio.
Dinesydd tramor cymwys yw rhywun sy’n preswylio yng Nghymru ond heb fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yr UE, neu Weriniaeth Iwerddon, ac sydd â chaniatâd i aros yn y DU, neu’r hyn sydd gyfystyr â hynny. Darganfod rhagor am ba etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt.
I gofrestru i bleidleisio, ewch i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Bydd angen i chi ddarparu:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- cyfeiriad e-bost
- cenedligrwydd
- Rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn 16 oed neu’n hŷn)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cofrestru i bleidleisio neu eich cais, cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol leol, sy’n rhan o’ch cyngor lleol. Gallwch gael hyd i’w manylion ar ein chwiliwr cod post.
Os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog, byddwch yn dal i gallu cofrestru i bleidleisio, trwy ddilyn proses wahanol. Darganfod rhagor am gofrestru i bleidleisio heb gyfeiriad sefydlog.
Os oes gennych bryder am eich enw neu gyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch, yna gallwch gofrestru i bleidleisio yn ddienw. Darganfod rhagor am gofrestru i bleidleisio yn ddienw.
Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu pan fyddwch chi'n cofrestru i bleidleisio yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich awdurdod lleol. Efallai y byddwn ni hefyd yn derbyn copi o'r gofrestr etholiadol, a gallwch ddarganfod mwy am sut rydym yn gofalu am y data a ychwanegir at gofrestrau etholiadol yn ein polisi preifatrwydd.
Mae’r gofrestr agored yn fersiwn o’r gofrestr etholiadol a ddefnyddir at ddibenion marchnata. Pan fydd rhywun yn cofrestru i bleidleisio, bydd wastad opsiwn i beidio â chael eich cynnwys ar y gofrestr agored.
Ni fydd pobl 14 ac 15 oed yn ymddangos ar y gofrestr agored.
Sut gallwch gefnogi ein hymgyrch
Sut gallwch gefnogi ein hymgyrch
Lawrlwythwch ein hadnoddau Croeso i’ch pleidlais a’u rhannu â phobl yn eich rhwydweithiau i helpu i ledu’r gair ymysg y grwpiau hynny sydd newydd eu rhyddfreinio.
Rydym yn awyddus i weithio â chynifer o bartneriaid â phosib rhwng nawr ac etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, felly cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan.
Os ydych yn gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein - mae’n gyflym ac yn rhwydd a bydd yn sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’ch pleidlais!