Wrth i ymgyrchoedd gael eu cynnal cyn 7 Mai, roeddem am eich atgoffa am borth y Comisiwn sy'n rheoli pob adroddiad am argraffnodau coll posibl (digidol neu brintiedig).
Dylech rannu'r ddolen hon gydag unrhyw un sy'n cysylltu â chi i roi gwybod am unrhyw beth neu i wneud unrhyw honiad ynghylch argraffnodau, a gallwch gyfeirio at y ddolen yn uniongyrchol o'ch gwefan os yw'n ddefnyddiol i bleidleiswyr yn eich ardal.
Lle mae'n ymddangos bod argraffnod ar goll, yn anghyflawn neu nad yw'n cydymffurfio, ein cam cyntaf yw cysylltu'n rhagweithiol â'r ymgyrchydd a gofyn iddynt ddiwygio'r deunyddiau. Fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi ymgyrchwyr yn rhagweithiol i gydymffurfio â'r gyfraith ynghylch argraffnodau trwy ddarparu cyngor ac arweiniad, gan gynnwys ar gyfer deunydd nad ydym yn ei reoleiddio fel deunyddiau ymgeiswyr.
Mewn achosion lle mae gan y Comisiwn bwerau gorfodi, ac rydym yn ystyried ei fod yn briodol o dan ein Polisi Gorfodi, megis lle nad ydym wedi gallu sicrhau cydymffurfiaeth drwy ddulliau eraill, efallai y byddwn yn agor ymchwiliad.
Mewn achosion lle mae gan yr heddlu bwerau gorfodi (ymgeiswyr), yn dilyn ein cyswllt â'r ymgyrchydd, gallwn ddarparu gwybodaeth i'r heddlu perthnasol ar eu cais. Os yw rhywun am ddilyn y broses orfodi mewn perthynas â thorri rheolau gan ymgeiswyr, rhaid rhoi gwybod am hyn yn uniongyrchol i'r heddlu.
Pan fydd ymholwr yn darparu manylion cyswllt, byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt am ganlyniad eu hadroddiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'ch tîm Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.