Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio

Dylech wneud y canlynol:

  • sicrhau bod unrhyw rifwyr sy'n gweithio i chi yn dilyn ein canllawiau i rifwyr ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Lleol a Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
  • sicrhau bod eich ymgyrchwyr yn dilyn y Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff, a'r hyn na chaiff, ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned.
  • sicrhau eich bod yn dilyn unrhyw gyngor diogelwch ychwanegol a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau Lleol a Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
  • cydymffurfio â cheisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio a'r Swyddog Canlyniadau Lleol neu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ynghylch ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, dylai fod hawl gennych i gyflwyno eich neges i bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio.
  • sicrhau bod unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio, achlysuron agor amlenni pleidleisiau post neu'r cyfrif yn deall y rheolau ynghylch cyfrinachedd y bleidlais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy'n amlinellu'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer  y bleidlais, pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif.  Ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, rydym wedi llunio'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer  y bleidlais, pleidleisio drwy'r post  a'r cyfrif  yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

 

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  • ymgyrchu ger mannau pleidleisio mewn ffordd y gallai pleidleiswyr ei hystyried yn ymosodol neu a allai godi ofn arnynt (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau ag uchelseinyddion neu â deunydd ymgyrchu drostynt.
  • torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais.1  Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac ymdrinnir ag unrhyw fethiant yn ddifrifol. 
  • ceisio nodi a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn arbennig os byddwch chi (neu eich asiantiaid) yn mynd i sesiynau agor amlenni pleidleisiau post.
  • cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata eraill yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl am y ffordd y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais bost, cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024