Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi ar weithrediadau y tu mewn i orsafoedd pleidleisio.1
Gall is-asiant fod yn bresennol, ond dim ond yn ei rinwedd i weithredu ar ran yr asiant etholiad.2
Hefyd, gallwch benodi asiantiaid i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio ar eich rhan.3
Ceir rhagor o fanylion yn ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidleisio.
Dod o hyd i leoliad gorsafoedd pleidleisio
Mewn hysbysiad cyhoeddus, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cyhoeddi lleoliad gorsafoedd pleidleisio erbyn y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad.4
Bydd yn rhoi copi o'r hysbysiad hwn i asiantiaid etholiadol yn fuan wedi hyn.
Oriau agor gorsafoedd pleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y diwrnod pleidleisio rhwng 7am a 10pm.
Caiff unrhyw bleidleiswyr sy'n aros mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael papur pleidleisio.