| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhoi gwybodaeth am brosesau yr etholiad

Dylech sicrhau bod canllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol ar gael i'r holl ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad, gan gynnwys trefniadau lleol, a bod y wybodaeth yn cael ei darparu mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad i weithredu arni. Fel y nodir yn ein canllawiau ar gyfathrebu ag Ymgeiswyr ac Asiantiaid dylech gydweithio â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal heddlu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hawdd i ymgeiswyr yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am unrhyw brosesau sydd i'w cynnal yn lleol, fel agor pleidleisiau post a'r cyfrif ac unrhyw ofynion mynediad neu fesurau diogelwch ychwanegol a roddwyd mewn lle.

Dylid hefyd briffio'r ymgeiswyr a'u asiantau ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir mewn digwyddiadau etholiadol.

Diben darparu canllawiau ysgrifenedig yw sicrhau bod pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau awdurdodol a chynhwysfawr er gwybodaeth unrhyw bryd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn etholiad. 

Lle y bo'n briodol, gallwch roi dolen i ymgeiswyr ac asiantiaid lle gallant ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol ar-lein, a mater i chi fydd sicrhau y gall ymgeiswyr gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd a gwneud beth bynnag sydd ei angen i hwyluso hyn.  

Dylech hefyd gyfeirio ymgeiswyr ac asiantiaid at ganllawiau'r Comisiwn i ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd ar gael ar ein gwefan.

Hygyrchedd

Dylech gofio bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid o bosibl anghenion mynediad penodol, ac felly efallai y bydd angen unrhyw wybodaeth neu ganllawiau arnynt a luniwyd ar ffurf print bras neu fformat arall, megis Braille neu sain, neu mewn iaith heblaw Cymraeg yng Nghymru, neu Saesneg.

Dylech hefyd ystyried y gall fod gan ymgeiswyr ac asiantiaid ofynion arbennig i'w helpu i fynychu sesiynau briffio a dylech sicrhau bod sesiynau briffio ar gael ar-lein neu drwy ddull fideogynadledda lle bynnag y bo'n bosibl. 

Gallwch recordio eich sesiwn friffio a'i phostio ar-lein er mwyn i ymgeiswyr ac asiantiaid ei gwylio ar alw ar adeg sy'n gyfleus iddynt, gyda manylion ynghylch sut y gallant ofyn unrhyw gwestiynau dilynol.

Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gynnig sesiynau briffio i'r rhai na allant gael gafael ar wybodaeth o'r fath ar-lein, neu'r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai sesiynau briffio yn bersonol. Dylech hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am eich dull gweithredu arfaethedig yn gynnar er mwyn eich helpu i gynllunio a pharatoi. Dylid gofyn i'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn friffio gofrestru ymlaen llaw er mwyn i chi allu olrhain niferoedd yn ogystal â gofynion hygyrchedd, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich dull gweithredu a rhoi'r trefniadau priodol ar waith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2025