Dylech baratoi pecyn enwebu perthnasol ar gyfer unrhyw un sy'n mynegi diddordeb mewn sefyll yn yr etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn ein canllawiau.
Rydym wedi llunio dwy set o bapurau enwebu; un yn ymdrin ag ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a set ar wahân yn ymdrin ag ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.
Mae pob set yn cynnwys yr holl ffurflenni enwebu y gallwch eu darparu i ymgeiswyr.
Rydym hefyd wedi llunio rhestr wirio enwebiadau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n nodi'r hyn y bydd angen i chi ei ystyried a phethau penodol i gadw llygad amdanynt wrth benderfynu ar enwebiad.
ffurflen i'r ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) roi hysbysiad o benodiad asiant etholiad
ffurflenni i'r asiant etholiadol roi hysbysiad o benodiad is-asiantiaid
ffurflenni ar gyfer yr ymgeisydd neu'r asiant etholiadol i hysbysu ynghylch penodi asiantiaid pleidleisio, asiantiaid pleidleisiau post ac asiantiaid cyfrif
tystysgrif awdurdodi er mwyn caniatáu i ymgeisydd sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig
ffurflen i ymgeisydd sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ofyn am ddefnyddio arwyddlun
manylion am sut y dylai'r ernes gael ei thalu, gan gynnwys dulliau o dalu a dderbynnir
canllawiau ysgrifenedig i ymgeiswyr ac asiantiaid ynglŷn ag agweddau allweddol ar y broses etholiadol, gan gynnwys cymhwyso ac anghymwyso ar gyfer etholiad, y broses enwebu, beth y dylid ac na ddylid ei wneud wrth ymgyrchu, cael gafael ar drafodion etholiadol a'r hyn sy'n digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan
manylion cyswllt y Swyddogion Canlyniadau Lleol
copi o'r Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr, sy'n nodi'r hyn a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio, wrth annog etholwyr i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, ac yn y gymuned. Efallai y byddwch yn nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb:
i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd.
manylion am sut i gael copi o'r gofrestr etholiadol a rhestrau'r pleidleiswyr absennol ar gyfer pob ardal bleidleisio yn ardal yr heddlu, a ffurflenni i wneud y fath geisiadau ynghyd â gwybodaeth am ble i anfon y ceisiadau hyn. Dylech danlinellu'r ffaith mai dim ond yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 a deddfwriaeth diogelu data y gellir defnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol.