| Argraffu'r canllawiau llawn

Ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben

Ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben rhaid i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a hysbysiad pleidleisio.1

Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys yr hysbysiadau hyn yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar y Datganiad ynghylch y Personau a Enwebwyd a'r Hysbysiad pleidleisio.

Gan y byddwch nawr yn gwybod pa ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal, mae'n bwysig ailedrych ar eich cynllun prosiect a'ch cofrestr risg. Dylech wirio a ydynt yn dal yn addas neu a oes angen unrhyw ddiwygiadau i sicrhau bod prosesau'n cael eu cynnal yn esmwyth, yn ddiogel ac yn effeithlon.

Gallai'r ffactorau i'w hystyried gynnwys nifer yr ymgeiswyr sy'n sefyll, lefel y profiad sydd gan yr ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir o sefyll etholiad a'u gwybodaeth am brosesau etholiadol, yn ogystal ag unrhyw risgiau neu broblemau lleol y gallai fod angen eu rheoli'n benodol gan Swyddogion Canlyniadau Lleol mewn gorsafoedd pleidleisio neu'r cyfrif.

Lle rydych wedi gwneud trefniadau i wneud hynny, dylech anfon manylion cyswllt e-bost a ffôn yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad ymlaen i ymgynghorydd swyddogol etholedig yr heddlu. Dylech sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio a rhoi'r cyfle iddynt optio allan os oes angen. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol ar weithio gyda'ch heddlu lleol.

Enwebiad mewn mwy nag un ardal

Ni all ymgeisydd sefyll etholiad mewn mwy nag un etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a gynhelir ar yr un dyddiad. Rhaid i ymgeisydd sydd wedi'i enwebu'n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal heddlu dynnu'n ôl o fod yn ymgeisydd ym mhob ardal namyn un, cyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl. Os na fydd yn gwneud hyn, tybir ei fod wedi tynnu'n ôl o fod yn ymgeisydd ym mhob ardal heddlu.2

Etholiadau diwrthwynebiad 

Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

  • dim ond un enwebiad dilys a geir 
  • caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un,

Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, rhaid i chi ddatgan pa ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a gaiff ei ethol.    

Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad o enw a disgrifiad (os o gwbl) yr ymgeisydd a etholwyd.  

Rhaid i chi anfon copi o'r hysbysiad at y Gweinidog ac at bob Swyddog Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu, a dylech gymryd camau i sicrhau bod pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn cyhoeddi'r hysbysiad yn ei ardal bleidleisio.3

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2025