Rhaid i ymgeiswyr hefyd gydsynio â'u henwebiad yn ffurfiol, a rhaid iddynt gyflwyno eu cydsyniad erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad. Rhagnodir y ffurflen cydsynio ag enwebiad yn y rheolau etholiadol a rhaid i'r ymgeisydd ddefnyddio'r ffurflen hon neu ffurflen debyg.1
Rhaid ei gyflwyno â llaw ac ni ellir ei bostio, ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall.
Rhaid i'r ffurflen gynnwys y canlynol:
dyddiad geni'r ymgeisydd
datganiad yn nodi ei fod yn ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ac nad yw, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu'n Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
datganiad yn nodi ei fod yn bodloni'r holl ofynion ar gyfer sefyll
Mater i'r ymgeisydd yw sicrhau nad yw'n cael ei wahardd rhag sefyll. Ni allwch chi na'r Comisiwn gadarnhau a yw ymgeisydd wedi'i anghymhwyso ai peidio.
Ni chaiff ymgeiswyr lofnodi eu ffurflenni cydsynio yn gynharach na 31 diwrnod calendr cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eu papurau enwebu.
Rhaid i'r caniatâd hefyd gael ei dystio gan unigolyn arall. Rhaid i'r tyst roi ei enw a'i gyfeiriad ar y ffurflen gydsynio.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.