Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dosbarthu cardiau pleidleisio

Rhaid i chi anfon cardiau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.1  

Lle y cyfunir cardiau pleidleisio, dim ond ar ôl i'r hysbysiadau etholiad ar gyfer pob etholiad gael eu cyhoeddi y gellir eu dosbarthu.

Rhaid i gerdyn pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr neu, yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr o ddirprwyon.2

Rhaid i gerdyn pleidleisio etholwr dienw gael ei anfon mewn prif amlen i gyfeiriad cymwys yr etholwr neu, os nodwyd cyfeiriad gwahanol ar ei gais cofrestru, rhaid anfon y cerdyn pleidleisio i'r cyfeiriad arall hwnnw.3

Er mwyn sicrhau y bydd pleidleiswyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ac mewn pryd iddynt fwrw eu pleidlais, dylech sicrhau y gall cardiau pleidleisio gael eu derbyn gan bleidleiswyr cyn gynted â phosibl, fel bod ganddynt gymaint o amser â phosibl i newid eu manylion cofrestru neu wneud cais am bleidlais absennol.

Bydd angen i chi benderfynu ar y dyddiad dosbarthu gorau ar gyfer cardiau pleidleisio a dylech ganolbwyntio ar bryd y gall etholwyr ddisgwyl cael cardiau pleidleisio. 

Gellir dosbarthu cardiau pleidleisio yn bersonol, drwy'r post neu drwy ryw ddull arall a bennir gennych fel y dull mwyaf priodol. 
 

Dosbarthu yn bersonol

Os byddwch yn dosbarthu cardiau pleidleisio â llaw dylech gynllunio sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol. Dylech benodi digon o staff i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu derbyn gan bleidleiswyr cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr post yn cael cymaint o amser â phosibl i newid eu manylion cofrestru neu wneud cais am bleidlais absennol. Dylech nodi'n glir yn eich cyfarwyddiadau i staff y diwrnod olaf y byddech yn disgwyl i bob cerdyn pleidleisio gael ei ddosbarthu.

Dylech sicrhau bod staff yn ymwybodol o ystyriaethau diogelu data, a dylech ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff gadarnhau'n ysgrifenedig ar adeg recriwtio y byddant yn dilyn eich polisi diogelu data.

Dylech fonitro'r broses ddosbarthu, er mwyn sicrhau bod cardiau pleidleisio wedi cael eu dosbarthu drwy'r ardal bleidleisio gyfan ac yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni. Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i staff dosbarthu lenwi taflenni cofnodi a threfnu i oruchwylwyr gynnal hapwiriadau.
 

Dosbarthu drwy'r post

Gallwch ddefnyddio'r Post Brenhinol neu unrhyw gwmni dosbarthu masnachol arall i ddosbarthu'r cardiau pleidleisio. Os byddwch yn dosbarthu cardiau pleidleisio drwy'r post, dylech gydgysylltu â'ch darparwr gwasanaethau post i gytuno ar amserlen ar gyfer dosbarthu a chael unrhyw brawf postio a ddarperir gan y cwmni.

Dylech fonitro'r broses o ddosbarthu cardiau pleidleisio, er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu dosbarthu drwy'r ardal bleidleisio gyfan ac yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt. Os oes modd, dylech roi trefniadau ar waith i olrhain y broses ddosbarthu er mwyn helpu i ymateb i unrhyw ymholiadau gan etholwyr. 

Dylai'ch gwaith cynllunio wrth gefn ymdrin â sut y byddech yn dosbarthu unrhyw gardiau pleidleisio pe na bai'r Post Brenhinol neu'r cwmni dosbarthu masnachol a gontractiwyd gennych yn gallu dosbarthu'r cardiau pleidleisio, er enghraifft, oherwydd gweithredu diwydiannol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mawrth 2024