Mae etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ddigwyddiad pwysig sy'n achosi ei heriau penodol ei hun. Mae'n hanfodol sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch gynnal etholiad effeithiol.
Mae'r adran hon o'r canllawiau yn trafod y gwaith cynllunio y bydd angen i chi ei wneud er mwyn cynnal yr etholiad, gan gynnwys yr hyn y dylai eich cynllun prosiect ei gynnwys a sut y dylech fynd ati i'w roi ar waith.
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar staffio a'r hyfforddiant staff gofynnol, y lleoliadau penodol sydd eu hangen ar gyfer prosesau allweddol, a chymorth ar ddefnyddio cyflenwyr a chontractwyr.
Yn ogystal, mae'r adran hon hefyd yn cynnwys canllawiau ar nodi, monitro a lliniaru risg, a datblygu cynlluniau gyda'r heddlu er mwyn sicrhau y cynhelir uniondeb yr etholiad.
Yn olaf, mae'n rhoi canllawiau ar sut y bydd angen i chi gynllunio ar gyfer eich gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog pleidleiswyr i gofrestru ac er mwyn rhoi gwybodaeth i helpu etholwyr i bleidleisio, ac ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid.