Bwriedir i'r canllawiau hyn eich helpu gyda'r gweithgareddau y mae'n ofynnol i chi eu cwblhau ar ôl datgan y canlyniad.
Maent yn cynnwys canllawiau ar y camau uniongyrchol y mae angen i chi eu cymryd mewn perthynas â rhoi hysbysiad ffurfiol o'r canlyniad, canllawiau i'ch helpu i reoli'r gwaith o storio a chadw dogfennau etholiadol yn ogystal â gwybodaeth am fynediad a chyflenwi.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth gyswllt mewn perthynas â chyfrifyddu ar gyfer yr etholiad, manylion am gasglu ffurflenni gwariant etholiad ymgeiswyr, a'r camau gweithredu gofynnol mewn perthynas â'r broses honno.
Yn olaf, mae'r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am heriau i ganlyniad yr etholiad a'r broses ddeisebu.