Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dilysu a Chyfrif

Diben yr adran hon yw eich helpu i wneud penderfyniadau am rai o'r agweddau allweddol ar ddilysu a chyfrif y pleidleisiau, fel rheoli presenoldeb ac arsylwi, sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a phrosesau archwilio, ac ymdrin â phapurau pleidleisio amheus.  

Mae'n rhoi arweiniad i gefnogi'r penderfyniadau allweddol y bydd angen i chi eu gwneud ac yn argymell dulliau gweithredu i'ch helpu i ddeall a chyflawni eich dyletswyddau, gan eich galluogi i sicrhau proses dryloyw a chanlyniadau cywir y mae pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn ymddiried ynddynt.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023