Mae'r adran hon o'r canllawiau yn ymdrin â phenodi'r Swyddog Canlyniadau Lleol yn ogystal â rolau a chyfrifoldebau'r rhai a benodir i'r swydd hon.
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar ganlyniadau torri dyletswydd swyddogol a'r pwerau deddfwriaethol sydd ar gael i'r Swyddog Canlyniadau Lleol eu harfer mewn amgylchiadau penodol.
At hynny, mae'r adran hon hefyd yn cynnwys canllawiau ar y sgiliau a'r wybodaeth y disgwylir iddynt fod yn ofynnol gan Swyddog Canlyniadau Lleol.
Yn olaf, mae'n rhoi rhestr fanwl o'r ddeddfwriaeth berthnasol y lluniwyd y canllawiau i'w hadlewyrchu, ac y dylai Swyddog Canlyniadau Lleol fod yn gyfarwydd â nhw.