Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Cynhyrchu cardiau pleidleisio
Chi sy’n gyfrifol am anfon cerdyn pleidleisio swyddogol at etholwyr a’u dirprwyon ar gyfer etholiadau’r Senedd.1
Rhaid i gardiau pleidleisio fod ar y ffurf ragnodedig neu ar ffurf debyg. Rhaid i chi gynnwys ar bob cerdyn pleidleisio'r holl elfennau a nodir yn rheolau’r etholiad perthnasol ac a ddangosir ar flaen ac ar gefn y cardiau pleidleisio yn yr atodiad.2
Dylech gysylltu â’ch cyswllt yn y Post Brenhinol (neu bartner cyflenwi masnachol arall) yn gynnar yn y broses i sicrhau bod gennych drwyddedau priodol ar waith a bod y cerdyn pleidleisio’n bodloni gofynion danfon penodol.
Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol ddatgan neu argymell pryd y danfonir cardiau pleidleisio.
Dylid anfon cardiau pleidleisio at etholwyr a’u dirprwyon cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad.3 Os ydych yn rhoi’r gwaith o gynhyrchu cardiau pleidleisio ar gontract allanol, bydd angen i chi anfon data eich cerdyn pleidleisio at eich argraffwyr a dylech sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu cynhyrchu ffeil ddata y gall eich argraffwyr ei defnyddio i gynhyrchu’r deunyddiau yn unol â’r fanyleb ofynnol.
Dylech, yn gynnar yn y trafodaethau gyda’ch argraffwyr, fod wedi trafod ym mha fformat y byddwch yn darparu’r data ac ym mha fformat y byddant yn anfon unrhyw broflenni atoch, a dylid cynnwys hyn yn eich manyleb a’ch contract.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddatblygu contractau ar gyfer gwaith allanol a gwiriadau sicrhau ansawdd.
Cyhoeddi cardiau pleidleisio dilynol
Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ERO) gyhoeddi dau hysbysiad addasu etholiad interim cyn cyhoeddi’r hysbysiad addasu etholiad terfynol 5 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4 Mae’r hysbysiadau hyn yn cefnogi anfon cardiau pleidleisio yn brydlon at yr etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Rhaid i’r hysbysiad addasu interim cyntaf gael ei gyhoeddi ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, sef 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.5
Os nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd (ERO), dylech gysylltu ag ef i sicrhau y gall amseru cyhoeddi’r ail hysbysiad interim gefnogi’r gwaith o gynhyrchu eich ail don o gardiau pleidleisio. Rhaid i’r ail hysbysiad interim gael ei gyhoeddi rhwng 18 a 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais (yn gynhwysol).6 Gall y Bwrdd Rheoli Etholiadol ddatgan neu argymell pryd y dylid cyhoeddi’r ail hysbysiad interim.
Dylid anfon diweddariad o’r data cofrestru sy’n deillio o bob un o’r hysbysiadau addasu at eich argraffwyr cyn gynted ag y bo’n ymarferol er mwyn gallu cynhyrchu cardiau pleidleisio ar gyfer etholwyr newydd.
Am ragor o wybodaeth am hysbysiadau interim, gweler ein canllawiau ERO.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddosbarthu cardiau pleidleisio.
Cross-boundary constituencies
Mewn achos o etholaeth sy’n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, efallai y bydd angen ichi weithio gyda mwy nag un ERO i sicrhau y gallwch ddarparu’r data gan yr awdurdodau lleol eraill i’r argraffwyr. Dylech hefyd gysylltu â nhw i geisio’r wybodaeth am etholwyr newydd cyn gynted ag y bo modd ar ôl cyhoeddi’r hysbysiadau addasu interim a’r hysbysiad addasu etholiad terfynol.
- 1. Rheol 36, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 36(4), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 36(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 13AB a 13B, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cynrychiolaeth y Bobl 1983) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 13AB(5), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 13AB(5), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6