Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Mae’r canllawiau canlynol wedi’u cynhyrchu i gefnogi Swyddogion Canlyniadau wrth gynllunio a chynnal etholiadau’r Senedd.
Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu mewn ymgynghoriad agos ag aelodau’r Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru , Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru (WEPWG), Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA), a swyddogion Llywodraeth Cymru. Maent yn adlewyrchu rhwymedigaethau cyfreithiol Swyddogion Canlyniadau a'r hyn yr ydym ni, a chydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol, yn credu y dylai Swyddogion Canlyniadau ei ddisgwyl gan eu staff wrth baratoi a chynnal etholiadau’r Senedd.
Mewn etholiad y Senedd, y Swyddog Canlyniadau yw’r person sydd wedi’i benodi fel Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd yn yr etholaeth honno; mewn achos lle mae etholaeth yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol, bydd y Swyddog Canlyniadau yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru1 . Mae’n bosib y bydd y person hwn hefyd yn cael ei alw’n Swyddog Canlyniadau Etholaeth.
Safonau Perfformio
Yn ogystal â’n gwaith o ddarparu cyngor a chanllawiau, rydym yn gosod safonau ac yn monitro perfformiadau Swyddogion Canlyniadau yn ôl ein fframwaith safonau perfformio.
Mae ein canllawiau i’ch cefnogi i gyflawni eich swyddogaethau yn cynnwys yr hyn yr ydym yn disgwyl y bydd angen i Swyddogion Canlyniadau ei roi ar waith a’r hyn y byddem yn disgwyl ei weld er mwyn i brif amcanion y safonau gael eu cyflawni. Dylech ystyried y fframwaith hwn wrth gynllunio a chynnal yr etholiad.
Am ragor o wybodaeth am y fframwaith, gweler ein canllawiau ar safonau perfformiad i Swyddogion Canlyniadau.
Sut i ddefynddio'r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cyfeirio at Swyddogion Canlyniadau a'r dyletswyddau y maent yn eu cyflawni. Y Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am weinyddu etholiad y Senedd, gan gynnwys cynnal y bleidlais a chyfrif y pleidleisiau.
Gan y gall dyletswyddau’r Swyddog Canlyniadau, yn ymarferol, gael eu cynnal gan ddirprwyon, rydym yn defnyddio’r term ‘chi’ trwy gydol y canllawiau hyn i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau a phwy bynnag sy’n cynnal swyddogaethau’r Swyddog Canlyniadau ar ei ran.
Drwy gydol y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘gall/dylai’ i olygu ymarfer a argymhellir.
Pan fydd angen i’r Swyddog Canlyniadau ystyried senarios trawsffiniol, bydd yr wybodaeth i’w gweld mewn adran sy’n ehangu. Golyga hyn y bydd eicon gyda ‘+’ gyfagos i’r pennawd perthnasol a fydd yn ehangu i ddangos y canllawiau perthnasol.
Gallwch hefyd weld Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid.
Er mwyn eich cynorthwyo chi i ddefnyddio'r canllawiau hyn, rydym wedi creu dogfen Holi ac Ateb a ddylai ateb unrhyw ymholiadau dechreuol sydd gennych.
Gallwch ddod o hyd i’r ddogfen Holi ac Ateb yn adran rolau a chyfrifoldebau ein tudalen adnoddau.
Diweddariadau i'n canllawiau
| Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Rhagfyr 2025 | Diweddarwyd i adlewyrchu cyfarwyddiadau gan glerc y Senedd ar ddychwelyd tystysgrifau wedi i'r canlyniad gael ei gyhoeddi. |
- 1. Erthygl 18, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1