Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio

Dylech wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod unrhyw rifwyr sy'n gweithio i chi yn dilyn ein canllawiau i rifwyr ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
  • Sicrhau bod eich ymgyrchwyr yn dilyn y Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff, a'r hyn na chaiff, ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned.
  • Cydymffurfio â cheisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio neu'r Swyddog Canlyniadau ynghylch ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, dylai fod hawl gennych i gyflwyno eich neges i bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio.
  • Sicrhau bod unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio, achlysuron agor amlenni pleidleisiau post neu'r cyfrif yn deall y rheolau ynghylch cyfrinachedd y bleidlais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy'n nodi'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer yr etholiad, pleidleisio drwy’r post a'r cyfrif.
  • Ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, rydym hefyd wedi llunio'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer pleidleisio drwy'r post, y bleidlais a'r cyfrif yn ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

 

 

 

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  • Ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio mewn ffordd a allai gael ei hystyried yn ymosodol gan bleidleiswyr neu a allai godi ofn arnynt (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau ag uchelseinyddion neu â deunydd ymgyrchu drostynt i gyd).
  • Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais.1 Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac ymdrinnir ag unrhyw fethiant yn ddifrifol.
  • Ceisio nodi a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn arbennig os byddwch chi (neu eich asiantiaid) yn mynd i sesiynau agor amlenni pleidleisiau post. 
  • cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata eraill yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl am y ffordd y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais bost, cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.2
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Gorffennaf 2024