Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd Cymru, etholiadau Senedd yr Alban, mewn etholiadau lleol yng Nghymru ac mewn etholiadau cynghorau yn yr Alban
Cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.
Mae'r Cod hwn yn darparu canllaw i ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a heddluoedd ynghylch beth a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio.
Gellir dod o hyd i ganllawiau manylach am droseddau etholiadol yn y canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, sydd ar gael yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant.
Mae'r Cod wedi'i anfon at bob plaid wleidyddol gofrestredig ym Mhrydain Fawr, a bydd Swyddogion Canlyniadau yn tynnu sylw'r holl ymgeiswyr a phleidiau sy'n ymladd yn yr etholiadau a'r refferenda datganoledig yng Nghymru a'r Alban a restrir isod yn adran Cwmpas y Cod hwn.
Gall rhai Swyddogion Canlyniadau nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod hwn, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ymgynghori ag ymgyrchwyr lleol a'r Swyddogion Enwebu cenedlaethol perthnasol yn ogystal â heddluoedd er mwyn sicrhau cytundeb lleol priodol i ddarpariaethau o'r fath, a dylent sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i ymgeiswyr yn lleol a'u bod yn eu deall yn iawn.
Cwmpas y cod hwn
Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r holl bobl hynny sy'n cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymgyrchu yn yr achosion canlynol:
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau cynghorau'r Alban
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd yr Alban
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau lleol yng Nghymru
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd Cymru
- Etholiadau a refferenda eraill ym Mhrydain Fawr
NID yw'r cod hwn yn gymwys i unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio eraill. Gellir dod o hyd i'r cod ymddygiad i ymgyrchwyr ar gyfer mathau eraill o etholiadau a refferenda ym Mhrydain Fawr yma ac mae hwn yn cwmpasu:
- Etholiadau Senedd y DU (yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban)
- Is-etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Refferenda lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu) yng Nghymru a Lloegr
Ystyr y term “ymgyrchydd”
- Ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, eu hasiantiaid, eu staff a'u cefnogwyr
- Swyddogion, aelodau a chefnogwyr plaid wleidyddol sy'n ymgyrchu mewn etholiad
- Pobl eraill a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd, grŵp o ymgeiswyr neu blaid mewn etholiad
- Pobl a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn canlyniad penodol mewn refferendwm
Cydymffurfio â'r cod hwn
Dylid codi unrhyw bryderon fod y cod hwn wedi ei dorri gyda'r ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu'r ymgyrchydd dan sylw yn gyntaf.
Dylid tynnu sylw'r Comisiwn Etholiadol at unrhyw bryderon pellach. Bydd y Comisiwn yn eu codi gyda'r blaid neu'r ymgyrchydd perthnasol os yw hynny'n briodol, a bydd yn cytuno ar gamau priodol i ddatrys y sefyllfa neu atal unrhyw doriad rhag codi eto.