Data sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed

Data sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed

Dim ond EROs a’u staff a gaiff gyrchu neu ddefnyddio data y rheiny o dan 16 oed. Ni ddylai unrhyw fersiwn o’r gofrestr neu unrhyw restrau pleidleisio absennol a gyhoeddir, neu a fyddai ar gael fel arall, gynnwys y data hwnnw.
 
Fodd bynnag, gellir datgelu’r data yn yr amgylchiadau canlynol:1  

  • i’r unigolyn ei hunan (gan gynnwys datgelu’r data i ddangos eu bod yn rhoddwr a ganiateir) neu i berson a benodwyd ganddynt yn ddirprwy i bleidleisio ar eu rhan
  • at ddibenion ymchwiliad troseddol neu drafodion troseddol mewn perthynas â chofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau
  • mewn cyfathrebiad a anfonir at unigolyn neu aelwyd ar gyfer y canfasiad blynyddol, ond rhaid peidio â rhag-argraffu’r dyddiad geni
  • i EROs a Swyddogion Canlyniadau yng nghyswllt cofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau

Yr unig eithriad yw hwn: cyn etholiad Senedd Cymru, gellir datgelu gwybodaeth am y rheiny o dan 16 oed a fydd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad (hynny yw, a fydd yn cyrraedd 16 oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio) ar y gofrestr etholiadol, y rhestr pleidleiswyr post, rhestr dirprwyon, a’r rhestr dirprwyon post at ddibenion etholiadol, a hwythau wedi eu cyflenwi i’r canlynol:2  

  • ymgeiswyr yn etholiad Senedd Cymru at ddibenion etholiadol neu er mwyn cydymffurfio â’r rheolau parthed rhoddion gwleidyddol
  • y Swyddog Canlyniadau at ddibenion etholiadau Senedd Cymru
  • y Comisiwn Etholiadol. Yn yr achos hwn, caiff y Comisiwn ond defnyddio’r wybodaeth hon mewn perthynas â’i swyddogaethau mewn perthynas â rheoli rhoddion a chyhoeddi gwybodaeth at swyddogaethau penodol, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â rhoddwyr, ond nid yw’r olaf yn caniatáu cyhoeddi enwau a chyfeiriadau y rheiny o dan 16 oed.

Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir cyn etholiad beidio â chynnwys unrhyw beth a fyddai’n galluogi adnabod pleidleiswyr o dan 16 oed.

Ni chaiff unigolion na chyrff eraill dderbyn unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021