Beth bydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer etholiad ym mis Rhagfyr?

Ar gyfer unrhyw etholiad a gynhelir ym mis Rhagfyr, bydd yr hysbysiad etholiad yn cael ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.

Yr effaith ar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol


Seilir enwebiadau ymgeiswyr ar y gofrestr a fydd mewn grym ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad. Os byddwch wedi cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig erbyn y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad, dyma fydd y gofrestr y bydd ei hangen ar ymgeiswyr ac asiantiaid ar gyfer casglu tanysgrifwyr. Fel arall, dyma fydd yr hysbysiad newid olaf i gael ei gyhoeddi gennych.

Dylech sicrhau bod ymgeiswyr a’u hasiantiaid yn ymwybodol o ba gofrestr i’w defnyddio wrth gasglu tanysgrifwyr at ddiben cwblhau eu papurau enwebu. 

Mae’n arbennig o bwysig bod ymgeiswyr a phleidiau sydd wedi gofyn am gopi o’r gofrestr ddiwygiedig a’r hysbysiadau newid etholiad yn eu derbyn mor fuan â phosib ar ôl eu cyhoeddi. Bydd hyn yn cynorthwyo ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol wrth ymgysylltu â phleidleiswyr ac ymgyrchu’n effeithlon lle bo cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig yn digwydd yn ystod cyfnod etholiad. 

Cardiau pleidleisio

Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau (ROs) anfon cardiau pleidleisio at etholwyr sydd â hawl pleidleisio yn yr etholiad mor fuan ag y sy’n ymarferol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad etholiad. 

Gallech ddwyn hyn i ystyriaeth wrth benderfynu p’un a fyddwch yn cyhoeddi’r hysbysiadau newid misol yn ystod y cyfnod canfasio. Os ydych yn ERO ar gyfer ardal etholiadol sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â’r EROs eraill a’r ROs wrth ymgyrraedd at eich penderfyniad.

Gallai dewis cyhoeddi’r hysbysiadau ychwanegol hyn helpu i liniaru unrhyw broblemau ail-rifo o ganlyniad i gyhoeddi cofrestrau diwygiedig ar ôl i gardiau pleidleisio a phleidleisiau post gael eu dosbarthu.

Os dewiswch beidio â chyhoeddi’r hysbysiadau newidiadau misol yn ystod y cyfnod canfasio, bydd cardiau pleidleisio a anfonir cyn cyhoeddi’r hysbysiad etholiad dros dro yn seiliedig ar ddata na fyddai’n adlewyrchu unrhyw ychwanegiadau a dileadau a bennwyd yn ystod y cyfnod canfasio. 

Yn yr amgylchiadau hynny, gellir dadlau taw’r adeg gynharaf yn ymarferol ar gyfer dosbarthu cardiau pleidleisio fyddai yn syth wedi cyhoeddi’r hysbysiad etholiad dros dro cyntaf, fel y gall y data a ddefnyddir adlewyrchu ychwanegiadau a dileadau a bennwyd yn ystod y cyfnod canfasio. 

Os nad chi yw’r RO hefyd, dylech weithio gyda nhw i roi mecanweithiau ar waith i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr mor fuan â phosib ar ôl i’r hysbysiad dros dro cyntaf gael ei gyhoeddi. Gweler ein canllawiau ar hysbysiadau newid etholiad a’r dyddiadau cau i geisiadau gael eu cynnwys ar yr hysbysiadau hyn.

Rhaid i ROs ei gwneud yn glir yn ystod hyfforddiant staff gorsafoedd pleidleisio y gall rhifau etholwyr ar y cardiau pleidleisio fod yn wahanol i’r rhifau a roddir i etholwyr pan gaiff y gofrestr ei hadolygu. Dylent egluro nad yw hyn yn effeithio ar hawl rhywun i bleidleisio, ac na ddylent gyfeirio at y rhif etholwr a argraffwyd ar y cerdyn pleidleisio wrth farcio’r gofrestr a chwblhau’r rhestr rhifau cyfatebol. 

Yn hytrach, pan fydd yr etholwr yn cadarnhau ei enw a’i gyfeiriad, defnyddiwch y rhif fel y mae’n ymddangos yn erbyn manylion yr etholwr ar gofrestr yr orsaf bleidleisio ar gyfer cwblhau’r rhestr rhifau cyfatebol.

Rhaid briffio staff gorsafoedd pleidleisio fel eu bod yn gallu ymateb i unrhyw ymholiadau gan etholwyr a allai gwestiynu pam mae’r rhif a nodir a’i ysgrifennu ar y rhestr rhifau cyfatebol yn wahanol i’r un sydd wedi’i argraffu ar eu cerdyn pleidleisio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024