Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Penodi asiant etholiad

Rhaid i bob ymgeisydd gael asiant etholiad, a rhaid i chi gael eich hysbysu am ei benodiad cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiadau tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn yr etholiad.  

Rydym wedi llunio ffurflen ar gyfer hysbysu am benodiad asiantiaid etholiad fel rhan o'r set o bapurau enwebu ar gyfer etholiad1 Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.


Papurau enwebu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Papurau enwebu Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu 

A all ymgeisydd weithredu fel ei asiant etholiad ei hun? 
Gall ymgeisydd benodi ei hun fel ei asiant etholiad. Os na chaiff asiant ei benodi erbyn yr amser uchod, tybir bod yr ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun.2

Tybir bod ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant ei hun hefyd os bydd yn dirymu penodiad ei asiant, neu os bydd yr asiant yn marw, ac na chaiff asiant newydd ei benodi ar ddiwrnod y farwolaeth neu'r diwrnod canlynol.

Os bydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, ni waeth a yw wedi dod yn asiant am na wnaeth benodi un neu am ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad ei hun, gall hefyd ddirymu ei benodiad ei hun a phenodi asiant newydd. Rhaid iddo eich hysbysu yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau o'r fath.3

Cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiad
Rhaid i'r asiant etholiad gael swyddfa, a rhaid i'r hysbysiad o benodiad nodi cyfeiriad y swyddfa y gellir anfon pob cais, hysbysiad, proses gyfreithiol a dogfennau eraill iddi.4 Rhaid i gyfeiriad y swyddfa fod yn gyfeiriad y gellir anfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol iddo, ac felly rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post nac unrhyw flychau post tebyg. 

Rhaid i leoliad y swyddfa fod o fewn ardal yr heddlu.

Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant etholiad fydd cyfeiriad ei swyddfa, ond gallai hefyd fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid wleidyddol neu swyddfa a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad.

Pan fydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun am na wnaeth benodi neb arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad a roddir ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd neu, pan na roddir y cyfeiriad ar y datganiad hwnnw am fod yr ymgeisydd wedi nodi ar y ffurflen cyfeiriad cartref nad yw am i fanylion cyfeiriad ei gartref gael eu cyhoeddi, ystyrir mai'r cyfeiriad a roddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref yw'r cyfeiriad hwnnw. Os bydd y cyfeiriad y tu allan i ardal yr heddlu, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad y cynigydd.5

Mae hyn yn wir hyd yn oed os bydd ymgeisydd wedi dewis i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gynnwys yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio. Dylech wneud hyn yn glir i ymgeiswyr.

Os bydd yr ymgeisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad fel ei asiant etholiad ei hun, rhaid iddo roi cyfeiriad swyddfa o fewn ardal yr heddlu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023